Bydd dros 800 o bobl yn y De yn elwa ar gynllun newydd gwerth £2.5m gyda chefnogaeth yr UE i'w helpu i gael gwaith.
Mae’r fenter Journey2Work yn cael ei harwain gan Gyngor Casnewydd ac yn cael cefnogaeth gwerth £1.3m o gyllid yr UE. Bydd yn rhoi cymorth arbenigol i bobl dros 25 oed sy'n ddi-waith ers cyfnod hir yng Nghasnewydd, Sir Fynwy a Chaerdydd.
Bydd y prosiect yn mentora, hyfforddi ac yn rhoi cymorth ariannol ar gyfer costau teithio a phrynu dillad gwaith, ynghyd â darparu cyfleoedd i wirfoddoli i bobl sy'n wynebu heriau sylweddol wrth gael gwaith.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford:
"Bydd cefnogi pobl dan anfantais ac agored i niwed i gael sgiliau newydd yn eu helpu i gymryd y camau nesaf er mwyn cael gwaith. Rwy'n falch bod cyllid yr Undeb Ewropeaidd yn cael ei fuddsoddi er mwyn cynyddu lefelau dysgu, trechu tlodi a chefnogi cymdeithas fwy cynhwysol yng Nghymru."
Ychwanegodd aelod cabinet Cyngor Casnewydd dros addysg a sgiliau, y Cynghorydd Gail Giles:
"Mae mor bwysig rhoi'r cymorth cywir i bobl er mwyn eu helpu i gael gwaith – nid yn unig er lles yr unigolion hyn, ond er budd ein cymunedau yn ehangach hefyd. Rwy'n falch iawn bod arian yn cael ei fuddsoddi yn y prosiect hwn, a bod Casnewydd yn gallu arwain ar y fenter hon."
Mae'r prosiect yn cael ei gyflawni mewn partneriaeth â Chymdeithas Tai Sir Fynwy a Chyngor Caerdydd, a bydd yn gweithio gyda phobl sy'n byw mewn tai cymdeithasol.