Gyda chefnogaeth o fuddsoddiad gwerth £13m, bydd lleihau anghydraddoldebau yn rhan ganolog o Gynllun Cyflawni Llywodraeth Cymru Pwysau Iach: Cymru Iach.
Cadarnhaodd Lynne Neagle, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant y byddai’r cyllid newydd yn cefnogi ystod o wasanaethau atal, gwasanaethau ymyrraeth gynnar a gwasanaethau arbenigol a fydd yn atal ac yn lleihau gordewdra, yn enwedig mewn ardaloedd o amddifadedd.
Cyhoeddodd Ms Neagle fanylion y cynllun wrth ymuno â phlant yn Ysgol y Graig ym Merthyr Tudful ar ddiwrnod cyntaf yr ymgyrch Bwytewch y Llysiau i’w Llethu gan Veg Power. Mae ysgolion cynradd ledled Cymru yn cymryd rhan yn y rhaglen pum wythnos o hyd a fydd yn helpu plant mewn modd hwyliog, i ddeall y pwysigrwydd o fwyta bwydydd iach.
Mae sicrhau bod ysgolion a lleoliadau addysgol eraill yn fannau lle y mae iechyd corfforol ac iechyd meddwl yn cael eu cefnogi ac yn flaenoriaeth yn rhan allweddol o’r cynllun cyflawni newydd. Mae ffocws penodol ar y blynyddoedd cynnar a phlant, ac mae timau iechyd y cyhoedd lleol ym Merthyr, Ynys Môn a Chaerdydd wedi cael cyllid i gynnal tri chynllun peilot Rhaglenni Plant a Theuluoedd. Bydd y rhaglenni hyn yn cydweithio ag ysgolion a lleoliadau lleol eraill i gynnal gweithgareddau sy’n cefnogi teuluoedd i gynllunio, paratoi a choginio prydau iachach.
Bydd gan y ddwy flynedd nesaf o Pwysau Iach: Cymru Iach bwyslais cryf hefyd ar y gwaith o adfer wedi’r pandemig. Rydym yn gwybod bod gordewdra wedi bod yn ffactor risg sylweddol ar gyfer salwch difrifol, cyfnodau yn yr ysbyty neu farwolaeth yn sgil COVID-19. Mae hyn wedi dod â’r rhesymau hynny i’r amlwg pam fod ymddygiadau deietegol a gweithgarwch corfforol yn hanfodol i iechyd cyffredinol pobl.
Yn rhan o’r cynllun, a chyda chefnogaeth o £1m o gyllid blynyddol, bydd Rhaglen newydd Atal Diabetes Cymru Gyfan yn cael ei chyflwyno i sicrhau cymorth.
Yn ogystal, bydd ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei lansio yn nhymor y gwanwyn a fydd yn gofyn am farn y cyhoedd ar ystod o fesurau. Bydd y rhain yn cynnwys edrych ar hyrwyddiadau prisiau, labelu calorïau, cynllunio a thrwyddedu.
Dywedodd Lynne Neagle, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant:
Ein huchelgais yw sicrhau mai Cymru fydd un o’r gwledydd cyntaf i weld gostyngiad yng nghyfraddau gordewdra. Dyma ein hail gynllun cyflawni ar gyfer Pwysau Iach: Cymru Iach ac mae ein ffocws ar geisio atal gordewdra. Mae’r pandemig wedi creu heriau ychwanegol a bydd y cynllun newydd yn adlewyrchu hynny.
Mae yna gysylltiad amlwg rhwng gordewdra ac amddifadedd. Mae cyfraddau gordewdra tua 7% yn uwch yn yr ardaloedd hynny sydd ag amddifadedd uchel ymysg plant. Rydyn ni hefyd yn gwybod bod hyn yn dilyn i fyd oedolion, gyda gordewdra yn gysylltiedig â chyfraddau uwch o salwch yn yr ardaloedd hynny. Rydyn ni’n benderfynol o wella anghydraddoldebau iechyd, a bydd gostwng lefelau gordewdra yn cyfrannu’n helaeth at gyflawni hynny.
Dywedodd yr Athro Kelechi Nnoaham, Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg:
Fel bwrdd iechyd, rydym wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ein gallu i leihau gordewdra. Mae gordewdra yn her gymhleth a gwyddom nad oes atebion syml. Yr unig ffordd o wneud cynnydd yw cydweithio mewn partneriaeth â'r llywodraeth, awdurdodau lleol a sefydliadau fel ysgolion a grwpiau cymunedol. Mae pawb yn chwarae rhan yn ei gwneud hi'n haws i bobl fyw bywydau iachach.