Mae BlasCymru/TasteWales 2021 eisoes wedi helpu i sbarduno gwerth tua £14m mewn bargeinion busnes newydd a darpar fargeinion ar gyfer busnesau bwyd a diod o Gymru, yn ôl yr adborth cychwynnol.
Roedd y digwyddiad a gynhaliwyd ym mis Hydref yn ICCW yng Nghasnewydd yn gyfle i arddangos bwyd a diod o Gymru.
Gwnaeth dros 100 o fusnesau bwyd a diod o Gymru gymryd rhan yn y digwyddiad a chafodd 21 o'r rhain eu sefydlu yn ystod pandemig COVID.
Cynhaliwyd cyfanswm o 1,695 o gyfarfodydd COVID-ddiogel fel rhan o froceriaeth "Cwrdd â'r Prynwr" rhwng prynwyr masnach a busnesau bwyd a diod o Gymru, gan gynnwys trafodaethau rhithwir.
Roedd 200 o brynwyr masnach yn bresennol ac roedd hyn yn cynnwys y rhan fwyaf o'r prif fanwerthwyr a phartneriaid masnach gwasanaeth bwyd a lletygarwch allweddol yn ogystal ag urddasolion rhyngwladol sydd wedi’u lleoli yn y DU.
Yn ystod y digwyddiad, lansiodd y Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths Grŵp Cynghori newydd ar gyfer Allforio. Bydd hyn yn hanfodol er mwyn helpu i ddatblygu ymhellach allforion ar gyfer y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru.
Mae'n cefnogi Gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y diwydiant Bwyd a Diod o 2021 sy'n anelu at adeiladu ar lwyddiant y sector yng Nghymru gyda'r nod allweddol o helpu i sicrhau diwydiant bwyd a diod ffyniannus sydd ag enw da yn fyd-eang am ragoriaeth.
Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths:
Rwy'n hynod falch o'r busnesau bwyd a diod sydd gennym yng Nghymru, sydd flwyddyn ar ôl blwyddyn yn datblygu ac yn arddangos cynhyrchion newydd, cyffrous ac arloesol.
BlasCymru yw ein prif ddigwyddiad rhyngwladol i hyrwyddo diwydiant bwyd a diod Cymru ac er roedd y digwyddiad ym mis Hydref yn wahanol oherwydd effeithiau COVID, rwy'n falch ei fod eisoes wedi helpu busnesau i sicrhau gwerth tua £14m mewn bargeinion newydd neu bosibl.
Yn ogystal â'r pandemig, mae'n rhaid i ni ystyried heriau’r Newid yn yr Hinsawdd, ac mae ein taith gynaliadwy bellach yn fwy pwysig nag erioed.
Yng Nghymru, rydym yn gwbl ymrwymedig i egwyddorion cynaliadwyedd a thegwch i'n hamgylchedd, ein heconomi a'n cymdeithas gyfan. Mae'n hanfodol ein bod yn defnyddio adnoddau'n effeithlon drwy leihau gwastraff a'n hôl troed carbon a chymryd cyfrifoldeb am safonau uwch yn ein cadwyni cyflenwi.
Roedd BlasCymru/TasteWales 2021 yn ddigwyddiad nodedig yn wyneb heriau digynsail, ac yn garreg filltir bwysig i ddiwydiant bwyd a diod arloesol a gwydn.