Bydd Cynllun Talebau Gigabit Llywodraeth y DU yn derbyn hwb yng Nghymru diolch i bartneriaeth newydd rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.
- Mae busnesau yng Nghymru bellach yn gymwys ar gyfer talebau band eang gwerth £5,500
- Mae'r talebau bellach yn werth mwy yng Nghymru nag unrhyw le arall yn y DU
Mae gweinidogion o'r ddwy lywodraeth yn annog busnesau a chymunedau yng Nghymru i wneud cais am y cyllid i sicrhau bod ganddynt gyflymder o gigabit.
Mae'r cyhoeddiad yn dilyn cytundeb rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, ac mae'n adlewyrchu costau uwch gosod seilwaith ffeibr yng Nghymru o ganlyniad i dopograffeg y wlad a lleoliad adeiladau.
Ar hyn o bryd mae Talebau Gigabit Llywodraeth y DU – sy'n werth hyd at £2,500 – ar gael i fusnesau bach a'r cymunedau lleol o'u hamgylch i gyfrannu at y gost o osod cyswllt sy'n addas ar gyfer gigabit.
O dan y trefniadau newydd bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi £3,000 ychwanegol i fusnesau o dan faint penodol, a £300 i bob eiddo preswyl. Mae hyn yn golygu bod hyd at £5,500 ar gael fesul busnes ar gyfer prosiectau grŵp* yng Nghymru, o gymharu â £2,500 yng ngweddill y DU. Bydd hyd at £800 arall ar gael i bob eiddo preswyl yng Nghymru, o gymharu â £500 yng ngweddill y DU.
Dywedodd Dirprwy Weinidog yr Economi, Lee Waters:
“Er bod y mwyafrif helaeth o'r adeiladau yng Nghymru bellach yn gallu cael mynediad at fand eang cyflym iawn, rydyn ni'n gweithio'n galed i helpu'r pump y cant sy'n weddill a lle nad oes gan gwmnïau masnachol unrhyw gynlluniau. Nid oes ateb sy'n addas i bawb ar gyfer cyrraedd yr adeiladau sy’n weddill, ac mae'r Cynllun Talebau Gigabit yn rhan bwysig o gyfres o fesurau i helpu i gyflawni hyn.
"Gall y cynllun talebau hwn ddarparu ffynhonnell gyllido hanfodol ar gyfer prosiectau cysylltedd grŵp, a gallai fod yn fanteisiol iawn i gymunedau nad oes ganddynt fynediad ar hyn o bryd. Mae'n dda gen i ein bod wedi llwyddo i weithio gyda Llywodraeth y DU i ddarparu cynllun gwell ar gyfer Cymru, o ystyried yr heriau penodol rydyn ni'n eu hwynebu yma mewn perthynas â daearyddiaeth a lleoliad adeiladau."
Dywedodd Gweinidog dros Faterion Digidol y DU, Margot James:
"Mae'r cynllun hwn, sy'n gyfyngedig i fusnesau a chymunedau yng Nghymru, yn rhan hanfodol o'r Strategaeth Ddiwydiannol fodern ar gyfer adeiladu Prydain sy'n barod ar gyfer y dyfodol. Gan weithio gyda Llywodraeth Cymru, gyda'n gilydd gallwn ni sicrhau bod gan bawb yng Nghymru y cysylltedd sydd ei angen arnynt ar gyfer yr oes ddigidol."
Mae'r cynllun talebau'n rhan o becyn sydd â'r nod o wella cysylltedd yng Nghymru. Mae rhaglen £200 miliwn a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, sef Cyflymu Cymru, eisoes wedi darparu band eang cyflym iawn ar gyfer dros 733,000 o gartrefi a busnesau lle nad oedd gan gwmnïau masnachol unrhyw gynlluniau. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn buddsoddi £22.5 miliwn arall i gyrraedd 26,000 adeilad arall, ac mae Llywodraeth y DU yn cyflwyno Rhwymedigaeth Gwasanaeth Gyffredinol** a fydd yn gwneud band eang cyflym yn hawl gyfreithiol ar gyfer pob cartref a busnes yng Nghymru erbyn 2020.