Neidio i'r prif gynnwy

Er gwaetha’r hinsawdd economaidd anodd, mae hwn yn gynnydd o £12m ar becyn y llynedd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Rhagfyr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Er gwaetha’r hinsawdd economaidd anodd, mae hwn yn gynnydd o £12m ar becyn y llynedd.

Bydd y cyllid yn caniatáu i fwy na 3,500 o fyfyrwyr newydd ymuno â rhaglenni addysg gofal iechyd ledled Cymru. Bydd lleoedd hyfforddi nyrsys yn cynyddu o 161 i 1,911. Bydd cynnydd ym mhob un o’r pedwar maes nyrsio, gan ddatblygu ar y twf a welwyd dros y tair blynedd diwethaf.

Mae’r pecyn buddsoddi hefyd yn cynnwys:

  • Cynnydd o 10% mewn lleoedd hyfforddi ffisiotherapi ac iechyd galwedigaethol
  • Cynnydd yn nifer y lleoedd hyfforddi i ymwelwyr iechyd 
  • Cynnal pob lefel arall o leoedd hyfforddi a gomisiynwyd yn 2017 gan gynnwys y cynnydd o 40% yn y lleoedd hyfforddi i fydwragedd 
  • Sicrhau bod cohort arall o leoedd hyfforddi i gymdeithion meddygol ar gael o fis Medi 2018, ar yr un sail ag yn 2017.
Yn ogystal â hynny, fel rhan o fargen y gyllideb dwy flynedd gyda Phlaid Cymru ar gyfer 2018/19 a 2019/20, bydd £2m y flwyddyn yn cael ei roi i gefnogi rhaglen beilot o ofal nyrsio yn y gymdogaeth ar fodel Buurtzorg yng Nghymru. O hynny, caiff £1.4m ar gyfer pob blwyddyn ei ddefnyddio i gefnogi rhaglenni addysg a hyfforddiant ar gyfer nyrsys ardal, gan gynnwys cefnogi rhyddhau nyrsys i ymgymryd â hyfforddiant.  Mae’r buddsoddiad hwn yn cael ei wneud ar ben y £500,000 ychwanegol a gyhoeddwyd yn gynharach eleni i gefnogi mwy o swyddi meddygol, gan gynnwys ym meysydd Radioleg Glinigol, Offthalmoleg, Deintyddiaeth Meddygaeth y Geg a Deintyddiaeth Bediatrig.  

Dywedodd Vaughan Gething, yr Ysgrifennydd dros Iechyd: 

“Mae polisi Llywodraeth y Deyrnas Unedig o gyni cyllidol wedi cael effaith fawr ar ein cyllideb. Mewn amgylchiadau o’r fath, hyfforddiant sy’n aml yn dioddef gyntaf. Ond mae’r dull hwn yn dangos diffyg gweledigaeth. Rydyn ninnau yn cynyddu’r buddsoddiad mewn hyfforddiant, er gwaetha’r toriadau i’r gyllideb, er mwyn diogelu dyfodol hirdymor y gwasanaeth iechyd.

“Rydw i’n falch iawn ein bod ni unwaith eto yn cynyddu’r lleoedd hyfforddi i nyrsys, bydwragedd, ffisiotherapyddion, gweithwyr iechyd galwedigaethol ac ymwelwyr iechyd. Bydd y pecyn cymorth hwn hefyd yn helpu i gynnal buddsoddiad ar gyfer gweithwyr allweddol eraill gan gynnwys gwyddonwyr gofal iechyd, parafeddygon, hylenwyr deintyddol, therapyddion a radiograffwyr. 

Gyda’n hymgyrch Hyfforddi Gweithio Byw i ddod â meddygon dan hyfforddiant a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill i Gymru, mae hwn yn dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol y gweithlu sydd arno ei angen i ddarparu gofal o ansawdd uchel, heddiw ac yfory.”