Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, bydd Gweinidogion yn buddsoddi £130 miliwn o gyllid ychwanegol mewn prosiectau cyfalaf allweddol, gan bwysleisio'r hyder yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Tachwedd 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dyma'r ail gylch o gyllid cyfalaf fel rhan o’r Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru eleni. Fis Mehefin, cyhoeddwyd £85 miliwn yn ychwanegol i helpu i gefnogi Cymru drwy gwmwl ansicrwydd Brexit.

Mae'r cylch diweddaraf hwn yn cynnwys £53 miliwn arall i gefnogi busnesau wrth iddynt wynebu Brexit a buddsoddiad ychwanegol ar gyfer datblygiadau'r dyfodol, gan gynnwys:

  • £30 miliwn i fuddsoddi mewn cynlluniau tai, gan gynnwys £10 miliwn ar gyfer ffatrïoedd modiwlar  
  • £19 miliwn mewn teithio llesol a mynd i'r afael â mannau cyfyng ar ein ffyrdd 
  • £20 miliwn i gynnal a chadw ysgolion a cholegau 
  • £7 miliwn i gefnogi ein hamgylchedd, gan gynnwys £4 miliwn ar gyfer Parciau Cenedlaethol
  • £1 miliwn ar gyfer cronfa fenthyca ar gyfer asedau cymunedol i helpu i wneud cyfleusterau cymunedol yn gynaliadwy i'r dyfodol.

Ynghyd â'r buddsoddiad cyfalaf arfaethedig y flwyddyn nesaf, byddwn wedi buddsoddi tua £15 biliwn mewn seilwaith yng Nghymru ers cyhoeddi'r Cynllun Buddsoddi yn 2012. Mae hyn wedi helpu busnesau a gwasanaethau cyhoeddus i gynllunio ymlaen yn ystod cyfnod o ansicrwydd na welwyd mo’i debyg o’r blaen.

Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford:

Mae'r buddsoddiad sy'n cael ei gyhoeddi heddiw yn anfon neges glir bod Llywodraeth Cymru, wrth i’r anrhefn barhau yn San Steffan, yn dal i gyflawni ein hymrwymiadau blaenllaw i ddiogelu buddiannau Cymru a thyfu ein heconomi.

Ychwanegodd y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans:

Mae Brexit dal i fod yn gysgod arnom ni, ond mae angen inni ymateb i'r heriau rydyn ni'n eu hwynebu wrth barhau i gynllunio ar gyfer anghenion seilwaith Cymru i'r dyfodol. Bydd y buddsoddiad rwy'n ei gyhoeddi heddiw yn ein helpu i wneud hynny.

Mae'r mesurau sy'n cael eu cyhoeddi nawr i gefnogi ein hamgylchedd yn gam pwysig o'r daith honno. Ond wrth inni fynd ati i bennu cyllidebau ar gyfer y blynyddoedd nesaf a'r tymor hwy, rwyf wedi ymrwymo i ddefnyddio'r cyfalaf sydd ar gael i gefnogi Cymru wyrddach. Rwy'n bwriadu amlinellu rhagor o fanylion am hyn yn y Gyllideb ddrafft ar 19 Tachwedd.

Mae'r hwb ariannol newydd hwn yn cael ei gyhoeddi ochr yn ochr â'r Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru. Mae'r Cynllun hwn yn amlinellu cynlluniau ar gyfer gwerth mwy na £33 biliwn o fuddsoddiad arfaethedig mewn seilwaith ar draws ystod eang o brosiectau sy'n ymwneud â'r sector cyhoeddus a phreifat.