Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, cyhoeddodd y Gweinidog Cyllid Rebecca Evans y bydd cynghorau yng Nghymru yn cael £5.5 miliwn yn ychwanegol i'w helpu i ariannu'r galw cynyddol ar Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor Llywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Chwefror 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor wedi bod yn rhoi cymorth i gannoedd o filoedd o aelwydydd gyda'u biliau treth gyngor ers ei gyflwyno bron i wyth mlynedd yn ôl. Ond gyda llawer mwy o bobl yn wynebu gostyngiad yn eu hincwm neu ddiweithdra o ganlyniad i Covid-19, mae'r Cynllun wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer y ceisiadau.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi bron i £11 miliwn o gyllid ychwanegol i awdurdodau lleol i'w helpu i fodloni’r galw cynyddol ar y cynllun – gan ddarparu cymorth gwerthfawr i aelwydydd sy'n ei chael hi'n anodd ymdopi'n ariannol yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Dywedodd y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans:

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu dull cyfrifol ac wedi'i dargedu o fynd i'r afael ag effaith ariannol y pandemig.

Er bod y coronafeirws yn effeithio ar bawb, rydym yn sylweddoli’r effaith anghymesur y mae'n ei chael ar rai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas.

Bydd y cyllid rwy'n ei gyhoeddi heddiw yn rhoi'r sicrwydd ariannol y mae ei angen ar awdurdodau lleol i barhau i roi cymorth i'r rhai sydd fwyaf ei angen, drwy Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor.

Rydw i’n annog unrhyw rai sy'n credu y gallent fod yn gymwys i gael help gyda bil eu treth gyngor i gysylltu â'u hawdurdod lleol am gyngor.

Dywedodd y Cynghorydd Anthony Hunt, Llefarydd Adnoddau CLlLC:

Bydd yr arian ychwanegol hwn yn cael ei groesawu gan awdurdodau lleol ym mhob rhan o Gymru i helpu aelwydydd sydd dan bwysau o ran biliau treth gyngor.  Mae’r galw am y cymorth hwn wedi cynyddu'n aruthrol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Byddwn yn ategu geiriau'r Gweinidog Cyllid, y dylai unrhyw breswylydd sy'n poeni am ei dreth gyngor gysylltu â'i awdurdod lleol.

Cyn bo hir, bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi dadansoddiad o'r effaith y mae Covid-19 wedi'i chael ar Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor. Rydym hefyd yn parhau i weithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru  ac awdurdodau lleol i ddeall effeithiau tymor hwy y galw cynyddol ar y cynllun ac i asesu graddau unrhyw ostyngiad yn y dreth gyngor a gesglir gan awdurdodau lleol ac effaith hynny arnynt.