Neidio i'r prif gynnwy

Wrth i’r diwydiant twristiaeth yng Nghymru baratoi ar gyfer penwythnos y Pasg, mae Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi, wedi cyhoeddi  £24 miliwn i ddatblygu a marchnata twristiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Ebrill 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y cyllid ychwanegol yn cael ei ddefnyddio ar gyfer marchnata a gwaith partneriaeth i gefnogi Blwyddyn y Chwedlau. Bydd hefyd yn rhoi hwb ariannol i’r sector preifat drwy’r Cynllun Cymorth Buddsoddi mewn Twristiaeth (TISS).  Bydd arian TISS ar gael hefyd i’r sector cyhoeddus wella cyfleusterau ac amwynderau ar gyfer ymwelwyr.
Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi: 
“Bydd y buddsoddiad hwn gan y Rhaglen Datblygu Gwledig yn gyfraniad sylweddol at y gwaith o ddatblygu’r cynnyrch sydd gennym yma yng Nghymru ac o farchnata Cymru i’r byd. Hefyd, bydd yn ein galluogi i sicrhau bod yr amwynderau iawn ar gael yn lleol; annog gwaith i ddatblygu cynnyrch arloesol sydd o’r ansawdd uchaf; ac y bydd yn ein helpu i werthu’r  nwyddau hyn ar draws y byd drwy weithgarwch marchnata Croeso Cymru. Yn ogystal â'r prosiectau twristiaeth presennol sy’n cael eu datblygu gyda phartneriaid yng Nghymru, ac a ariennir gan yr UE, rydym yn rhagweld buddsoddiad o fwy na £100 miliwn yn y sector hyd at 2020 a bydd hyn yn hwb sylweddol i allu Cymru i gystadlu yn y farchnad fyd-eang. 
“Rwyf wrth fy modd cael gwneud y cyhoeddiad hwn ar ddechrau tymor sy’n argoeli bod yn un prysur iawn i’r diwydiant twristiaeth yng Nghymru.  Rydym wedi gweld y ddwy flynedd orau erioed o ran twristiaeth wrth i’r ffigurau ar gyfer 9 mis cyntaf 2016 ddangos y bu cynnydd sylweddol o 12% yn nifer yr ymwelwyr tramor sy’n dod i Gymru, a chynnydd o 9% yn eu gwariant.   Rydym wedi gweld hefyd gynnydd sylweddol yn nifer yr ymwelwyr sy’n dod i Gymru am y dydd. Roedd cynnydd o 31% yng ngwariant ymwelwyr dydd y llynedd. Ein nod ar gyfer 2017 yw cynnal y ffigurau rhagorol hyn a pharhau i fuddsoddi ac arloesi mewn marchnata a datblygu cynnyrch. 
“Mae ymgyrch arloesol Blwyddyn y Chwedlau a gafodd ei lansio’n ddiweddar, sy’n cynnwys hysbyseb gan yr actor enwog Luke Evans, wedi’i chanmol gan arweinwyr y diwydiant twristiaeth. Roedd cynnydd sylweddol yn nifer yr ymwelwyr â gwefan  croesocymru.com gyda ymddangosiad cyntaf yr hysbyseb ar ddydd Gŵyl Dewi. Yn ogystal, edrychodd mwy na 1 miliwn o bobl ar sylwadau Facebook a gafodd eu cyhoeddi ar ddydd Dewi. Mae gwaith yr ymgyrch yn parhau i droi diddordeb cynnar yn archebion ar gyfer yr haf.
“Mae llythrennau EPIC, yn eu gwedd newydd ar gyfer Blwyddyn y Chwedlau, yn ôl yr wythnos hon ar gyfer y Pasg. Bydd ei ymddangosiad cyntaf y flwyddyn ym Mharc Margam.  Hoffwn ddymuno dechrau llwyddiannus ar gyfer y tymor i’r diwydiant.”

Bydd rhagor o wybodaeth am y broses ymgeisio am gyllid y Cynllun Datblygu Gwledig ar gael i’r diwydiant ar ôl gwyliau’r Pasg. Mae gwaith gosod celf teithiol arloesol Croeso Cymru, a oedd yn ganolbwynt ymgyrch yr haf y llynedd, wedi'i weddnewid yn ystod y gaeaf i adlewyrchu thema 2017, Blwyddyn y Chwedlau. Mae’r arwydd wedi’i ddiweddaru  â lluniau o’n chwedlau mwyaf poblogaidd ac adnabyddus.  Bydd modd i ymwelwyr ddarllen straeon y chwedlau gan y byddant yn cael eu hargraffu ar waelod yr arwydd 4 metr o uchder ac 11 metr o led.  Nodwedd arall o’r arwydd yw ffilm yr ymgyrch eleni gyda Luke Evans; gyda chod QR wedi’i argraffu ar yr arwydd er mwyn gweld y ffilm   Bydd yr arwydd ym Mharc Margam o ddydd Mawrth, 11 Ebrill hyd at Ŵyl Banc Mai, cyn symud i leoliad chwedlonol arall yng Nghymru. Unwaith eto, bydd y llythrennau yn gefndir i hun-luniau ac maen nhw wedi'u dylunio i annog pobl i rannu delweddau a chynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio hashnod yr ymgyrch #GwladGwlad #FindyourEpic. Cefnogir y daith gan ymgyrch integredig sy'n cynnwys gweithgarwch Cysylltiadau Cyhoeddus a chyfryngau eraill, gan gynnwys hysbysebion digidol, marchnata drwy e-bost a defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i dargedu teuluoedd ac ymwelwyr yn ein rhanbarthau craidd yng ngogledd-orllewin Lloegr, canolbarth Lloegr, Swydd Efrog, Llundain a de-ddwyrain Lloegr.