Cyhoeddodd Lesley Griffiths fod £6.5m o arian gan yr UE wedi'i roi i fenter gwerth miliynau o bunnau i ddefnyddio dŵr o hen lofa i gynhesu cartrefi lleol.
Mae'r dŵr yn nyfnderoedd hen lofa Caerau yn cael ei gynhesu'n naturiol gan y ddaear ac mae Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr wrthi'n ymchwilio sut y gellir ei godi i'w ddefnyddio i gynhesu 150 o gartrefi yn yr ardal trwy ddefnyddio technoleg pwmpio gwres a rhwydwaith o bibelli. Dyma'r cynllun mwyaf o'i fath yn y DU a byddai'n defnyddio'r rheiddiaduron sydd eisoes yn y tai heb ddod â dŵr y lofa ar gyfyl y tai. Ceffyl blaen y byd y math hwn o dechnoleg yw'r Iseldiroedd a agorodd y pwerdy dŵr glofa cyntaf yn y byd yn 2008 yn Heerlen - ardal lofaol lle caewyd y lofa olaf yn y 1970au. Meddai Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths:
"Ein huchelgais yw gwneud Cymru'n arweinydd byd o ran arloesi ag ynni carbon isel. Dyma fodel blaengar ar gyfer cynhyrchu ynni adnewyddadwy o ffynhonnell lân, gan fanteisio ar ein hanes fel gwlad cynhyrchu glo. Yn ogystal â denu rhagor i fuddsoddi yn yr ardal, bydd yn cyfrannu at drechu tlodi tanwydd trwy dorri biliau ynni ac mae potensial ei gymhwyso i weddill Cymru a thu hwnt. "Mae'r cynllun hwn yn cael ei ariannu gan yr UE a bydd yn creu swyddi wrth ei adeiladu ac yn y gadwyn gyflenwi yn ogystal â chynnig hyfforddiant ac addysg mewn maes arloesol iawn."Disgwylir gweld canlyniadau astudiaeth sy'n edrych a yw'r dŵr yn ddigon cynnes i gynhesu cartrefi tua diwedd mis Chwefror. Mae hyn yn dilyn gwaith drilio i'r hen lofa o dan yr Hen Fragdy yng Nghaerau a ddatgelodd fod y lofa'n llawn dŵr hyd at ddyfnder o 230m. Mae Arolwg Daearegol Prydain wedi bod yn profi tymheredd, cemeg a chyfaint dŵr y lofa. Disgwylir i'r dŵr fod tua 20.6 gradd Celsius - hynny yw, yn ddigon cynnes i'r cynllun lwyddo. Dywedodd y Cynghorydd Richard Young, Aelod o Gabinet y Cyngor dros Gymunedau:
"Mae dyfnder y dŵr a'i dymheredd yn golygu bod y cynllun yn bosib, a nawr ein bod wedi cael £6.5m o arian Ewropeaidd oddi wrth Lywodraeth Cymru, y cam nesaf yw edrych beth yw sgôp y cynllun a chael popeth yn ei le i gynnal prosiect blaengar yng Nghwm Llynfi. Bydd hefyd yn gatalydd ar gyfer buddsoddi mewn prosiectau ynni eraill, o bosib trwy'r Fargen Ddinesig a chynlluniau eraill."Er mai dim ond 150 o gartrefi a'r ysgol a'r eglwys leol fydd yn cael eu cynhesu yn y lle cyntaf, efallai bod potensial i'r cynllun gynhesu hyd at fil o gartrefi lleol yn y pen draw. Bwriedir cynnal arddangosfa yng ngwanwyn 2018 pan gaiff canlyniadau'r astudiaeth ei rhannu â phobl Caerau ac ag unrhyw rai eraill allai fod â diddordeb. Bydd y gwaith adeiladu'n dechrau yn 2020. Bydd hwn yn brosiect arddangos o dan Raglen Systemau Clyfar a Gwres Llywodraeth y DU. Llywodraeth y DU, Energy Systems Catapult a Chyngor Pen-y-bont ar Ogwr fydd yn talu'r arian sy'n weddill ar gyfer y cynllun £9.4m hwn. Y partneriaid eraill yw: BGS, Kensa, Egnida, SPECIFIC, Carreg Las, Cyfoeth Naturiol Cymru a'r Awdurdod Glo.