Mae Gweinidogion wedi cyhoeddi heddiw y bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi bron i £1.3 miliwn i'w gwneud yn haws i bobl yng nghymunedau'r cymoedd a'r rhai heb fynediad at dechnoleg ddigidol elwa ar drafnidiaeth gyhoeddus newydd a gwell.
Bydd y ddau brosiect, sy'n cynnwys ymestyn canolfan gyswllt y cynllun bws Fflecsi a chynllun peilot Trafnidiaeth Cymoedd y Gorllewin, nid yn unig yn helpu i wella cysylltiadau trafnidiaeth, cysylltu cymunedau a darparu atebion sydd ar gael i bawb, ond hefyd yn helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd – yn sgil cyflwyno bysiau trydan newydd a datblygu opsiynau i deithio mewn modd mwy llesol.
Bydd Cynllun Peilot Trafnidiaeth Cymoedd y Gorllewin yn rhoi cyfleoedd i bobl feithrin cysylltiadau ar draws cymunedau at ddibenion gwaith, addysg, iechyd a gweithgareddau cymdeithasol drwy ddatblygu gwasanaethau newydd a chynhwysol tra'n gwella a manteisio i'r eithaf ar y buddsoddiad presennol mewn cynlluniau teithio llesol a chynlluniau rhentu e-feiciau.
Trwy gydol y cynllun peilot 12 mis, bydd y Gymdeithas Trafnidiaeth Gymunedol (CTA), yn gweithio'n agos gyda chymunedau yng Nghymoedd Aman, Abertawe, Dulais a Chastell-nedd i ddeall mwy am y mathau o deithiau y mae pobl am eu gwneud a helpu i nodi'r mathau o drafnidiaeth sydd fwyaf addas ar gyfer anghenion lleol.
Gallai'r opsiynau hyn amrywio o ddatblygu darpariaeth teithio llesol i glybiau ceir trydan cymunedol a benthyciadau ar gyfer e-feiciau, gan ei gwneud yn haws i bobl gysylltu â gwasanaethau hanfodol mewn ffordd fwy cynaliadwy ac iach. Bydd y cynllun peilot yn canolbwyntio i ddechrau ar ddarpariaeth trafnidiaeth gymunedol bresennol a thraddodiadol, drwy ddefnyddio bysiau mini trydan.
Yn ogystal, mae buddsoddiad yn cael ei wneud i ehangu gwasanaeth sy'n helpu pobl heb fynediad at dechnoleg ddigidol i fanteisio ar wasanaethau bws Fflecsi ledled Cymru.
Mae canolfan gyswllt y cynllun Fflecsi, sy'n cael ei rhedeg gan Trafnidiaeth Cymru, yn darparu cefnogaeth a chymorth i rai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn y gymuned y mae angen iddynt archebu trefniadau teithio hanfodol, ond nad ydynt yn gallu gwneud hynny drwy ap Fflesci, gan gynnig gwasanaeth allweddol a fydd yn galluogi pobl i deithio.
Bydd yr arian ychwanegol yn galluogi'r ganolfan gyswllt i ymestyn ei horiau agor, darparu gwasanaethau ychwanegol wedi'u teilwra o ddrws i ddrws ar gyfer teithwyr anabl neu'r rhai ag anghenion symudedd eraill a darparu cymorth wedi'i dargedu'n fwy i gymunedau sy'n defnyddio'r ganolfan gyswllt. Bydd y ganolfan hefyd yn gweithio gyda chymunedau i godi ymwybyddiaeth o'r gwasanaeth.
Dywedodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, sy'n gyfrifol am drafnidiaeth:
"Mae gwella cysylltiadau trafnidiaeth mewn cymunedau yn golygu gwella gwasanaethau a hefyd newid bywydau pobl ledled Cymru ac mae'n enghraifft wych o’r modd y gall buddsoddi mewn camau i fynd i'r afael â’r newid yn yr hinsawdd gyflawni manteision cymunedol llawer ehangach.
"Mae galluogi mwy o bobl i fanteisio ar opsiynau trafnidiaeth carbon isel, a sicrhau eu bod yn fwy deniadol, fforddiadwy a haws eu defnyddio nid yn unig yn briodol a chyfrifol er lles yr amgylchedd, ond mae hefyd yn hanfodol er mwyn cysylltu cymunedau."
Ychwanegodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden, sy'n gyfrifol am Gymoedd De Cymru o fewn Llywodraeth Cymru:
"Mae cynllun peilot Trafnidiaeth Cymoedd y Gorllewin rydym yn ei gyhoeddi heddiw wedi'i gynllunio i fynd i'r afael â materion y mae cymaint o bobl yng nghymunedau'r cymoedd yn eu hwynebu bob dydd - mynediad anaml ac annibynadwy at drafnidiaeth gyhoeddus, sy'n gallu achosi problemau sylweddol i bobl pan fydd angen iddynt deithio i gael mynediad at waith, addysg, gwasanaethau a chyfleoedd cymdeithasol.
"Mae'r buddsoddiad hwn yn rhan bwysig o'n gwaith i wella bywydau pobl sy'n byw yn y cymunedau hyn, ac yn tystio i ymrwymiad Llywodraeth Cymru i'r cymoedd."