Neidio i'r prif gynnwy

Bydd Lesley Griffiths, Gweinidog y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig yn cyhoeddi heddiw y bydd pecyn cymorth gwerth £3 miliwn ar gael ar gyfer y rhaglen ‘Sgiliau Bwyd Cymru’. 

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Chwefror 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Gan siarad yn ystod ei hymweliad â chynhadledd ar gyfer cwmnïau bwyd a diod a darparwyr hyfforddiant , sef ‘Buddsoddi mewn Sgiliau: Buddsoddi mewn Twf’, bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cadarnhau y bydd y rhaglen yn dechrau ar 1 Ebrill ac yn rhedeg tan 2023.

Bydd y rhaglen, a gaiff ei rhedeg gan gwmni Lantra, yn cynnwys cyrsiau hyfforddi sydd wedi’u hachredu a heb eu hachredu, yn ogystal â hyfforddiant pwrpasol yn y gweithle. Yn ystod y tair blynedd gyntaf, rhagwelir y bydd 650 o fusnesau’n defnyddio’r rhaglen.

Bydd ar gael i’r holl fusnesau yn y gadwyn cyflenwi bwyd nad ydynt yn gweithio ym maes manwerthu, a bydd cyfraddau ymyrryd yn unol â’r cymorth ategol sy’n cael ei gynnig drwy Borth Sgiliau Busnesau Cymru, Prosiect Helix a Cywain. 

Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud: 

“Yn wir, mae cwmnïau bwyd a diod Cymru eisoes yn llwyddiannus. Mae trosiant y sector wedi cynyddu i £6.9 biliwn, ac ar hyn o bryd mae bron wedi cyrraedd ein targedau uchelgeisiol ar gyfer 2020.

“Mae’n cynllun gweithredu manwl ar gyfer y diwydiant yn amlinellu’n gweledigaeth i ehangu’r sector, cryfhau’u brandiau a’u marchnadoedd, a gwneud hyn oll mewn ffordd gynaliadwy. Sail y llwyddiant hwn yw’n gallu i ddenu a chadw gweithlu dawnus a gwella sgiliau yn y diwydiant.

“Dw i wrth fy modd yn cyhoeddi y bydd £3 miliwn ar gael i ddatblygu ‘Sgiliau Bwyd Cymru’ – pecyn o hyfforddiant technegol a datblygu staff ar gyfer cwmnïau bwyd a diod yng Nghymru. Mae hyn yn dyst i’n hymrwymiad i ddatblygu sgiliau yn y diwydiant a dw i’n hyderus y bydd yn parhau i dyfu a ffurfio asgwrn cefn pwysig i economi Cymru.”


Cewch ragor o wybodaeth am Sgiliau Bwyd Cymru trwy cysylltu gyda Lantra (Wales@Lantra.co.uk / 01982 552646)

Yn ystod y gynhadledd, fe lansiodd Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru strategaeth newydd ar gyfer sgiliau, ac ymrwymodd cwmnïau blaenllaw, gan gynnwys Halen Môn, Bangor Mussels a Puffin Produce, i addewid Sgiliau Cymru. Fel rhan o’r addewid, byddant yn ymrwymo i nifer o gamau gweithredu gan gynnwys anfon cenhadon eu cwmnïau i ymweld ag ysgolion, croesawu ymwelwyr i’w safleoedd gweithgynhyrchu a hyrwyddo gyrfaoedd yn eu cymunedau lleol.