Neidio i'r prif gynnwy

Bydd 27 o brosiectau yn y Cymoedd yn rhannu dros £2.2 miliwn gan Lywodraeth Cymru, i edrych ar ffyrdd newydd o dyfu’r agweddau ar yr economi sy'n rhan o fywyd pob dydd. Mae’r prosiectau hyn yn cynnwys troi siop adrannol segur yng Nghwm Rhondda yn Hyb Menter, nodi cwmnïau adeiladu lleol yng Nghastell-Nedd Port Talbot a allai gynnig pecynnau gwaith o dan £25k, a datblygu ap sy’n cysylltu busnesau â’i gilydd er mwyn rhannu sgiliau, i enwi dim ond tri.

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Hydref 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Gwnaeth Dirprwy Weinidog yr Economi, Lee Waters, a'r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn ymweld â hen siop y Co-op yn Nhonypandy i weld sut bydd Cymdeithas Tai Rhondda, sydd wedi derbyn £100,000, yn adfer yr eiddo gwag, gyda'r nod o roi bywyd newydd i'r stryd fawr.

Mae'r hwb ariannol hwn yn dod drwy gyfraniad Tasglu'r Cymoedd at Gronfa Her yr Economi Sylfaenon Llywodraeth Cymru, sydd â'r nod o wella’r ffordd mae’r economi leol yn gweithio er mwyn mynd i’r afael â’r teimlad a gafodd ei adlewyrchu yn refferendwm yr UE fod rhannau o Gymru yn cael eu gadael ar ôl.

Mae’r cyhoeddiad heddiw yn canolbwyntio ar 27 prosiect yn y Cymoedd o 50 prosiect arbrofol sy’n cael eu cyhoeddi dros yr wythnosau nesaf, er mwyn treialu ffyrdd gwahanol o ddatblygu economïau lleol yng Nghymru. Cymru oedd y wlad gyntaf i fabwysiadu dull yr ‘Economi Sylfaenol’, sy’n cael ei ddefnyddio mewn dinasoedd a rhanbarthau o amgylch y byd.

Mae'r Economi Sylfaenol yn cynnwys y nwyddau a'r gwasanaethau pob dydd y mae ar bawb eu hangen ac sy’n cael eu defnyddio ganddyn nhw.

Dywedodd Luke Takuechi, Prif Swyddog Gweithredol Cymdeithas Tai Rhondda:

"Rydyn ni wrth ein boddau bod Llywodraeth Cymru wedi cefnogi ein cynnig fel rhan o'r gronfa her i gefnogi'r Economi Sylfaenol.

"Rydyn ni'n bwriadu adfer yr ardal hanfodol hon yng nghanol tref Tonypandy, ac mae egwyddorion yr Economi Sylfaenol yn rhan o'n meddwl strategol ar gyfer y prosiect. Rydyn ni wedi buddsoddi yn y safle hwn gan ein bod yn teimlo bod gwir botensial i ddefnyddio sgiliau lleol a syniadau creadigol yn well, i ddatblygu safle bywiog sy'n cael ei ddefnyddio at nifer o ddibenion a fydd yn gwella iechyd, llesiant a ffyniant pobl lleol.

Mae Tasglu'r Cymoedd wedi bod yn gweithio'n agos gyda busnesau, cyflogwyr ac unigolion yn yr ardal i sicrhau eu bod yn ymwybodol o'r mathau o gymorth a chyfleoedd sydd ar gael iddyn nhw i wella eu sefydlogrwydd ariannol.

Oherwydd nifer ac ansawdd y ceisiadau, mae cyllideb Cronfa Her yr Economi Sylfaenol ar gyfer Cymru gyfan wedi treblu bron, i tua £4.5 miliwn. Mae hyn yn cynnwys cymorth oddi wrth Dasglu'r Cymoedd. Roedd busnesau a mentrau'n gallu gwneud cais am hyd at £100,000 i gyllido prosiectau.

Dyfarnwyd £100,000 i Lunax Digital i ddatblygu ap sy'n galluogi defnyddwyr i gyfnewid amser a sgiliau. Er enghraifft, gallai'r ap gael ei ddefnyddio i ddod â dau fusnes at ei gilydd y mae angen eu gwahanol sgiliau ar ei gilydd, ac yn hytrach na chodi ffi am y gwaith, maen nhw'n cytuno i gyfnewid amser ei gilydd i gyflawni eu nod.

Dywedodd Francesca Irving, Rheolwr Gyfarwyddwr Lunx Digital:

"Dechreuodd ein hap fel prosiect hamdden, damcaniaethol fel rhan o Hacathon Caerffili ynghynt eleni. Roedden ni wrth ein boddau pan gafodd ein tîm ei ddewis fel enillydd y dydd, ond yn goron ar y cyfan, gofynnwyd inni gyflwyno ein prosiect i Lywodraeth Cymru i'w ystyried ar gyfer cyllid.

"Mae cael y golau gwyrdd ar gyfer y prosiect hwn yn fendith wirioneddol, gan fod cefnogi busnesau newydd yn rhywbeth rydyn ni'n frwd iawn drosto fe ac yn cynnwys yn ein busnesau ein hunain ar hyn o bryd, fel y mae cefnogi cymunedau difreintiedig a galluogi pawb i gyflawni eu llawn botensial – waeth beth fo’u hamgylchiadau.

Yn dilyn ei ymweliad â Thonypandy, dywedodd Dirprwy Weinidog yr Economi, Lee Waters:

"Mae buddsoddi dros £2.2 miliwn yn y prosiectau hyn yn dangos yn glir ein hymroddiad i gymunedau yn y Cymoedd, ac mae'n ychwanegiad perffaith at ein huchelgais sy'n cael eu hamlinellu yn Ein Cymoedd, Ein Dyfodol.

"Mae cefnogi'r Economi Sylfaenol, sydd hefyd yn cynnwys llawer o fusnesau bach a chanolig, yn flaenoriaeth allweddol ar gyfer Llywodraeth Cymru, ac mae'n cyfrif am un swydd o bob pedair yng Nghymoedd y De. Rydyn ni'n gwybod pa mor bwysig yw'r rhan hon o'r economi i fywoliaeth a dyfodol ein trefi a'n pentrefi, a dyma pam rydyn ni wedi treblu’r arian sydd ar gael drwy'r gronfa ar gyfer prosiectau ledled Cymru.

"Mae gan y 27 cynllun sydd wedi derbyn cyllid yn y Cymoedd y potensial i wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl. O syniadau ar gyfer y diwydiant adeiladu i ddechrau defnyddio adeiladau gwag unwaith eto, fel y gwelwyd yn Nhonypandy; o gefnogi mentrau gofal cymdeithasol i ddatblygu llwybrau cerdded i ddenu pobl i'r ardal – heb os mae Cronfa Her yr Economi Sylfaenol yn gwneud newidiadau er gwell.

"Mae'r Gronfa hefyd yn rhan o'n hymateb i fynd i'r afael a'r heriau a'r ansicrwydd sy’n cael eu peri gan Brexit. Rydyn ni yn y llywodraeth wedi ymrwymo i'n pobl, i gefnogi pobl ac adeiladu'r twf economaidd mae pob un ohonon ni am ei weld.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn:

"Mae wedi bod yn wych dod i Donypandy heddiw i weld sut mae buddsoddiadau gan Lywodraeth Cymru yn helpu i ddechrau defnyddio adeiladau gwag unwaith eto, er les y bobl leol.

"Rydyn ni'n cydnabod yr heriau mae pobl a busnesau lleol yn Nhonypandy yn eu hwynebu, wrth iddyn nhw geisio creu canol tref sy'n lle deniadol a bywiog ar gyfer y bobl sy'n byw a gweithio yno, yn ogystal ag ymwelwyr.

"Bydd y cyllid hwn yn helpu i greu cyfleoedd swyddi a chynyddu nifer yr ymwelwyr. Bydd hyn yn gwneud cyfraniad pwysig at yr economi leol.

"Rydyn ni wedi ymrwymo i adfer ardaloedd i hyrwyddo twf economaidd sydd o fudd i'n trefi a'n cymunedau. Dw i'n edrych ymlaen at weld y buddsoddiad hwn yn helpu'r ardal i tyfu a ffynnu.

Rhagor o wybodaeth am y prosiectau sy’n derbyn cymorth ariannol ar wefan Busnes Cymru.