Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi llwyddo i gael Lwfansau Cyfalaf Uwch, yn sgil lobïo Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ar gyfer tri safle penodol yn Ardal Fenter Glannau Port Talbot.

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Awst 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Gwnaed y cyhoeddiad heddiw gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, Ken Skates, cyn ail-agoriad swyddogol gorsaf rheilffordd Parkway Port Talbot ar ôl ei hadnewyddu.

Dywedodd Mr Skates bod y buddsoddiad o £13 miliwn yn yr orsaf, a’r Lwfansau Cyfalaf Uwch newydd ar gyfer yr Ardal Fenter yn hwb economaidd dwbl anferth i’r dref. 

Meddai Ysgrifennydd y Cabinet: 

“Mae Lwfansau Cyfalaf Uwch yn erfyn pwysig i gryfhau sylfeini economaidd yr ardal, i symbylu buddsoddiad ac i greu cyfleoedd gwaith newydd. Maen nhw’n ysgogiad cryf i fuddsoddwyr ac yn ennyn hyder yn yr ardal ar adeg o ansicrwydd yn nyfodol gwaith Tata. 

“Rwy’n falch o ymateb cyflym ac adeiladol Llywodraeth y DU.  Bydd yn help i’n hymdrechion i helpu cwmnïau yn y gadwyn gyflenwi a’r amodau cyffredinol i fusnesau yn ardal Port Talbot. Byddwn yn gweithio gyda’n partneriaid i wneud y gorau o’r cyfle hwn i ddenu arian newydd a helpu busnesau i dyfu.  

“Mae’r cymhellion hyn, ynghyd â’r help ehangach ar gyfer twf a swyddi, gan gynnwys y Cynllun Ardrethi ar gyfer Busnesau Bach a Chanolig yn yr Ardal, yn creu amodau da i fusnesau cynhenid sydd am fuddsoddi yn Ardal Fenter Glannau Port Talbot. 

“Mae datblygu’r seilwaith yn hanfodol hefyd i annog pobl i fuddsoddi yn yr ardal. Mae’r £13 miliwn gafodd ei fuddsoddi yn y prosiect, sy’n cynnwys cyfraniad mawr gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, yn golygu bod stesion Parkway Port Talbot bellach yn ateb y diben; diolch i’r gwelliannau helaeth i’r platfformau, y maes parcio a’r cyfleusterau i gwsmeriaid.”