Neidio i'r prif gynnwy

Yn ddiweddar, lansiwyd Hwb Caffael Cydweithredol newydd Cymru ar wefan GwerthwchiGymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Rhagfyr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’r Hwb Caffael Cydweithredol Cymru yn ddull newydd o gaffael cydweithredol yng Nghymru, gan ddod â sefydliadau ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru at ei gilydd, gan nodi cytundebau cydweithredol cenedlaethol, rhanbarthol a lleol.

Gan adeiladu ar waith cydweithio rhwng Llywodraeth Leol Cymru a thîm Cyflawni Caffael Masnachol Llywodraeth Cymru (y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol gynt), mae'r hwb yn darparu mynediad i fframweithiau sydd wedi'u cynllunio i ddiwallu anghenion cwsmeriaid, darparu gwerth am arian, a chwmpasu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

Rydym yn cynnig nifer o fframweithiau caffael cydweithredol ar gyfer amrywiaeth o nwyddau, gwasanaethau a chytundebau gwaith.