Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething, heddiw wedi cyhoeddi £2.4m o arian ychwanegol i fynd i’r afael â chamddefnyddio sylweddau yng Nghymru.
Bydd yr arian yn cael ei roi i’r saith Bwrdd Cynllunio Ardal i’w galluogi i ddarparu gwasanaethau rheng flaen i gefnogi amcanion Llywodraeth Cymru ar gyfer ymdrin â chamddefnyddio sylweddau yng Nghymru. Bydd yn eu helpu i ddatblygu’r gwasanaethau allweddol hyn ymhellach ac i ymateb i adolygiad diweddar gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.
Dywedodd Mr Gething:
“Rwy’n falch o allu cyhoeddi £2.4m o arian ychwanegol i’r Byrddau Cynllunio Ardal. Bydd hyn yn helpu’r byrddau i ddarparu’r gwasanaethau pwysig hyn ac i barhau i’r daclo her barhaus camddefnyddio sylweddau.
Law yn llaw â chyflwyno deddfwriaeth megis Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018, mae’r cyllid ychwanegol hwn yn tanlinellu ein hymrwymiad cadarn a pharhaus i wella canlyniadau iechyd a mynd i’r afael â’r niwed a achosir gan gamddefnyddio alcohol a sylweddau yng Nghymru.
Ers inni lansio ein strategaeth camddefnyddio sylweddau yn 2008, rydym wedi gweld yr amseroedd aros ar gyfer gwasanaethau camddefnyddio sylweddau yn gwella’n gyson. Fodd bynnag, mae’r cyfyngiadau ar y gyllideb yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi golygu na fu modd inni roi mwy o arian i’r maes hwn. Felly rwy’n falch ein bod ni nawr yn gallu cefnogi’r byrddau drwy roi arian ychwanegol iddynt i wynebu heriau’r dyfodol.
Mae hyn yn cynnwys darparu gwasanaethau mwy integredig, fel y nodwyd yn ein cynllun hirdymor ar gyfer y GIG, Cymru Iachach, ac ymateb i adolygiad diweddar Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.”
Mae Cynllun Cyflawni Llywodraeth Cymru ar Gamddefnyddio Sylweddau 2016-18 yn nodi amrywiaeth o gamau gweithredu i fynd i’r afael â chamddefnyddio sylweddau. Bydd gwaith yn cael ei wneud yn y flwyddyn newydd i lywio ein dull gweithredu ar gyfer y dyfodol, gan adeiladu ar y dystiolaeth a’r llwyddiannau hyd yma.
Mae’r saith Bwrdd Cynllunio Ardal ar Gamddefnyddio Sylweddau yn comisiynu ac yn darparu gwasanaethau i drin pobl sy’n dibynnu ar ystod o gyffuriau. Darperir y gwasanaeth ar sail yr angen a nodwyd yn eu hardaloedd. Bydd y swm ychwanego o £2.4m yn cael ei ddyrannu yng nghyllidebau blwyddyn ariannol 2019-20.