Neidio i'r prif gynnwy

Bydd gwasanaethau deintyddol yng Nghymru yn cael £3m ychwanegol o gyllid newydd eleni i gefnogi eu hadferiad o effeithiau’r pandemig a rhoi mynediad ychwanegol i gleifion.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Tachwedd 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Y flwyddyn nesaf bydd deintyddiaeth y GIG hefyd yn cael cymorth pellach drwy gyllid rheolaidd o £2m, a fydd yn canolbwyntio ar wasanaethau deintyddol cyffredinol a chymunedol.

Y gobaith yw y bydd y cyllid hwn, sydd ar gael i Fyrddau Iechyd, yn helpu i fynd i’r afael â materion lleol a gwella mynediad i gleifion.

Daw hyn wedi i wasanaethau deintyddol wynebu tarfu difrifol yn ystod y pandemig oherwydd mesurau iechyd y cyhoedd angenrheidiol i ddiogelu staff a chleifion – gan gynnwys gofynion rheoli heintiau, cadw pellter cymdeithasol, a gwell cyfarpar diogelu personol – sydd wedi golygu y gellir ‘gweld’ llai o gleifion mewn sesiwn glinigol.

Mae’r pandemig wedi effeithio’n ddifrifol ar ddeintyddiaeth oherwydd bod y rhan fwyaf o weithdrefnau’n cynhyrchu aerosol a bod angen i weithwyr deintyddol proffesiynol fod yn agos at y claf pan fyddant yn rhoi gofal a thriniaeth.

Gwnaethpwyd cynnydd o ran adfer gwasanaethau a rhoddir blaenoriaeth i’r bobl â’r anghenion clinigol mwyaf – pobl sydd angen gofal ar frys a phobl sydd wedi cael problemau yn ystod y cyfyngiadau fydd yn cael eu gweld yn gyntaf.

Hyd yn oed gyda mesurau caeth ar waith i ddiogelu cleifion a staff rhag COVID-19, mae tua 30,000 o bobl nawr yn cael eu gweld wyneb yn wyneb bob wythnos ar draws Cymru, a 2,500 o bobl eraill yn cael cyngor ac ymgyngoriadau, neu ymgyngoriadau dilynol, gan eu practisau deintyddol yn rhithwir.

Fodd bynnag, mae oedi o ran cael mynediad i apwyntiadau rheolaidd oherwydd y mesurau diogelwch uwch sydd eu hangen.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan: 

Mae cleifion wedi cael problemau o ran cael mynediad at ddeintyddiaeth yn ystod y blynyddoedd diwethaf, oherwydd bod rhai practisau deintyddol yn cael anawsterau recriwtio a chadw deintyddion. Mae hyn yn ei dro wedi cael effaith ar ddarpariaeth gwasanaethau deintyddol y GIG.

Rydym yn disgwyl y bydd y cyllid hwn yn cynorthwyo byrddau iechyd i fynd i’r afael â’r materion hyn a sicrhau bod y gwasanaeth yn fwy cadarn yn y blynyddoedd i ddod.

Mae deintyddion wedi gweithio’n ddiflino drwy gydol y pandemig ac rydym yn falch bod gwasanaethau wedi parhau ar gyfer y rheini sydd fwyaf o angen triniaeth. Bydd buddsoddi mewn gofal brys a gofal mewn argyfwng yn cynorthwyo gyda’r ymdrechion hyn ac yn hybu adferiad y gwasanaethau.

Dywedodd Warren Tolley, Dirprwy Brif Swyddog Deintyddol Cymru:

Mae deintyddiaeth wedi wynebu nifer o heriau yn y misoedd diwethaf wrth inni addasu i fyw gyda’r pandemig, ond bydd sicrhau bod gennym y seilwaith a’r gefnogaeth i gynnal gwasanaethau yn rhoi hwb i’n hymdrechion i adfer ac yn ein helpu i ddychwelyd i’r lefelau gweithgarwch cyn y pandemig yn gyflymach.

Bydd y cyllid hwn yn ein cefnogi yn y tymor byr, ond hefyd yn hirdymor wrth inni geisio diwygio gwasanaethau a gwella mynediad at ofal deintyddol.