Bydd buddsoddiad ychwanegol o £25m yn helpu’r GIG i barhau i symud i wasanaethau mwy digidol, dyna gyhoeddiad y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Vaughan Gething heddiw.
Mae’r hwb ariannol yn rhan o Gyllideb ddrafft 2021-22 ac yn cefnogi’r ymateb i bandemig y coronafeirws, gan gynnwys olrhain cysylltiadau a’r rhaglen frechlynnau, yn ogystal â chyflwyno ymgyngoriadau fideo a gweithio o bell yn y GIG.
Bydd y £25m ychwanegol yn cyflymu’r defnydd o ddulliau digidol o weithio ac yn helpu’r GIG a’r gwasanaethau cymdeithasol i fabwysiadu technolegau newydd i wella gwasanaethau.
Bydd hefyd yn cefnogi’r gwaith o drawsnewid systemau digidol mewn ysbytai, y gwasanaethau ambiwlans a’r sector gofal cymdeithasol, ac yn galluogi parhau i dargedu cyllid ar gyfer gwasanaethau hanfodol fel gofal dwys, canser a gofal llygaid.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething:
Mae datblygu ein buddsoddiad digidol yn gyflym ac ar raddfa fawr ochr yn ochr â’n hymateb i’r pandemig a phwysau eraill wedi bod yn her, ond mae’n flaenoriaeth.
Bydd y cyllid ychwanegol a gyhoeddwyd heddiw yn ein helpu i fuddsoddi mewn dyfeisiau symudol, gweithio o bell ac ymgyngoriadau fideo, a chyflymu datblygiadau mewn prosiectau trawsnewid strategol eraill.
Mae technoleg gweithio o bell ac ymgyngoriadau fideo wedi galluogi i wasanaethau’r GIG barhau drwy gydol y pandemig gan leihau’r angen am gyswllt wyneb yn wyneb.
Un gwasanaeth sydd wedi manteisio ar y dull newydd hwn o weithio yw therapi lleferydd i blant. Gan ddefnyddio ymgyngoriadau fideo ar-lein, mae gweithwyr gofal iechyd proffesiynol wedi gallu darparu gwasanaethau i gleifion o adref.
Ac wrth inni barhau i wynebu heriau’r pandemig bydd Llywodraeth Cymru’n gweithio’n agos gydag arweinwyr digidol ar draws GIG Cymru i adnabod rhaglenni presennol y gellir eu datblygu diolch i’r cyllid ychwanegol hwn.
Bydd y cyllid ychwanegol yn helpu i ddarparu buddsoddiad o £175m mewn trawsnewidiad digidol strategol rhwng mis Medi 2019 a mis Mawrth 2022.