Neidio i'r prif gynnwy

Mae dau brosiect adeilad yng Nghaergybi wedi elwa ar hwb ariannol gwerth £4.7 miliwn gan Lywodraeth Cymru a thrwy fuddsoddiad gan yr UE.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Mai 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y cyllid yn cefnogi'r gwaith o adeiladu dwy uned fusnes newydd ym Mhenrhos ac ailadeiladu Neuadd Farchnad hanesyddol Caergybi. 

Bydd y datblygiad gwerth £3.9m ar gyn safle Heliport ar Ystad Ddiwydiannol Penrhos yn creu dros 2,800m² (30,000 troedfedd sgwâr) o ofod swyddfa, gofod diwydiannol ysgafn a gofod storio ar gyfer busnesau a bydd yn cefnogi sector ynni carbon isel Ynys Môn sy'n parhau i dyfu.

Caiff y prosiect ei arwain gan Gyngor Sir Ynys Môn ac mae wedi derbyn gwerth £2.3m o gronfeydd yr UE mewn menter ar y cyd â Llywodraeth Cymru. Mae Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, wedi darparu £1.5 miliwn tuag ato. 

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, Mark Drakeford: 

"Bydd y buddsoddiad hwn yn helpu i sicrhau bod gan Gaergybi seilwaith addas a fydd yn galluogi busnesau i fynnu o fewn y sector carbon isel sy'n parhau i dyfu ac yn creu ffyniant o fewn Gogledd Cymru."

Bydd Neuadd Farchnad hanesyddol Caergybi yn derbyn dros £818,000 ar gyfer cwblhau'r gwaith o'i hailddatblygu'n ganolfan wybodaeth, busnes a chymunedol fodern. Y ganolfan hon fydd cartref llyfrgell canol y dref. Mae'r buddsoddiad hwn yn rhan o Gronfa Adeiladu ar gyfer y Dyfodol Llywodraeth Cymru. Dyma gronfa sy'n werth £110m.

Caiff Adeiladu ar gyfer y Dyfodol ei ategu gan £38 miliwn o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a £16 miliwn o gronfa arian cyfatebol Llywodraeth Cymru. Bydd y rhaglen yn cefnogi twf busnesau, yn creu swyddi ac yn cynyddu nifer y bobl sy'n ymweld â chanol trefi. Mae'r buddsoddiad yn cynnwys dros £570,000 gan yr UE ac mae'n ychwanegol at fuddsoddiad o dros £860,000 gan Lywodraeth Cymru ar gyfer prosiect Neuadd y Farchnad, sy'n cael ei arwain gan Gyngor Sir Ynys Môn. 

Dywedodd y Gweinidog Tai ac Adfywio Rebecca Evans: 

"Mae Adeiladu ar gyfer y Dyfodol yn llwyddo i adfywio canol trefi ac ardaloedd cyfagos yng Nghymru drwy adnewyddu neu ailddatblygu tir ac adeiladau sydd mewn cyflwr gwael iawn neu sy'n cael eu tanddefnyddio, gan greu defnydd o'r newydd ohonynt. 

"Bydd ailddatblygu'r Neuadd y Farchnad yn creu adnodd newydd a chyffrous yng nghanol y dref a bydd yn cyfrannu at y gwaith o adfywio canol y dref." 

Ychwanegodd deiliad portffolio Datblygu Economaidd a Phrosiectau Mawr, y Cynghorydd Carwyn Jones:

“Rydyn ni’n benderfynol o dyfu’r economi leol a chreu rhagor o gyfleoedd gwaith ar Ynys Môn. Dyna pam rydyn ni’n gweithio’n galed i ddenu prosiectau sector preifat, rhagor o fuddsoddiad a chyllid a fydd yn helpu’r gwaith adfywio mewn sawl ffordd. 

“Ar hyn o bryd, mae mwy o brosiectau sector preifat mawr ar y gweill ar Ynys Môn nag erioed o’r blaen. Rydyn ni am sicrhau bod y seilwaith angenrheidiol yn ei le er mwyn i’r Ynys elwa ar y cyfleoedd busnes cyffrous hyn. Dw i’n ddiolchgar i gydweithwyr yn Llywodraeth Cymru ac yn yr ERDF am weithio mewn partneriaeth gyda ni i ddarparu’r unedau busnes newydd hyn a phrosiect cyffrous Neuadd y Farchnad yng Nghaergybi.”

“Bydd y Neuadd Farchnad newydd yn cadw adeilad dinesig pwysig a darn sylweddol o hanes cyfoethog Caergybi. Bydd yr adeilad sydd wedi’i ailwampio hefyd yn creu canolbwynt i’r gymuned leol a lle a fydd o werth i’r bobl sy’n byw yno. Bydd hefyd yn gartref i lyfrgell newydd sbon ac yn ganolfan i gyfeirio ymwelwyr at fannau diddorol lleol.”