Ar y diwrnod cyn i Lywodraeth y DU weithredu Erthygl 50, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig wedi rhoi hwb o £223 miliwn i gymunedau gwledig Cymru.
Cadarnhaodd Lesley Griffiths heddiw y bydd yn rhoi gweddill y gyfran sy’n weddill o’r arian o dan raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru ̶ Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020.
Mae’r cyllid, sy’n gyfuniad o arian gan Lywodraeth Cymru a’r UE, yn fuddsoddiad mewn meysydd allweddol a fydd yn helpu cymunedau gwledig i fod yn fwy gwydn yn ystod y cyfnod pontio ar ôl gadael yr UE. Bydd yn rhoi rhywfaint o sicrwydd i ffermwyr, cynhyrchwyr bwyd, tirfeddianwyr ac eraill yng Nghymru y gallant ddechrau gwneud cynlluniau ar gyfer y dyfodol a datblygu eu gweithrediadau busnesau’n briodol.
Yn ystod nifer o gyfarfodydd bord gron a gweithdai ynghylch gadael yr UE, a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr ar draws portffolio yr Amgylchedd a Materion Gwledig, a drefnwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig yn syth ar ôl canlyniad refferendwm yr UE, roedd eglurder ynghylch trefniadau cyllido yn y dyfodol yn bwnc amlwg.
Mae’r cyhoeddiad heddiw yn golygu y gall amrywiaeth eang o raglenni pwysig ddechrau megis Grant Busnes i Ffermydd, Glastir Uwch, Buddsoddiad mewn Busnesau Bwyd, Cynllun Cydweithredu a Datblygu'r Gadwyn Gyflenwi, Glastir - Creu Coetir, a Chronfa Datblygu Cymunedau Gwledig.
Penderfynodd Ysgrifennydd y Cabinet ymrwymo cyfran yr UE sy’n weddill, gwerth £126.3 miliwn, yn llawn ar ôl i Lywodraeth y DU warantu cyllid ar gyfer yr holl brosiectau a gymeradwyir cyn i’r DU adael yr UE. Cyn hyn, yr oedd y Canghellor wedi gwarantu cyllido dim ond prosiectau a gymeradwyir cyn Datganiad yr Hydref. Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn darparu £96.4 miliwn.
Ddoe, ailgynullodd Grŵp Bord Gron Ysgrifennydd y Cabinet sy’n cynnwys cynrychiolwyr ar draws y portffolio. Yn ogystal, cynhaliwyd cyfres o weithdai ar gyfer rhanddeiliaid ar draws y sectorau, gan gynnwys mwy na chant o bobl, mewn gwahanol leoliadau ledled Cymru rhwng mis Awst a mis Hydref 2016.
Mae’r cyfarfodydd bord gron a’r gweithdai wedi galluogi cynrychiolwyr ar draws portffolio yr Amgylchedd a Materion Gwledig i edrych ar oblygiadau gadael yr UE mewn ffordd gydgysylltiedig ac yn benodol ar y prif risgiau, y cyfleoedd a’r ffyrdd posibl ymlaen.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:
“Bydd yfory’n ddiwrnod arwyddocaol i Gymru ac i’r DU, pan fydd posibilrwydd dyfodol y tu allan i’r UE yn dechrau dod yn wir. Mae hefyd yn nodi’n swyddogol ddechrau cyfnod o ansicrwydd i bawb sy’n gysylltiedig â chymunedau gwledig Cymru. Dydyn ni ddim yn gwybod eto beth i’w ddisgwyl ar ôl 2020 ond rydyn ni’n pwyso ar Lywodraeth y DU i gyflawni’r ymrwymiad a wnaed yn ystod ymgyrch y refferendwm na fydden ni'n colli’r arian y bydden ni wedi ei gael gan yr UE fel arall.
“Rwy’n falch o gadarnhau, felly, y byddwn yn rhoi gweddill yr arian sy’n weddill o dan y Rhaglen Datblygu Gwledig, gwerth bron chwater biliwn o bunnau. Rwy’n gobeithio y bydd hyn yn rhoi sicrwydd i gymunedau gwledig Cymru sydd wedi elwa’n fawr ar amrywiaeth eang o raglenni o dan y Rhaglen Datblygu Gwledig.
“Yn dilyn canlyniad refferendwm yr EU, roeddwn yn awyddus i ddod â chynrychiolwyr ar draws fy mhortffolio ynghyd i drafod yn fanwl y risgiau a’r cyfleoedd o ran gadael yr UE. Mae’r cyfraniad gan bawb a gymerodd ran wedi bod yn gadarnhaol iawn ac maent oll yn gwbl ymrwymedig i gydweithio .
“Mae’r ymgysylltu hwn yn pwysleisio cryfder y cysylltiadau sy’n bodoli yng Nghymru rhwng meysydd megis amaethyddiaeth, cymunedau a’r amgylchedd ehangach. Mae’r trafodaethau a gynhaliwyd wedi bod yn amhrisiadwy wrth nodi sut y dylem gynllunio am ddyfodol y tu allan yr UE.”
Bydd manylion llawn ynglŷn â rhaglenni sydd ar y gweill o dan y Rhaglen Datblygu Gwledig ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru maes o law.