Neidio i'r prif gynnwy

Cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething heddiw y bydd £25m yn ychwanegol o gyllid ar gael ar gyfer gwasanaethau meddygon teulu yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Mehefin 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Gwnaed y buddsoddiad pellach hwn yn dilyn trafodaethau ar gyfer Contract y Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol 2019-20, sydd bellach werth dros £536.6m. Bydd cyllid ychwanegol hefyd ar gael eleni i dalu am gostau cynyddol pensiynau, yn dilyn newidiadau a wnaed gan Lywodraeth y DU. 

Bydd y cyllid yn golygu cynnydd fesul claf yng Nghymru o £86.75 i £90 o gymharu â'r contract presennol. Mae'r gwerth newydd fesul claf hefyd yn uwch na'r hyn sy'n cael ei gynnig yn Lloegr.

Mae'r contract newydd yn diwygio'r ffordd y mae gwasanaethau'n gweithredu, gan roi llawer mwy o bwyslais ar gydweithio rhwng clystyrau i gynllunio a darparu gwasanaethau yn lleol, er mwyn galluogi cleifion i gael gofal yn y cartref neu yn agos i'r cartref - un o brif nodau Cymru Iachach.  

Fel rhan o'r £25m ychwanegol bydd y Contract ar gyfer 2019-20 yn darparu: 

  • Codiad o 3% yn elfen treuliau cyffredinol y contract ar gyfer treuliau cyffredinol  
     
  • Buddsoddiad o £9.2 miliwn ar gyfer gweithredu safonau mynediad at wasanaethau meddygon teulu y tu mewn i oriau arferol, a gyhoeddwyd ar 20 Mawrth 2019.  
     
  • £3.765 miliwn yn ychwanegol i'r Swm Craidd eleni, i ariannu anghenion seilwaith practisau wrth weithio tuag at gyflawni safonau mynediad yn ystod oriau arferol. 
     
  • Bydd buddsoddiad o hyd at £5 miliwn ar gael i hybu gweithio mewn partneriaeth fel y model a ffefrir ar gyfer Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol, ac i annog meddygon teulu newydd i ysgwyddo rolau partner trwy gyflwyno Premiwm Partneriaeth newydd a fydd ar gael i'r holl feddygon teulu sy'n bartner ni waeth beth fo hyd eu gwasanaeth.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething:

Dros y 18 mis diwethaf rydyn ni wedi parhau â'n rhaglen uchelgeisiol o ddiwygio Contract y Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol. Rwy'n cydnabod bod y trafodaethau wedi cymryd mwy o amser na'r hyn roedden ni'n ei ddymuno, ond mae hyn yn atgyfnerthu ein hymrwymiad i drafod diwygio'r contract yn llawn gyda'r Gwasanaeth Iechyd a'r Pwyllgor Meddygon Teulu - Cymru yw'r unig wlad yn y Deyrnas Unedig i gynnwys y Gwasanaeth Iechyd yn y drafodaeth fel hyn. 

"Mae'r cytundeb hwn yn rhoi hwb ychwanegol i wasanaethau meddygol cyffredinol ac unwaith eto yn cynnig bargen well na'r hyn sy'n cael ei gynnig yn Lloegr. Mae'r cytundeb newydd yn darparu buddsoddiad y mae dirfawr ei angen i wasanaethau er mwyn gwella cynaliadwyedd a diwallu'r nodau a osodwyd yn Cymru Iachach, gan gynnwys mwy o sylw i waith clwstwr a darparu gwasanaethau di-dor.

Dywedodd Dr Charlotte Jones, Cadeirydd Pwyllgor meddygon teulu BMA Cymru:

Rwy'n falch bod GPC Cymru a Llywodraeth Cymru wedi gallu dod i gytundeb gyda meddygon teulu sy'n gweithio'n galed ledled Cymru.

Mae cyflwyno'r premiwm partneriaeth, cynnydd yn y swm cyffredinol a'r arian ychwanegol i fynd i'r afael â chostau cynyddol cyfraniadau pensiwn y cyflogwr, yn ymrwymiad clir gan Lywodraeth Cymru eu bod yn bwriadu sicrhau'r annibyniaeth model contractwyr ar gyfer meddygon teulu yn y dyfodol.

Bydd y cam i fynd i'r afael â materion Sefydlog y tro diwethaf hefyd yn sicrhau nad yw'r rhai sydd wedi neilltuo eu gyrfaoedd i wella iechyd a lles cymunedau Cymru yn wynebu'r risg o fethdaliad.

Bydd y contract hwn yn rhoi sicrwydd i feddygon teulu ac yn sicrhau bod cleifion yn parhau i gael gwasanaethau yn y gymuned ac mor agos i'w cartrefi â phosibl.

Dywedodd Judith Paget, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan:

Rwy'n croesawu'r cytundeb hwn sydd wedi'i gyrraedd rhwng y Pwyllgor ymarfer cyffredinol, Llywodraeth Cymru a'r byrddau iechyd yng Nghymru.

Bydd y newidiadau i gontract meddygon teulu a'r buddsoddiad ychwanegol yn sail i gynaliadwyedd gwasanaethau meddygon teulu lleol, a gwyddom fod y cleifion yn gwerthfawrogi hynny gymaint. Edrychwn ymlaen at gefnogi'r gwaith o weithredu'r cytundeb hwn yn lleol fel y bydd cleifion, meddygon teulu a'r gymuned ehangach yn elwa ar y gwelliant yn ansawdd y gwasanaethau a'r mynediad at wasanaethau y mae'r cytundeb hwn yn eu cefnogi.
 

Wrth ochr y newidiadau ariannol, cytunwyd ar nifer o ymrwymiadau eraill fel rhan o'r contract diwygiedig, gan gynnwys:

  • Mwy o bwyslais ar waith clwstwr i gynllunio a darparu gwasanaethau lleol, gyda gwell cynllunio, ymgysylltu a dangosyddion gweithgarwch a symud ambell weithgarwch i'w gyflawni ar lefel clwstwr 
     
  • Fframwaith Sicrhau a Gwella Ansawdd symlach sy'n canolbwyntio ar weithgarwch gwella ansawdd 
     
  • Cytundeb ar y ffordd y bydd byrddau iechyd lleol yn darparu cymorth i feddygon teulu sydd mewn perygl o wynebu problemau wrth orfod ysgwyddo gwaith partneriaid sy’n gadael heb neb i gymryd eu lle.