Neidio i'r prif gynnwy

Bydd cyflogwyr mewn dwy Ardal Fenter yng Nghymru yn cael cefnogaeth cyn bo hir i ddatblygu sgiliau fel rhan o raglen beilot Sgiliau Hyblyg Llywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Mai 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y rhaglenni peilot yn golygu y gall pob gweithiwr yn Ardaloedd Menter Glyn Ebwy a Phort Talbot fanteisio ar amrywiol fathau o hyfforddiant wedi’i gymeradwyo, gyda Llywodraeth Cymru yn talu hanner y gost.  

Meddai Ken Skates, Gweinidog yr Economi:  

“Dwi’n falch o gyhoeddi haen newydd o Raglen Sgiliau Hyblyg Cymru, a fydd yn cael ei threialu o fewn Ardaloedd Menter Glyn Ebwy a Phort Talbot.  Mae’r rhaglenni peiot wedi’u cynllunio i’w gwneud yn haws i ddefnyddio’r amrywiol raglenni hyfforddiant sgiliau, gan helpu cyflogwyr a busnesau i feithrin sgiliau a datblygu.  

“Mae’r rhaglen hefyd yn rhoi ysgogiad ychwanegol i gyflogwyr drafod gyda Llywodraeth Cymru a datblygu perthynas fuddiol i’r naill ochr a’r llall gydag ysgolion, addysg bellach a sefydliadau addysg uwch.  

“O Roboteg i archwilio ansawdd, mae’r meysydd hyfforddiant wedi’u dewis yn benodol ar gyfer anghenion cyflogwyr sy’n gweithio yn y meysydd hynny, ac wedi’u cynllunio i’w helpu a gwella sgiliau eu gweithwyr, allai yn ei dro helpu i ddatblygu busnesau a’r economïau lleol.”  

“Dwi’n siŵr y bydd y digwyddiadau lansio yn werth chweil ac yn rhoi cyfle i fusnesau  fod yn rhan o raglen datblygu sgiliau newydd a chyffrous.  Byddem yn annog pob cyflogwr i fod yn rhan o’r rhaglen.”  

Bydd rhaglen beilot Glyn Ebwy yn cael ei lansio mewn digwyddiad gyda’r nos ar 16 Mai yn y Swyddfeydd Cyffredinol, Glyn Ebwy gyda rhaglen beilot Port Talbot yn cael ei lansio yn yr Uwchgynhadledd Sgiliau ar 23 Mai yng Nghanolfan St Pauls, Port Talbot.   

Mae cyflogwyr a gweithwyr a fyddai’n hoffi rhagor o wybodaeth am y digwyddiadau lansio a’r cynllun ei hun yn cael eu gwahodd i anfon e-bost at DFESRM@wales.gsi.gov.uk