Neidio i'r prif gynnwy

Mae cwmni rhyngwladol amlwg sy'n cynhyrchu gorchuddion i warchod awyrennau, sydd â nifer o luoedd amddiffyn ymysg eu cleientiaid, wedi datgan bod symud i Ogledd Cymru wedi cyfrannu at eu llwyddiant.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Chwefror 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Symudodd Air Covers i Wrecsam yn 2014 ac mae'n allforio dros 80 y cant o'u cynnyrch.  Dyma brif gyflenwr Lluoedd Awyr Brenhinol Sweden, Lluoedd Awyr Omani a'r Emiraethau Arabaidd Unedig, y Bundeswehr yn yr Almaen, y Llynges Frenhinol, ymysg eraill.

Gyda'u pencadlys yng Nghanolfan Fusnes Bryn ar Ystad Ddiwydiannol Wrecsam, mae Air Covers yn cyflogi dros naw o ddylunwyr llawn amser a gweithwyr peiriannau, ac maent wedi cymryd rhan mewn amrywiol sioeau masnach wedi'u trefnu gan Lywodraeth Cymru.  Bydd yn un o nifer o gwmnïau o Gymru sy'n cymryd rhan yn ymweliad Marchnad Allforio Llywodraeth Cymru i Tsieina a Hong Kong ym mis Mai eleni.

Mae hofrenyddion mewn perygl o gael eu difrodi gan dywod, rhew, lleithder a gwres. Mae Air Covers wedi datblygu cynnyrch i warchod rhag y peryglon hyn, a fyddai fel arall yn cwtogi yr amser y maent yn gallu bod yn yr aer.  Mae'r gorchuddion hefyd yn lleihau yr angen am waith cynnal a chadw, a allai yn ystod oes awyren neu hofrennydd fod deirgwaith pris prynu yr hofrennydd gwreiddiol.  

Mae'r cwmni wedi datblygu deunyddiau sy'n gallu anadlu ac sy'n caniatáu i wres ddianc, ond nad oes modd eu treiddio.  Mae angen eu gosod yn gyflym a rhwydd, oherwydd amodau anodd rhan fwyaf y marchnadoedd y mae Air Covers yn gweithredu ynddynt.  Er enghraifft yn Saudi Arabia mae'n bosibl i'r gwres yng nghaban y peilot gyrraedd 81C wedi dim ond 120 munud heb unrhyw ddull o warchod, tra bo'r tymheredd yn ddim ond 43C gyda'r gorchudd.  

Defnyddir cyfleusterau dylunio drwy gymorth cyfrifiadur ar gyfer pob archeb gan olygu bod modd cymryd mesuriadau sy'n gywir i'r filimedr.

Wrth wneud sylwadau ar y penderfyniad i symud y cwmni i Ogledd Cymru, dywedodd y Prif Swyddog Gweithredol, John Pattinson:

"Roedd symud i Gymru yn gyfnod allweddol i dwf Air Covers. Ers 2006 rydym wedi arwain y byd yn ein maes o arbenigedd - gwarchod offer sydd â gwerth uchel rhag yr amgylchedd. Mae ein cynhyrchiant, amrywiaeth ein cynnyrch, ein hansawdd a'n sgiliau wedi datblygu'n gyflym gyda buddsoddiadau mewn hyfforddiant sgiliau ac offer cyfalaf.

"Cafodd ein hadran sganio laser a'n hadran modelu 3D le i ddatblygu a bu inni lunio partneriaethau â busnesau lleol er mwyn profi cynnyrch. O fewn 18 mis roeddem wedi'n cymeradwyo gan Airbus Helicopters a Bell Helicopters USA gan arallgyfeirio i ddiogelu offer ar y tir a'r môr.

"Nid dim ond y cymorth gwych yr ydym wedi'i gael gan Lywodraeth Cymru sydd wedi arwain at hyn, ond ei hasiantaethau a Chyngor Wrecsam. Rydym hefyd wedi derbyn cefnogaeth gan nifer o fusnesau drwy'r grŵp rhwydweithio, Wrexham Business Professionals. Rwy'n teimlo ein bod yn datblygu'r rhanbarth ac yn falch o fod yma."  

Mae'r cwmni yn gobeithio dechrau cyfnod o gydweithio agos gyda Carchar Wrecsam Berwyn sy'n gyfagos, ble y caiff y carcharorion hyfforddiant NVQ i gynhyrchu is-gwmni Air Cover, Klobbabags.  

Meddai Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi:

"Mae'n wych gweld cwmni fel Air Covers yn ffynnu ers iddynt symud i Ogledd Cymru.  Mae'n gyflenwr enwebedig i rhan fwyaf o luoedd militaraidd y byd, ac elusennau achub yn yr awyr a'r môr, ac mae'n parhau i ehangu.  Mae wedi manteision ar y cyfleoedd i allforio a gynigwyd gan deithiau masnach Llywodraeth Cymru, ac mae ganddo brofiad eang iawn o farchnata rhyngwladol.   Mae'n fantais fawr cael y cwmni yn y rhanbarth hwn ac mae'n dda gweld sut y mae'n mynd ati i gyfrannu at y gymuned y mae'n rhan ohoni."

Mae cyn-bennaeth Rhaglen Hofrenyddion Apache Attack Prydain yn Afghanistan, y Brigadydd Nick Knudsen wedi canmol cynnyrch Air Covers.  Meddai:

"Cael Air Covers i osod gorchuddion ar y fflyd gyfan oedd un o'r penderfyniadau buddsoddi gorau a wnes i, gan ein bod wedi elwa sawl gwaith o gymharu â chost cychwynnol yr archeb.  Air Covers bellach yw'r cwmni o ddewis ar draws fflyd Hofrenyddion Amddiffyn y DU a bydd yn parhau felly gan nad oes cwmni arall sy'n cymharu."