Mae dau o'r un prosiect ar ddeg yn y Gogledd a fydd yn rhannu bron £11 filiwn oddi wrth Lywodraeth Cymru i brofi ffyrdd newydd o dyfu rhannau cyffredin yr economi, yn brosiectau i helpu i ddarparu gwasanaethau cymdeithasol yn Sir y Fflint ac i greu rhagor o farchnadoedd ar gyfer pysgod cregyn ar Ynys Môn.
Bydd Gweinidog yr Economi a Gogledd Cymru, Ken Skates, yn gwneud y cyhoeddiad ar ymweliad â Mon Shellfish ym Methesda i glywed am brosiect mewn partneriaeth â Choleg Llandrillo Menai a Phartneriaeth Ogwen sy'n cael swm o £100,000 er mwyn edrych ar sut i greu rhagor o farchnadoedd lleol ar gyfer pysgod cregyn.
Bydd y prosiect hefyd yn cynnwys rhaglen addysg i ddysgu cymunedau yn yr ardal sut i baratoi ac i goginio bwyd môr lleol, a chafodd y Gweinidog ei hun weld enghraifft o'r rhaglen honno yn ystod ei ymweliad.
Mae'r hwb ariannol hwn ar gyfer yr 11 prosiect yn dod oddi wrth Lywodraeth Cymru drwy Gronfa Her yr Economi Sylfaenol, sydd â'r nod o hyrwyddo ffyniant ym mhob cwr o Gymru ac estyn allan i'r cymunedau hynny ledled Cymru sy'n teimlo eu bod wedi ymddieithrio a'u gadael ar ôl.
Mae’n ymateb hefyd i'r ansicrwydd a'r heriau sy'n ganlyniad i Brexit ac yn arwydd clir o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wasanaethau craidd, ac i fentrau cymdeithasol a busnesau.
Mae'r Economi Sylfaenol yn cynnwys y nwyddau a'r gwasanaethau pob dydd, megis bwyd a gofal cymdeithasol, y mae eu hangen ar bob un ohonom ac sy’n cael eu defnyddio gennym.
Oherwydd nifer ac ansawdd y ceisiadau, mae cyllideb y gronfa ar gyfer Cymru gyfan wedi treblu i £4.5 miliwn. Mae busnesau a mentrau'n gallu gwneud cais am hyd at £100,000 i gyllido prosiectau.
Dywedodd Mark Gray, Cyfarwyddwr gyda Môn Shellfish:
“Gan gydweithio â'r Ganolfan Technoleg Bwyd yng Ngholeg Llandrillo Menai, Partneriaeth Ogwen a Chyngor Sir Gwynedd, bydd cronfa her yr economi sylfaenol yn caniatáu inni daflu'n rhwydi allan i'r gymuned a defnyddio addysg a hyfforddiant i annog pobl i fwyta mwy o fwyd môr ffres, lleol.
“Byddwn ni'n cynnal dosbarthiadau paratoi bwyd môr, arddangosiadau coginio ac yn creu fideos dwyieithog ar YouTube, gan ddysgu pobl, er enghraifft, sut i agor wystrys, tynnu'r cig allan o granc sydd wedi'i goginio, ac agor cregyn bylchog. Byddwn ni'n defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol i roi cyhoeddusrwydd i fanteision bwyd môr lleol i iechyd ac i'r amgylchedd, a byddwn ni'n mynd ati i farchnata'n deunyddiau a'n hyfforddiant ar draws ein cymunedau lleol.
“Bydd y prosiect yn helpu i ail-feithrin cysylltiadau'r gymuned â bwyd môr lleol, yn cefnogi'r diwydiant pysgota lleol ac yn cynnig dewis iach iawn o fwyd. Bydd hefyd yn caniatáu inni gael y tystysgrifau a'r dulliau paratoi angenrheidiol i'w dosbarthu i ysgolion, i leoedd bwyta awdurdodau lleol ac i sefydliadau eraill.”
Mae Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych, sef y Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol ar gyfer Sir Ddinbych ac un o bartneriaid Cefnogi Trydydd Sector Cymru wedi cael dyfarniad o £100,000 er mwyn defnyddio Neuadd y Dref Rhuthun yn hyb ar gyfer y gymuned a busnesau, gan gynnig cyfleoedd newydd i gwmnïau annibynnol a mentrau cymdeithasol. Bydd Canolfan Cydweithredol Cymru yn cynnig cymorth hefyd i fusnesau lleol newydd ac i fusnesau sy'n fentrau cymdeithasol.
Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych, Helen Wilkinson:
“Mae Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych yn falch iawn o gael dyfarniad o Gronfa Her yr Economi Sylfaenol. Gwyddwn fod cryn gystadleuaeth am gyllid. Caiff y grant ei ddefnyddio i adfywio Neuadd y Farchnad Rhuthun, adeilad rhestredig Gradd 2 sy'n wag ac nad oes digon o ddefnydd yn cael ei wneud ohono ar hyn o bryd.
“Byddwn ni'n datblygu marchnad gymunedol, a fydd yn cael ei chynnal gydol y flwyddyn, ar gyfer busnesau newydd, masnachwyr rheolaidd a chrefftwyr lleol, gwneuthurwyr, grwpiau cymunedol a sefydliadau gwirfoddol, ochr yn ochr â mentrau cymdeithasol a busnesau cymdeithasol. Ar y diwrnodau pan na fydd marchnad yn cael ei chynnal, bydd y lle ar gael i'w logi ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau cymunedol a digwyddiadau diwylliannol.
“Mae’n cyfnod cyffrous i Gyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych ac i grwpiau gwirfoddol a chymunedol, i'r Trydydd Sector, mentrau cymdeithasol a busnesau lleol yn Sir Ddinbych. I ni, mae datblygu Neuadd y Farchnad yn gyfle pwysig i greu twf economaidd cynhwysol yn Rhuthun a'r ardal o amgylch y dref, wrth i Gyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych weithio mewn partneriaeth â'r gymuned leol a helpu i ddylanwadu ar ddyfodol Rhuthun a Sir Ddinbych.
“Rydyn ni'n gobeithio cryfhau sylfeini'r economi wledig drwy gadw arian lleol yn lleol, drwy wella'r hyn sydd gan ganol y dref i'w gynnig i drigolion lleol, a chefnogi'r economi ymwelwyr ar yr un pryd. Bydd y cyllid yn amhrisiadwy hefyd o ran galluogi Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych i sicrhau ei fod yn gynaliadwy yn y dyfodol drwy gryfhau'r gallu sydd gennym ni a'r cymunedau rydyn ni'n eu cefnogi ym maes mentrau cymdeithasol.”
Dywedodd Gweinidog yr Economi a'r Gogledd, Ken Skates:
“Bydd y cyhoeddiad hwn heddiw yn rhoi hwb i brosiectau ar draws y Gogledd sydd am wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl.
“Mae'n Cronfa Her yr Economi Sylfaenol yn gwbl hanfodol er mwyn sicrhau bod arian yn cael ei gadw'n lleol, ac mae'n helpu eraill i ddatblygu syniadau drwy arferion da.
“Mae Cynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru ar yr Economi yn newid ein ffodd o weithio o un sy'n seiliedig ar sectorau i un sy'n hoelio sylw ar ddatblygu cymunedau cryfach a mwy cydnerth. Mae'r gronfa'n rhan allweddol o'n strategaeth ac mae'n hanfodol er mwyn datblygu economi ranbarthol Cymru.
“Rydyn ni'n ymrwymedig i gefnogi mwy ar yr elfen hon drwy dreblu bron y swm sydd ar gael ar gyfer prosiectau fel y rhai sy'n cael eu cyhoeddi heddiw er mwyn helpu i sicrhau bod ffyniant yn cael ei rannu'n fwy cyfartal ledled Cymru.
“Bydd Cronfa Her yr Economi Sylfaenol yn helpu i ryw raddau i fynd i'r afael â'r ansicrwydd sy'n wynebu'n heconomi yn sgil y ffordd y mae Llywodraeth y DU wedi ymdrin â Brexit. A ninnau'n llywodraeth gyfrifol, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i ddiogelu swyddi a chymunedau.”
Mae rhagor o wybodaeth am y prosiectau llwyddiannus i’w gweld ar wefan Busnes Cymru.