Mae parciau cenedlaethol Cymru a thirweddau gwerthfawr eraill ar fin cael £4m o hwb ariannol gan Lywodraeth Cymru, meddai'r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn, heddiw.
Cafodd y cyhoeddiad ei wneud yn y seminar blynyddol ar Dirweddau Dynodedig a gynhaliwyd eleni ym Mharc Cenedlaethol Eryri.
Bydd yr arian ychwanegol hwn ar gyfer 2019/20, sydd ar ben y rhagor na £3m y gwnaeth Llywodraeth Cymru ei neilltuo i'n Parciau Cenedlaethol ac AHNE ym mis Mawrth 2019, yn talu am welliannau allweddol. Bydd llawer o'r cynigion yn cefnogi blaenoriaethau Llywodraeth Cymru, gan gynnwys mesurau datgarboneiddio a gwyrddu, gwella seilwaith twristiaeth, cyfoethogi bioamrywiaeth a rhagor o gefnogaeth ar gyfer hygyrchedd a hamddena.
Ym mis Ebrill, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bod argyfwng hinsawdd. Yn ogystal â rhoi stop ar y dirywiad difrifol mewn bioamrywiaeth, dyma fydd blaenoriaethau pennaf Cymru am y blynyddoedd i ddod.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gydweithio'n effeithiol er mwyn ymateb i'r newid yn yr hinsawdd.
Mae'r Tirweddau Dynodedig wedi gwneud ymrwymiad pwysig i hwyluso'r cydweithio hwn wrth geisio cydbwysedd rhwng y pwysau o du twristiaeth a'r heriau mawr sy'n wynebu'r amgylchedd.
Mae ganddyn nhw ran bwysig i'w chwarae hefyd o ran hyrwyddo twristiaeth gynaliadwy a bydd yr arian yn cefnogi hynny hefyd trwy wella atyniadau i ymwelwyr a llwybrau.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn:
Mae ein parciau cenedlaethol a'n Hardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol yn llefydd arbennig iawn i bobl Cymru ac yn denu miliynau o ymwelwyr bob blwyddyn.
Mae'r tirweddau trawiadol hyn yn allweddol i gynnal ecosystemau cyfoethog a chymunedau bywiog a chryf gan ddarparu amrywiaeth eang o gyfleoedd hamddena.
Mae ein cefn gwlad yn hynod bwysig i bobl Cymru a rhaid i bawb barhau i gael y cyfle i'w fwynhau. Nid mater o'r economi a thwristiaeth yn unig yw hyn - mae ein tirweddau'n cynnig manteision ehangach i ni, fel iechyd a lles.
Mae'r cyhoeddiad yn brawf bod ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod ein tirweddau dynodedig a'u cymunedau'n ffynnu ac yn llwyddo yn parhau."
Mae Llywodraeth Cymru'n dal i gydweithio ag Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol a'r AHNE i wynebu'u problemau - ac yn falch o weld y prosiectau a'r blaenoriaethau y maen nhw wedi'u nodi i fynd i'r afael â'r agwedd bwysig hon o'u gwaith.
Mae'r cyfalaf ychwanegol ar gyfer 2019-20 fesul Tirwedd Ddynodedig yn cynnwys:
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri: £1,858,540
Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: £611,000
Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro: £850,006
AHNE Dyffryn Gwy (Cyngor Sir Fynwy): £60,000
AHNE Llŷn (Cyngor Gwynedd): £59,000
AHNE Ynys Môn (Cyngor Ynys Môn): £347,000
AHNE Gŵyr (Cyngor Dinas Abertawe): £74,172
AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy (CS Ddinbych): £88,000
Cyfanswm: £3,947,718