Mae Lynne Neagle, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant a Siân Gwenllian, Aelod Dynodedig Plaid Cymru wedi canmol yr hwb iechyd meddwl cyntaf yng Nghymru i bobl ifanc sydd angen cymorth brys.
Mae’r cyfleuster Hwb Argyfwng 24/7 wedi’i sefydlu yng Nghaerfyrddin gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a hynny yn sgil ymrwymiad yn y Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.
Mae’r gwasanaeth Noddfa Plant a Phobl Ifanc yn cynnig darpariaeth iechyd meddwl bwrpasol i blant a phobl ifanc yn yr amgylchedd cywir pan fyddant ei angen fwyaf.
I blant sy’n dioddef, bydd y ddarpariaeth yn atal arosiadau hir mewn adrannau Damweiniau ac Achosion Brys a bydd hefyd yn atal yr angen i wardiau iechyd meddwl acíwt dderbyn plant am asesiadau byr.
Mae canolfannau eraill yn cael eu datblygu yn ardaloedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Hyd yma, mae £3.18 miliwn wedi’i fuddsoddi yn y prosiectau hyn.
Ymwelodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant a Siân Gwenllian AS, yr Aelod Dynodedig â’r cyfleuster argyfwng sydd newydd ei sefydlu.
Dywedodd Lynne Neagle:
Bydd y gwasanaeth pwrpasol newydd hwn ar gael 24 awr y dydd, bob dydd o’r wythnos. Bydd yn sicrhau man diogel i blant a phobl ifanc sydd angen cymorth brys ar gyfer eu hiechyd meddwl ac a fyddai fel arall wedi gorfod mynd i adrannau Damweiniau ac Achosion Brys neu wardiau iechyd meddwl prysur.
Bydd y gwasanaeth hwn yn amhrisiadwy i’r rheini sydd ei angen fwyaf ac sydd fwyaf agored i niwed. Rwy’n falch iawn fod pobl ifanc wedi bod yn rhan o’r gwaith o ddatblygu’r ganolfan.
Mae’r gwasanaethau hyn yn rhan o’n hymdrechion i drawsnewid y modd y mae’r Gwasanaeth Iechyd yn ymateb i faterion iechyd meddwl brys. Mae’r prosiect hwn yn mynd law yn llaw â lansiad diweddar y llinell gymorth ‘111 pwyso 2’ i gael cymorth iechyd meddwl brys a’r gwasanaeth cludo sy’n cael ei ddarparu mewn partneriaeth ag Ambiwlans Sant Ioan. Byddant hefyd o gymorth i liniaru’r pwysau ar ein gwasanaethau brys.
Dywedodd Siân Gwenllian, Aelod Dynodedig Plaid Cymru:
Mae cefnogi pobl ifanc sy’n wynebu argyfwng iechyd meddwl yn hanfodol felly mae’n hollbwysig ein bod yn ehangu’r gwasanaethau pwysig hyn. Bydd sicrhau bod cymorth ar gael i berson ifanc pan fydd ei angen fwyaf a hynny yn yr amgylchedd cywir yn helpu pobl pan fyddant, yn aml, yn fwyaf agored i niwed.
Mae’r ddarpariaeth hon yn cynnig model enghreifftiol o gymorth argyfwng sydd wedi’i gysylltu â’i gilydd yn well. Mae’n galonogol iawn, hyd yn oed o fewn cyfnod byr o amser, ein bod eisoes yn cyflawni’r ymrwymiad i agor canolfannau hanfodol fel yr un yma yn rhan o’r Cytundeb Cydweithio. Edrychaf ymlaen at weld yr arferion gorau hyn yn ymledu ar draws Cymru.
Dywedodd Steve Moore, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda:
Rydyn ni’n hynod o falch o’r datblygiad arloesol hwn, sef y cyntaf yng Nghymru.
Mae’r Hwb arloesol hwn yn wasanaeth newydd a fydd yn darparu cyfleuster pwrpasol ddydd a nos ac yn ddewis amgen i dderbyn cleifion i’r ysbyty. Mae’n cynnig man diogel i blant a phobl ifanc sydd mewn argyfwng ac a fyddai fel arall yn gorfod cael eu derbyn i ofal brys ac argyfwng neu ward iechyd meddwl.
Llongyfarchiadau i bob tîm sydd wedi gweithio’n ddiflino i ddatblygu’r cyfleuster hwn a fydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i iechyd a lles plant a phobl ifanc yn ardal Hywel Dda.