Mae Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi wedi cyhoeddi y bydd £125,000 ar gael i ehangu rhaglen diwylliant a threftadaeth.
Bydd yr arian ychwanegol yn cryfhau un o raglenni Llywodraeth Cymru sef Cyfunoac yn ei hehangu o chwe Ardal Arloesi i ddeg. Bydd hynny’n ei gwneud yn haws i gymunedau fod yn rhan ohoni.
Bydd siroedd y Fflint, Caerffili, Conwy a Chaerfyrddin yn ymuno â’r Ardaloedd Arloesi yn Abertawe, Gwynedd, Caerdydd/Merthyr, Casnewydd, Torfaen a Wrecsam a bydd pob un o’r ardaloedd arloesi’n cael cyfran o’r £125,000 ychwanegol.
Y llynedd, bu dros 1,500 o bobl yn cymryd rhan mewn gweithgareddau a drefnwyd o dan raglen Cyfuno. O’r rheini, gwnaeth 500 ohonynt ddilyn cyrsiau neu ddysgu sgil neu ennill cymhwyster newydd.
Gwnaed y cyhoeddiad am y cyllid ychwanegol gan Ysgrifennydd yr Economi wrth iddo ymweld ag Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe. Yno, bu’n cwrdd â phobl ifanc i ddathlu prosiect cyffrous sy’n cael ei arwain gan yr Amgueddfa o dan raglen Cyfuno.
Drwy’r rhaglen, mae plant lleol wedi cael cyfle i gymryd cyfrifoldeb dros lansio dwy amgueddfa gymunedol ym Mlaen-y-maes a Phenlan, cyfle i gyfweld ag aelodau’r gymuned a chreu eu ffilm eu hunain.
Mae Kids in Museums yn elusen annibynnol sy’n mynd ati’n benodol i sicrhau bod amgueddfeydd yn lleoedd agored a chroesawgar i bawb, yn arbennig i’r rheini sydd heb
ymweld ag amgueddfa erioed o’r blaen. Drwy weithio gyda’r rhaglen Cyfuno, mae Kids in Museums bellach yn gallu cyhoeddi y cynhelir Diwrnod Meddiannu 2016 ddydd Iau 10 Tachwedd. Ar y diwrnod hwnnw, bydd plant a phobl ifanc yn cymryd yr awenau mewn amgueddfeydd a safleoedd treftadaeth. Byddant hefyd yn ymgymryd â’r gwaith o wneud penderfyniadau ystyrlon a phwerus, a hynny wrth galon y sefydliad.
Dywedodd Ken Skates:
“Rydw i’n falch fod Cymru ar flaen y gad o ran chwalu’r rhwystrau ym maes diwylliant gan sicrhau bod pawb yn gallu elwa’n fawr ar ein treftadaeth a’i mwynhau. Mae ein rhaglen Cyfuno: Trechu Tlodi trwy Ddiwylliant yn mynd ati i alluogi awdurdodau lleol ac ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf i ddod o hyd i gyfleoedd newydd fel bod pobl na fyddai fel arfer yn ymddiddori mewn diwylliant a threftadaeth yn gallu cael blas ar weithgareddau o’r fath. Drwy hynny mae’r rhaglen yn cyflawni amrediad o bethau gan gynnwys cefnogi pobl ifanc mewn ysgolion a helpu oedolion i feithrin sgiliau drwy wirfoddoli.
“Rydw i’n falch iawn ein bod wedi gallu ehangu Cyfuno i gynnwys pedair ardal ychwanegol. Hoffwn bwysleisio fod sicrhau cyfleoedd i feithrin sgiliau a chyfleoedd i sicrhau twf mewn swyddi, gwarchod ein treftadaeth a dod o hyd i ffyrdd newydd o ysbrydoli ein cymunedau yn parhau i fod yn flaenoriaeth i’r llywodraeth hon.”
Dywedodd Dea Birkett, Cyfarwyddwr Creadigol gyda Kids in Museums:
“Mae diwylliant a threftadaeth yn ddulliau gwych o sicrhau bod pobl ifanc yn cael profiadau, a bod ganddynt uchelgais a mwy o ddewisiadau a chyfleoedd. Mae’r Diwrnod Meddiannu’n yn rhoi cyfle gwych i bobl ifanc nid yn unig i edrych a gwrando ond hefyd i greu, gwneud ac arwain. Rydym yn falch iawn o gael gweithio gyda Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod diwylliant a threftadaeth wrth galon y gwaith o fynd i’r afael â threchu tlodi.”
Dywedodd Steph Mastoris, Pennaeth Amgueddfa Genedlaethol y Glannau:
“Mae’n bleser gennym groesawu Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi i’r digwyddiad hwn. Rydym wedi gwneud yn fawr o’r Diwrnod Meddiannu er mwyn cydweithio’n agos â’r cymunedau lleol. Drwy hynny, rydym yn eu helpu i greu eu hamgueddfeydd eu hunain er mwyn iddynt fedru rhannu, hel atgofion a dathlu eu treftadaeth gyda’i gilydd.”
Dywedodd y Cynghorydd Will Evans, Aelod y Cabinet ar gyfer Trechu Tlodi a Chymunedau yng Nghyngor a Dinas Abertawe, ac sy’n arwain Ardal Arloesi Abertawe:
“Bydd y cyllid hwn yn sicrhau ein bod yn parhau â gwaith arbennig y Bartneriaeth Dysgu Creadigol. Rydym wedi ymrwymo i drechu tlodi ac rydym yn awyddus i barhau i roi cyfleoedd diwylliannol i bawb yn y ddinas, yn enwedig yr ardaloedd difreintiedig.”