Neidio i'r prif gynnwy

Bydd plant a phobl ifanc Cymru sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn elwa ar fuddsoddiad ychwanegol gwerth £8m.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Rhagfyr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r cyllid hwn yn rhan o Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21 a bydd yn helpu plant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol i gael addysg o safon ac i gyrraedd eu llawn botensial.

Bydd y buddsoddiad yn helpu awdurdodau lleol a cholegau addysg bellach i ddarparu addysg i ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae’r swm newydd hwn yn ychwanegol at y pecyn gwerth £20m sydd ar hyn o bryd yn cefnogi’r system anghenion dysgu ychwanegol newydd yn ystod tymor presennol y Cynulliad.

Mae addysg anghenion dysgu ychwanegol yn cael ei drawsnewid yng Nghymru wedi i Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) ddod yn gyfraith y llynedd. Mae disgwyl i system cymorth statudol newydd ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol ddod i rym ym mis Medi 2021.

Wrth wneud y cyhoeddiad, dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams: 

“Rydyn ni’n benderfynol o sicrhau bod pob dysgwr yn cael ei gefnogi i gyflawni ei llawn botensial, beth bynnag yw ei gefndir. 

“Rydyn ni’n cydnabod bod cynghorau lleol yn parhau i wynebu pwysau sylweddol wrth gefnogi pobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae’r buddsoddiad rydyn ni’n ei gyhoeddi wedi’i dargedu’n benodol i helpu i reoli’r pwysau hynny a darparu’r addysg orau bosibl i ddysgwyr wrth fynd ati i weithredu ein rhaglen uchelgeisiol i ddiwygio anghenion dysgu ychwanegol. 

“Gallwn fod yn falch bod Cymru’n arwain y ffordd gyda’n diwygiadau. Bydd y newidiadau a wnawn yn sicrhau ein bod yn adnabod y rheini sydd ag anghenion dysgu ychwanegol cyn gynted â phosibl er mwyn inni weithio gyda nhw a’u teuluoedd i gynllunio cymorth pwrpaso i ddiwallu eu hanghenion. 

“Rydyn ni’n newid y disgwyliadau, y profiadau a’r deilliannau ar gyfer pobl ifanc er mwyn helpu ein dysgwyr i gyflawni eu llawn botensial.” 

Dywedodd Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru: 

“Rwy’n croesawu cynlluniau Llywodraeth Cymru i roi’r hwb gwerthfawr yma i’r system. Mae fy Ngwasanaeth Ymchwilio a Chynghori yn delio’n amlach ag ymholiadau ynghylch cymorth ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol nag unrhyw fater arall, ac mae fy ngwaith achos yn dangos nad yw plant a phobl ifanc bob amser yn cael yr hyn sydd ei angen arnynt. 

“Mae’n hanfodol buddsoddi nawr, fel bod modd cefnogi plant a phobl ifanc ar unwaith, a chynyddu ein gallu ar draws Cymru cyn i’r ddeddf newydd ddod i rym.”