Neidio i'r prif gynnwy

Cyn hir, bydd cynghorau lleol yn gallu cael mynediad at hyd at £120m i atgyweirio mwy o ffyrdd lleol dros y ddwy flynedd nesaf, o dan gynlluniau newydd a nodir yng Nghyllideb Derfynol Llywodraeth Cymru 2025-26.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Mawrth 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd y fenter fenthyca llywodraeth leol newydd yn darparu £10m o gyllid refeniw ychwanegol i gynghorau lleol i'w galluogi i ddatgloi £120m o gyllid cyfalaf ychwanegol i gyflymu'r broses o drwsio ein ffyrdd a'n palmentydd lleol.

Bydd y cynllun yn cael ei ddylunio mewn partneriaeth agos â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) a bydd ar agor i geisiadau erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates:

Rwy'n falch iawn ein bod yn gallu helpu cynghorau lleol i gael mynediad at y cyllid angenrheidiol hwn i'w galluogi i gyflymu rhywfaint o'r gwaith atgyweirio y mae mawr ei angen ar ffyrdd lleol ledled Cymru.

Mae cysylltu ein cymunedau trwy drwsio ein ffyrdd yn flaenoriaeth allweddol i ni a byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i wella gwydnwch ffyrdd Cymru yn y dyfodol.

Meddai’r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd CLlLC a'r llefarydd ar drafnidiaeth:

Rwyf wedi bod yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru ar y fenter hon dros y misoedd diwethaf ac rwy'n falch iawn o'i gweld yn dwyn ffrwyth. Roedd menter flaenorol rhwng 2012 a 2014 yn hynod lwyddiannus ac yn dangos yr hyn y gall cynghorau ei gyflawni pan fydd y lefel gywir o gyllid ar gael.

Bydd y cyllid hwn yn galluogi gwelliannau sylweddol i ffyrdd, palmentydd a phontydd ledled Cymru.

Fis diwethaf fe wnaeth Mr Skates hefyd gyhoeddi hwb ariannol o £25m i adnewyddu 100km ychwanegol o brif ffyrdd Cymru ac atal tua 30,000 o dyllau a diffygion ffyrdd yn y flwyddyn ariannol newydd.