Calsonic Kansei yn datblygu ac yn cynhyrchu technoleg flaenllaw ar gyfer Cerbydau Electronig yn eu gweithfeydd yn Llanelli, gan greu 85 o swyddi ychwanegol
Mae'r gwaith yn cyflogi gweithlu o dros 300 ar hyn o bryd wrth gynhyrchu systemau oeri a chydrannau aerdymheru ar gyfer nifer o gwmnïau moduro mawr ledled y byd.
Meddai Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi:
"Yn gyntaf oll, mae hyn yn dangos hyder gwirioneddol yn y gweithlu yn y gweithfeydd yn Llanelli. Mae cael cwmni sydd mor amlwg yn rhyngwladol i ymrwymo i gadw eu gweithlu presennol yn ogystal â chreu 85 o swyddi eraill yn ystod cyfnod mor ansicr yn newyddion gwych.
"O'n safbwynt ni, mae ein buddsoddiad o £4.4 miliwn nid yn unig wedi helpu i sicrhau'r swyddi hyn dros gyfnod o o leiaf y 5 mlynedd nesaf, ond hefyd wedi sicrhau bod gan Calsonic Kansei, a Chymru, y capasiti a'r arbenigedd sydd ei angen i fod yn arweinwyr byd-eang yn y technolegau Cerbydau Trydan newydd, yn enwedig datblygiadau oeri baterïau.
"Mae'r datblygiad hwn i fodel mwy cynaliadwy yn cyd-fynd yn union â'n Cynllun Gweithredu Economaidd, ac yn gweld y cwmni yn ymrwymo i dwf, gwaith teg, lleihau eu hôl-troed carbon a hyrwyddo iechyd, uwch-sgilio a dysgu yn y gweithle.
"Mae'n gyfnod gwych i ni i gyd i sicrhau bod y cyflogwr rhanbarthol pwysig hwn yn chwarae ei ran o hyd wrth i'n heconomi ddatblygu, ac yn adeiladu ar ein hymrwymiad i sicrhau bod ein busnesau yn barod ac â'r sgiliau angenrheidiol i fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd sy'n cael eu cynnig gan dechnolegau yfory."
Croesawodd Keiichiro Miyanaga, Prif Swyddog Gweithredol Calsonic Kansei yn Ewrop y wobr hon, gan ychwanegu:
"Bydd y cymorth hwn yn helpu inni sicrhau y sgiliau, y cynnyrch a'r buddsoddiad angenrheidiol ar ein safle yn Llanelli, er mwyn bodloni'r gofynion sy'n datblygu'n gyflym o drydaneiddio o fewn y Diwydiant Moduro. Drwy fuddsoddi yn datblygu cynnyrch a chapasiti gweithgynhyrchu ar y safle, gallwn sicrhau bod gennym y gallu sy'n ofynnol i fodloni anghenion cynnyrch ein prif gwsmeriaid yn y dyfodol."