Mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod £2m ar gael i awdurdodau lleol i'w helpu i ddarparu cyfleoedd chwarae i blant eu hardal yn ôl y Gweinidog dros Blant, Huw Irranca-Davies.
Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd i ddeddfu ar gyfer chwarae. O dan Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010, mae dyletswydd ar awdurdodau lleol i asesu'r angen am gyfleoedd chwarae digonol i blant yn eu hardal ac i sicrhau'r cyfleoedd hynny. Nod hyn yw sicrhau bod gan bob plentyn ystod eang o gyfleoedd chwarae sy'n herio ac yn ddifyr i'w mwynhau yn ystod ei amser hamdden.
Mae'r ddeddfwriaeth hefyd yn rhoi cyfarwyddyd i awdurdodau lleol ystyried anghenion amrywiol plant a phobl ifanc eu hardal, gan gynnwys plant anabl.
Bydd y cyllid, ar gyfer blwyddyn ariannol 2018-19 yn help i awdurdodau lleol roi ar waith y camau gweithredu a nodwyd yn eu cynlluniau gweithredu chwarae ar gyfer 2018-19, a chynnal eu hasesiadau digonolrwydd chwarae ar gyfer 2019.
Mae'r prosiectau sydd wedi cael cyllid yn cynnwys:
- Grantiau bychain i gynghorau cymuned i'w galluogi i gyflwyno darpariaeth chwarae sy'n diwallu anghenion y gymuned leol;
- Offer ar gyfer chwarae yn y stryd a chau ffyrdd - siacedi gwelededd uchel, conau, chwibanau, peli etc;
- darpariaeth y tu allan i'r ysgol a darpariaeth adeg gwyliau sy'n gynhwysol ar gyfer plant ag anghenion cymhleth;
- Prosiectau peilot sy'n ymwneud â phlant 11-14 oed, sy'n caniatáu iddynt fynd i ddarpariaeth chwarae trwy gyfrwng y Gymraeg yn ystod gwyliau'r ysgol;
- Sesiynau chwarae ar ddydd Sadwrn ar gyfer gofalwyr ifanc 7 i 17 oed;
- Adnewyddu arwyneb cylchoedd chwarae er mwyn sicrhau gwell mynediad i bawb a chynnwys ystafelloedd synhwyraidd mewn lleoliadau gofal plant a lleoliadau chwarae;
- Offer chwarae awyr agored a than do ar gyfer ysgolion lleol, gan eu hannog i sicrhau bod y cyfarpar ar gael y tu allan i oriau ysgol.
Dywedodd y Gweinidog dros Blant, Huw Irranca-Davies:
“Yng Nghymru, rydym yn falch o fod ar flaen y gad yn fyd-eang o ran sicrhau bod gan ein plant hawl gyfreithiol i chwarae. Rwy'n gadarn o blaid sicrhau ein bod yn parhau i wella cyfleoedd i bob plentyn a pherson ifanc allu chwarae'n ddiogel, ac yn arbennig i helpu i sicrhau bod rhagor o gyfleoedd chwarae ar gael i blant ag anableddau.
“Mae pryder cynyddol am iechyd meddyliol a chorfforol plant a phobl ifanc. Ar yr un pryd, rydym yn gwybod bod chwarae yn gwneud cyfraniad mawr at ffitrwydd a lles plant, ac yn gwella'r ffordd y mae plant a theuluoedd yn edrych ar les.
“Felly, pleser mawr i mi yw gallu dweud bod £2m o gyllid ar gael i helpu ein awdurdodau lleol i ddarparu cyfleoedd chwarae digonol i blant a phobl ifanc yn eu hardal. Bydd hyn yn help i wneud Cymru yn wlad lle mae llawer o gyfleoedd i chwarae, sy'n diwallu anghenion a hawliau ein plant.”
Yn ddiweddar, cynhaliodd Llywodraeth Cymru Symposiwm Polisi Chwarae y Pedair Gwlad 2018. Rhoddodd hyn gyfle i weinidogion y llywodraeth, swyddogion, sefydliadau a phartneriaid chwarae o bob cwr o'r pedair gwlad yn y Deyrnas Unedig i rannu'r hyn y maent wedi ei ddysgu a'u profiadau o ddarparu cyfleoedd chwarae i blant yn strategol.
Ychwanegodd Huw Irranca-Davies:
"Rwyf wrth fy modd bod Cymru wedi cynnal y Symposiwm eleni. Roedd yn ddigwyddiad cynhyrchiol a oedd yn procio'r meddwl a fydd yn llywio ein gwaith er mwyn dal ati i wneud Cymru yn wlad lle mae cyfleoedd i chwarae.”