Mae £136m pellach wedi cael ei gadarnhau ar gyfer datblygu tai fforddiadwy, cynlluniau lliniaru llifogydd a phrosiectau adfywio ledled Cymru yng Nghyllideb derfynol 2017-18.
Yn y Gyllideb derfynol, bydd £33m o gyllid cyfalaf ychwanegol yn cael ei roi tuag at gefnogi gwaith Cyfoeth Naturiol Cymru ac awdurdodau lleol ar gynlluniau rheoli perygl llifogydd dros y pedair blynedd nesaf. Daw hyn ar ben y cynllun arloesol i reoli perygl arfordiroedd gwerth £150m a fydd yn dechrau yn 2018.
Mae £53m pellach o gyllid cyfalaf wedi cael ei ddyrannu i gyflymu'r gwaith o wireddu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyflenwi 20,000 o dai fforddiadwy yn ystod tymor y Cynulliad hwn. Bydd cyfanswm o £1.36bn yn cael ei fuddsoddi er mwyn cyflawni’r ymrwymiad uchelgeisiol.
Caiff £50m o gyllid cyfalaf ei fuddsoddi mewn rhaglenni adfywio. Bydd y cyllid hwn yn canolbwyntio ar gymunedau mwyaf difreintiedig Cymru ac yn cefnogi amcanion ehangach y Llywodraeth, gan gynnwys y Tasglu Gweinidogol ar gyfer Cymoedd y De, y Metro a'r bargeinion dinesig.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford heddiw:
"Mae Cyllideb derfynol 2017-18 yn un uchelgeisiol ac mae’n cynnig sefydlogrwydd mewn cyfnod o ansicrwydd.
"Yn dilyn cyhoeddi ein cynlluniau gwariant drafft ym mis Hydref, ry'n ni wedi ystyried y materion a godwyd a'r adborth a gafwyd yn ystod y broses graffu.
"Ry'n ni wedi rhoi hwb ariannol i'r meysydd hynny sydd angen cymorth ychwanegol fwyaf fel lliniaru llifogydd ac adfywio cymunedau. Bydd yr arian hefyd yn canolbwyntio ar gyflymu ymrwymiadau presennol fel sicrhau 20,000 o dai fforddiadwy."Bydd y cyllid hwn o fudd i unigolion a theuluoedd a bydd yn helpu i gryfhau cymunedau ledled Cymru."
Bydd Gweinidogion Llywodraeth Cymru'n cyhoeddi manylion pellach ynghylch y dyraniadau penodol dros yr wythnosau nesaf.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths:
"Yn gynharach eleni fe wnaethon ni addo i bobl Cymru y bydden ni'n buddsoddi mwy i liniaru effaith llifogydd ledled y wlad er mwyn diogelu tai a busnesau. Rwy'n hynod o blês ein bod ni wedi gallu gwireddu'r addewid hwn."
Ychwanegodd yr Ysgrifennydd dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant:
"Mae'r cyllid hwn yn newyddion gwych i gymunedau ledled Cymru. Bydd yn cyfrannu'n helaeth at ein gwaith o gyrraedd y nod o ddarparu 20,000 o dai fforddiadwy ychwanegol ac adfywio'r cymunedau sy’n gartref ac yn fan gwaith i nifer o bobl.
"Mae’r maes tai ac adfywio yn ymwneud â llawer mwy nag adeiladau a gall wneud gwahaniaeth mawr i fywydau unigolion ac i gymunedau cyfan."