Bydd mwy na £10 miliwn yn cael ei fuddsoddi gan Lywodraeth Cymru i foderneiddio seilwaith a gwasanaethau trafnidiaeth yn Wrecsam.
Ffrwyth y buddsoddiad sylweddol hwn ynghyd â chydweithio â Chyngor Wrecsam fydd sefydlu system drafnidiaeth gyfunol a fydd yn rhoi hwb mawr i’r ardal.
Cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet y newyddion ar ôl ymweld â Gorsaf Gyffredinol Wrecsam lle mae cynlluniau i adeiladu canolfan drafnidiaeth yn cael eu llunio ar hyn o bryd. Bydd y ganolfan yn darparu gwasanaethau bysiau a chyfleoedd teithio llesol gwell yn ogystal â safle parcio a theithio.
Bydd y cysylltiad rhwng Gorsaf Gyffredinol Wrecsam a’r brif orsaf fysiau yn cael ei wella hefyd. Bydd y rhwydwaith bysiau yn cael ei adolygu hefyd er mwyn gwella’r cysylltiadau â’r prif leoliadau yng nghanol y dref a thu hwnt iddi, a bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi arian i wella profiadau teithwyr yng Ngorsaf Fysiau Wrecsam.
Cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet hefyd y bydd y gwaith yn parhau i ddatblygu atebion i wella cyffyrdd 3 i 6 ar yr A483 er mwyn mynd i’r afael â phroblemau tagfeydd yn yr ardal.
Yng Nglannau Dyfrdwy hefyd mae cynlluniau yn cael eu llunio i gyfuno Gorsaf Shotton Uchaf a Gorsaf Shotton Isaf i greu Gorsaf Parcffordd Glannau Dyfrdwy newydd. Rydym wedi cydweithio â Chyngor Sir y Fflint i roi mesurau ar waith i wella’r cysylltiadau rhwng teithiau bysiau a theithiau llesol.
Mae’r datblygiadau hyn yn rhan o ’Symud Gogledd Cymru Ymlaen - Ein Gweledigaeth ar gyfer y Gogledd a Metro Gogledd-ddwyrain Cymru’ sy’n nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wella’r rhwydwaith trafnidiaeth ar draws y rhanbarth.
Ymrwymiad pwysig arall yw bod Trafnidiaeth Cymru yn sefydlu uned fusnes yn y Gogledd i gynnal y prosiectau hyn.
Mae arian gan Lywodraeth y DU hefyd wedi’i neilltuo i lunio achos busnes ar gyfer lleihau amserau teithio ar hyd prif reilffordd y Gogledd a’r lein Wrecsam-Bidston.
Dywedodd Ken Skates:
“Dw i wrth fy modd yn cael cyhoeddi bod Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £10 miliwn yn Wrecsam a fydd yn gwella cysylltiadau trafnidiaeth a chysylltu pobl â swyddi a gwasanaethau.
“Mae’r gwaith i foderneiddio gwasanaethau trafnidiaeth a seilwaith yn Wrecsam yn symud yn ei flaen yn gyflym ac rydyn ni’n canolbwyntio nawr ar roi’r cynlluniau ar waith.
“Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau y bydd system drafnidiaeth gyfunol yn y rhanbarth sy’n gweithio i bawb: system fydd yn cysylltu pobl â’i gilydd yn well, gwella profiadau teithio a rhoi hwb i economi’r Gogledd.
“Mae fy ngweledigaeth yn ymwneud â rhannu ffyniant a datblygu economi’r rhanbarth gan gynnwys gwneud y mwyaf o’r cyfleoedd a ddaw o’r Northern Powerhouse. Bydd yn sicrhau bod ein heconomi’n tyfu a hefyd bod buddion cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yn dod ynghyd â buddion iechyd.
“Wrth gwrs, mae gwella cysylltiadau’n dibynnu ar ffactorau sydd y tu allan i Gymru gan fod miloedd o bobl yn croesi’n ffin bob dydd i weithio. Ac felly, dw i wedi sefydlu Grŵp Llywio Trafnidiaeth sydd wedi dwyn ynghyd bartneriaid allweddol o’r Gogledd, Glannau Mersi ac o Swydd Gaer, ac mae eisoes wedi bod yn hanfodol wrth sicrhau bod ein gweledigaeth yn cael ei gwireddu. Hefyd, dw i’n bwriadu cryfhau’n presenoldeb yn y rhanbarth drwy sefydlu uned fusnes Trafnidiaeth Cymru i gynnal y gwaith o roi’n cynlluniau trafnidiaeth ar waith.
“Mae Metro Gogledd-ddwyrain Cymru yn rhan bwysig o’n cynlluniau i sicrhau bod defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn haws ac i chwalu’r rhwystrau presennol sy’n atal pobl rhag teithio’n rhwydd. Yn gynnar yn y flwyddyn nesaf, byddaf yn canolbwyntio ar ein buddsoddiadau yn y Gogledd-orllewin.
“Yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod, bydd Llywodraeth Cymru’n buddsoddi cannoedd o filoedd o bunnau yn seilwaith trafnidiaeth Cymru, sy’n dangos yn glir ein hymrwymiad i’r ardal.”
Croesawyd y cyhoeddiad heddiw gan y Cynghorydd Samantha Dixon, Cadeirydd Growth Track 360, yr ymgyrch dros wella gasanaethau rheilffyrdd yn y Gogledd a Swydd Gaer, a ddywedodd:
“Mae hwn yn gam mawr ymlaen wrth inni wireddu’n cynlluniau uchelgeisiol i wella pob agwedd ar wasanaethau rheilffordd. Bydd y gwelliannau hyn yn helpu i ddod â manteision i breswylwyr a busnesau a rhoi hwb i’n heconomi drawsffiniol. Byddwn yn parhau i gyflwyno’r achos i Swydd Gaer, Glannau Mersi a’r Gogledd er mwyn denu buddsoddiad yn ein system drafnidiaeth.”