Mae SPC - un o'r prif wneuthurwyr cyfansoddion rwber rhyngwladol - yn agor ffatri newydd yng Nghwm Rhondda fydd yn creu hyd at 40 o swyddi newydd dros y ddwy flynedd nesaf.
Mae buddsoddiad SPC yn digwydd ar ôl prynu dwy linell gynhyrchu sy'n cymysgu cyfansoddion rwber ar safle Avon Engineered Rubber ym Maerdy. Fel rhan o'i strategaeth hir dymor i fuddsoddi yn ei allu i greu cyfansoddion lliw, symudodd SPC un llinell gynhyrchu i'w bencadlys cynhyrchu yn Westbury, Wiltshire, ac yn wreiddiol roedd yn bwriadu symud yr ail linell i'w gyfleuster yn Barcelona.
Er mwyn cadw'r ased yng Nghymru a chreu swyddi newydd, mae Llywodraeth Cymru yn darparu grant o £150,000 i gefnogi'r buddsoddiad mawr y mae SPC yn ei wneud i ailwampio a dodrefnu’r eiddo ym Maerdy.
Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates:
"Mae hyn yn ganlyniad gwych i bawb sy'n gysylltiedig. Mae SPC yn buddsoddi mewn offer hen a newydd a bydd gan Maerdy ffatri gweithgynhyrchu rwber technoleg uwch newydd gyda swyddi newydd yn cael eu creu. Rwy'n falch i groesawu SPC fel mewnfuddsoddwr newydd ac fel gweithgynhyrchwr blaenllaw yng Nghymru."
Sefydlwyd SPC yn 2001 gan Stephen a Marilyn Hallas. Mae'r busnes preifat yn ehangu'n gyflym ac mae'n cael ei gydnabod fel un o'r prif wneuthurwyr cyfansoddion rwber. Mae ei egwyddorion gweithgynhyrchu o'r safon uchaf yn cyfuno buddsoddi mewn technoleg o'r radd flaenaf â rheoli ansawdd a'r gallu i olrhain llwythi cyfan.
Mae'n arbenigo mewn cynnyrch technegol o safon uchel a ddefnyddir gan arweinwyr y farchnad yn y diwydiannau awyrofod, modurol a phrosesu a'r sector ynni.
Dywedodd Paul Hallas, Cyfarwyddwr Gweithrediadau SPC:
"Bydd y cyfleuster cyfansoddion newydd yn cynrychioli cam diweddaraf ein cynlluniau ehangu ar gyfer y busnes hwn sy'n tyfu. Bydd yn creu arbenigedd compowndio lliw, glân iawn i fyd SPC.
"Bydd y ffatri newydd yn defnyddio'r dechnoleg "intermesh" fodern, fydd yn ein galluogi i gynnig yr opsiwn o gyfansoddion rwber a deunyddiau straen nad ydynt yn rhai du i gwsmeriaid presennol a rhai newydd.
"A chyda mesurau rheoleiddio newydd yn cael eu cyflwyno, rydym yn rhagweld y bydd hwn yn faes fydd yn tyfu yn y dyfodol."
Disgwylir i'r cyfleuster Maerdy newydd fod yn weithredol erbyn dechrau 2017.