Neidio i'r prif gynnwy

Dywedodd Gweinidog Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates, heddiw y bydd Metro Gogledd Cymru yn derbyn hwb o £20 miliwn, i barhau â'r buddsoddiad mewn system drafnidiaeth integredig, fodern ac effeithlon ar gyfer y rhanbarth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Rhagfyr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r hwb ariannol yn rhan o gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd yn gynharach yr wythnos hon.

Bydd yr £20 miliwn yn ei gwneud hi'n bosibl i fuddsoddiad barhau ymhob dull trafnidiaeth gan gynnwys teithio llesol megis llwybrau beicio, gwasanaethau bysiau a buddsoddi mewn gorsafoedd a gwasanaethau trenau.

Mae'r gwaith a wnaed ar y metro hyd yn hyn yn cynnwys llwybrau teithio llesol a adeiladwyd ym Mharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy er mwyn cysylltu pobl â busnesau. Mae'r llwybrau hyn a adeiladwyd yn ddiweddar wedi bod yn boblogaidd tu hwnt gydag oddeutu 10,000 o deithiau beicio'r mis drwy'r parc.

Mae bysiau newydd ar gyfer gwasanaethau bws gwennol Glannau Dyfrdwy hefyd wedi cael eu hariannu ac mae safle parcio a theithio newydd yn cael ei adeiladu ym Mharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy.

Bydd cyhoeddiad cyllid heddiw yn adeiladu ar y gwaith hwn gan sicrhau:

  • Mwy o lwybrau teithio llesol
  • Trawsnewid trafnidiaeth gyhoeddus a darparu mwy o wasanaethau parcio a theithio
  • Gorsafoedd newydd a gwell gan gynyddu'r mynediad at y rhwydwaith rheilffyrdd ar gyfer preswylwyr a busnesau.
  • Gwelliannau i'r priffyrdd er mwyn mynd i'r afael â thagfeydd a gwella ansawdd aer a gwella cyfleoedd ar gyfer llwybrau cerdded, beicio a bysiau yn ogystal â mynd i'r afael â diogelwch ar y ffyrdd

Dywedodd Ken Skates:

"Mae Metro Gogledd Cymru yn rhan allweddol o raglen y llywodraeth hon i ddarparu system drafnidiaeth sy'n fwy integredig ac effeithlon ar gyfer y rhanbarth. Drwy fuddsoddi ymhob dull teithio rydym yn gweithio tuag at gyrraedd ein nodau newid hinsawdd a chynaliadwyedd, a sicrhau twf economaidd drwy gysylltu pobl â busnesau.

"Yn y mannau lle y mae'r gwaith eisoes wedi dechrau ar y Metro, er enghraifft y llwybrau teithio llesol newydd ym Mharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy, rydym wedi gweld y canlyniadau gyda phobl yn eu defnyddio nid dim ond er mwyn mynd i'r gwaith ond hefyd yn ystod eu hamser hamdden gyda'u teuluoedd.

"Drwy wella gwasanaethau bysiau a darparu cyfleusterau parcio a theithio bydd gan bobl ddewis arall hyfyw i deithio mewn car i'r gwaith. Ar hyn o bryd dim ond canran fach o bobl sy'n teithio i Lannau Dyfrdwy ar y trên ac rydym yn dymuno newid hyn. Mae gwella amlder y gwasanaeth ar y llinell o Wrecsam i Bidston, gorsaf integredig Shotton a gorsaf Parcffordd Glannau Dyfrdwy i gyd yn mynd i'r afael â hyn.

"Mae'r £20 miliwn rwy'n ei gyhoeddi heddiw yn newyddion da i Ogledd Cymru, gan ei gwneud hi'n bosibl i ni barhau i sicrhau system drafnidiaeth integredig ac effeithlon ar gyfer y rhanbarth.