Mae Ysgrifennydd yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates, wedi cyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi arian i gwblhau Ffordd Gyswllt Llangefni.
Bydd y buddsoddiad a gyhoeddwyd heddiw yn galluogi adran 3 i gael ei gwneud gydag £1.028 miliwn yn cael ei buddsoddi yn ystod y flwyddyn ariannol hon a hyd at £2.5 miliwn yn cael ei darparu yn 2018-19, a fydd yn amodol ar achos busnes diweddar. Mae hynny'n golygu y bydd y Llywodraeth yn cyfrannu cyfanswm o dros £10.6 miliwn at y cynllun.
Mae'r Ffordd Gyswllt, sy'n cael ei chyflenwi fesul pedair adran, yn rhan allweddol o uwchgynllun Grŵp Llandrillo Menai i ddatblygu Campws Llandrillo fel Cyfleuster Ynni a Hyfforddi Peirianneg o fri rhyngwladol.
Bydd y Ffordd Gyswllt hefyd yn bwysig o ran lliniaru effaith traffig yng nghanol tref Llangefni.
Agorodd Ysgrifennydd y Cabinet adrannau 1 a 2 o'r ffordd gyswllt yn swyddogol ym mis Mawrth 2017. Roedd traffig yn gallu defnyddio Adran 4, sef cylchfan newydd ar y gyffordd â'r A5114 a ffordd Ystâd Ddiwydiannol Bryn Cefni, ym mis Rhagfyr.
Mae'r prosiect ar y cyfan wedi cael arian oddi wrth y Llywodraeth, Cyngor Sir Ynys Môn, Grŵp Llandrillo Menai a'r Awdurdod Datgomisiynu Niwclear.
Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates:
"Mae Ffordd Gyswllt Llangefni yn ddatblygiad hanfodol a fydd nid yn unig yn galluogi Grŵp Llandrillo Menai i ehangu, ond hefyd yn gwella mynediad i fusnesau yn Ardal Fenter Ynys Môn ac yn helpu'r ardal i wireddu ei photensial i sicrhau twf economaidd.
"Roedd modd gwneud hyn oll diolch i'r bartneriaeth agos rhwng Llywodraeth Cymru, Cyngor Sir Ynys Môn, Grŵp Llandrillo Menai a'r Awdurdod Datgomisiynu Niwclear. Mae'n enghraifft wych o'r hyn sy'n gallu cael ei wneud pan fo pawb yn anelu at gyflawni'r un nod.
"Rwyf wrth fy modd y bydd cyhoeddiad heddiw yn golygu y bydd modd cwblhau'r llwybr newydd hwn a fydd yn rhoi hwb sylweddol i'r ardal. Bydd hefyd yn gwireddu fy ymrwymiad i wella ein rhwydwaith trafnidiaeth i gysylltu cymunedau a busnesau â swyddi a gwasanaethau".
Dywedodd y Cynghorydd Bob Parry, sy'n gyfrifol am Ffyrdd, Gwastraff ac Eiddo yng Nghyngor Sir Ynys Môn:
"Rydym wrth ein bodd o gael yr arian sydd ei angen arnom i gwblhau adran derfynol y prosiect seilwaith pwysig hwn".
"Bydd Ffordd Gyswllt Llangefni yn sicrhau budd economaidd sylweddol i Langefni ac Ynys Môn. Bydd yn rhoi hwb i ehangu campws Grŵp Llandrillo Menai ac yn ysgogi cyfleoedd hyfforddi pellach ar gyfer ein pobl ifanc. Bydd y prosiect hefyd yn gwella mynediad i safleoedd yr Ardal Fenter a gwibffordd yr A55, ac yn helpu i oresgyn y cyfyngiadau traffig yn Llangefni.
"Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet, Ken Skates, a Llywodraeth Cymru am eu cymorth parhaus sydd wedi arwain at gyflawni'r prosiect hwn".
Dywedodd Dafydd Evans, Prif Swyddog Gweithredol Grŵp Llandrillo Menai:
"Heb un amheuaeth bydd cwblhau Ffordd Gyswllt Llangefni yn chwarae rôl bwysig yn natblygiad Llangefni, yr Ardal Fenter a'r rhanbarth cyfagos.
"Mae'r prosiect hwn eisoes wedi galluogi Grŵp Llandrillo Menai i ddechrau cynllun uchelgeisiol i ddatblygu ein campws yn Llangefni.
"Mae'r gwaith o adeiladu Canolfan Peirianneg eisoes yn mynd rhagddo'n dda. Mae'n ddatblygiad a fydd yn chwarae rôl bwysig yn natblygiad a thwf y rhanbarth yn y dyfodol. Bydd yn sicrhau bod gennym weithlu medrus i ategu'r diwydiant peirianyddol ac ynni yma ar Ynys Môn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol".
Ar ôl proses dendro gystadleuol, Jones Bros Civil Engineering UK o Ruthun fydd yn gyfrifol am adeiladu'r adran derfynol. Mae disgwyl i'r gwaith ddod i ben tuag at ddiwedd 2018.