Mae cynlluniau gan Toyota i leihau'r defnydd o ynni a lleihau allyriadau carbon yn ei ffatri yng Nglannau Dyfrdwy yn cael eu cefnogi gan Lywodraeth Cymru, gyda dyfarniad o £375,000 o'i Gronfa Dyfodol Economaidd.
Bydd buddsoddiad o £1.6 miliwn mewn ffwrnais bwrw alwminiwm tymheredd uchel mwy effeithlon, a ddefnyddir wrth gynhyrchu peiriannau hybrid ar y safle, yn lleihau colledion metel yn y broses weithgynhyrchu ac yn sicrhau arbedion ynni sylweddol a llai o allyriadau carbon.
Bydd y prosiect yn lleihau effaith amgylcheddol y safle ymhellach a bydd yn helpu Toyota i gyflawni ei uchelgais o fod yn sero net mewn gollyngiadau carbon erbyn 2050.
Dywedodd Gweinidog yr Economi a Ken Skates:
"Rwy'n falch o allu cefnogi cynlluniau Toyota yng Nglannau Dyfrdwy i leihau allyriadau carbon a chynyddu effeithlonrwydd. Mae'r prosiect yn cyd-fynd â'n hamcanion o ddatgarboneiddio ein sylfaen ddiwydiannol.
"Mae gwaith Glannau Dyfrdwy yn rhan bwysig o weithrediad byd-eang Toyota ac mae'n chwarae rhan allweddol yng Ngogledd Cymru drwy ddarparu cyfleoedd ar gyfer gweithlu medrus iawn. O ganlyniad, mae'r buddsoddiad hwn yn ddatblygiad cadarnhaol i'r rhanbarth.
Dywedodd Tim Freeman, Dirprwy Reolwr Gyfarwyddwr Toyota yng Nglannau Dyfrdwy:
"Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous yn ein ffatri yng Nglannau Dyfrdwy ac yn mynd â ni tuag at ein huchelgais o fod yn sero net o ran allyriadau carbon erbyn 2050. Bydd gennym broses gweithgynhyrchu peiriannau glanach a mwy effeithlon, a fydd hefyd yn lleihau gwastraff.
"Rydym eisoes wedi cymryd camau i leihau allyriadau yng Nglannau Dyfrdwy, gan gynnwys gosod gwaith ynni'r haul, a bydd y datblygiad diweddaraf hwn yn cefnogi gostyngiad pellach i'n hôl troed carbon cyffredinol.