Neidio i'r prif gynnwy

Bydd Lesley Griffiths, yn cyhoeddi heddiw y bydd cyfleuster gwyddonol heb ei ail yn cael ei ddatblygu ym Mhrifysgol Bangor yn sgil hwb ariannol gwerth £5 miliwn gan yr UE.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Ionawr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y cyllid yn helpu i greu'r Ganolfan Biotechnoleg Amgylcheddol, a fydd yn  golygu bod y Brifysgol ar flaen y gad ym maes ymchwil ynghylch sut y mae modd defnyddio deunyddiau naturiol o fewn cynhyrchion a phrosesau diwydiannol. 
Bydd y buddsoddiad yn galluogi Prifysgol Bangor i weithio ar brosiectau ymchwil a datblygu ar raddfa fawr gyda busnesau byd eang mewn sectorau fel gwyddorau bywyd, fferylliaeth, ynni a gweithgynhyrchu. 
Bydd y cyfleuster yn cynnwys cyfarpar o'r radd flaenaf a bydd yn cynnig arbenigedd heb ei ail ym maes pennu ac ynysu ensymau mewn ecstremoffil. Microorganebau yw'r rhain sy'n ffynnu mewn amodau eithafol fel tymheredd uchel, halltedd neu asidedd. Mae hyn yn ei gwneud hi'n bosibl i ddefnyddio'r ensymau ar gyfer trawsnewid prosesau diwydiannol o fewn sectorau allweddol o'r economi. 
Wrth siarad mewn digwyddiad yng Ngogledd Cymru ar Fuddsoddiad Rhanbarthol yng Nghymru ar ôl Brexit, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths:  
"Cefnogi mentrau sy'n datblygu ymchwil gwyddonol arloesol yw un o nodau allweddol Llywodraeth Cymru. Bydd y buddsoddiad hwn yn creu canolfan ragoriaeth ar gyfer ymchwil blaengar, yn denu mewnfuddsoddiad ac yn sicrhau bod modd i Gymru fanteisio ar yr effeithiau economaidd y gallai'r maes diwydiannol hwn sy'n prysur dyfu eu hysgogi. 
"Dyma un o nifer o enghreifftiau o'r modd y mae cronfeydd yr UE yn cefnogi economi ein gwlad, yn cefnogi twf a swyddi ac mae’n tynnu sylw at bwysigrwydd sicrhau y bydd Cymru'n derbyn cyllid gan Lywodraeth y DU yn lle cyllid yr UE ar ôl Brexit." 

Bydd Prifysgol Bangor hefyd yn buddsoddi yn y Ganolfan Biotechnoleg Amgylcheddol. Caiff y ganolfan ei lleoli ar safle Ffordd Deiniol a bydd yn ffurfio rhan gyntaf o'r ailddatblygiad sylweddol sydd ar y gweill o safle gwyddoniaeth a pheirianneg y Brifysgol. 
Dywedodd y Cydarweinydd, yr Athro Peter Golyshin: 
"Mae modd i'r ensymau hyn gael eu defnyddio'n helaeth mewn nifer o brosesau diwydiannol gan gynnwys y diwydiant fferyllol. Bydd y prosiect yn defnyddio cyfarpar dadansoddol o'r radd flaenaf a fydd yn rhoi Gogledd Cymru ar flaen y gad o safbwynt datblygiadau o fewn yr agwedd gyffrous hon ar faes biotechnoleg."
Bydd y gwaith adnewyddu ar gyfer datblygu'r ganolfan yn cychwyn yng nghanol mis Chwefror.