Neidio i'r prif gynnwy

Bydd rhaglen achub bywydau sy’n ceisio gwella cyfraddau goroesi ar ôl ataliad y galon yn cael cymorth ariannol o bron i £2.5m gan Lywodraeth Cymru dros y tair blynedd nesaf.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Gorffennaf 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd y cyllid yn galluogi i Achub Bywydau Cymru wella ymwybyddiaeth am gadwyn oroesi ataliad y galon, ac ariannu adnoddau addysgol a hyfforddiant gan gynnwys gwella mynediad y cyhoedd at ddiffibrilwyr.

Nod y rhaglen yw addysgu pobl Cymru am yr angen i helpu unrhyw un sy’n dioddef ataliad y galon y tu allan i’r ysbyty, a helpu i ddatblygu sgiliau a hyder pobl i roi CPR a defnyddio diffibriliwr.

Daw hyn wrth i ffigurau ddangos mai Cymru sydd ag un o’r cyfraddau goroesi isaf yn Ewrop, a’r isaf yn y DU os bydd rhywun yn cael ataliad y galon y tu allan i’r ysbyty. Mae’r gyfradd oroesi mor isel â 4.6% yng Nghymru, sy’n llai na hanner cyfradd Lloegr (9.4%); ac yn is na’r Alban (10.2%); Norwy (25%) a’r Iseldiroedd (21%).

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan:

Mae’n hanfodol ein bod ni’n addysgu pobl am yr hyn y dylent ei wneud pan fydd rhywun yn dioddef ataliad y galon y tu allan i’r ysbyty.

Drwy wella ymwybyddiaeth o’r sgiliau sylfaenol sydd eu hangen i roi CPR a defnyddio diffibriliwr, gallwn wneud gwahaniaeth sylweddol i’r cyfraddau goroesi.

Bydd y cyllid hwn yn helpu cymunedau i weithio gydag Achub Bywydau Cymru a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i wella’r ddarpariaeth o ddiffibrilwyr, eu cynnal a’u cadw, a meithrin y sgiliau angenrheidiol i achub bywydau.

Rydym yn falch o ariannu’r rhaglen hon a fydd hefyd yn cysylltu ag ysgolion, busnesau lleol, cynghorau tref a chymuned, clybiau chwaraeon ac academïau ar draws Cymru, a gobeithiwn y bydd o fudd i genedlaethau’r dyfodol.

Mae ataliad sydyn ar y galon yn her iechyd y cyhoedd ac mae angen adnoddau i addysgu a rhoi gwybod i bobl sut y gallant helpu rhywun mewn angen. Amcangyfrifir fod 6,000 o bobl yn dioddef ataliad y galon y tu allan i’r ysbyty yng Nghymru bob blwyddyn.

Y gobaith yw y bydd addysgu’r cyhoedd am beryglon ataliad y galon a rhoi hyfforddiant CPR a hyfforddiant defnyddio diffibriliwr iddynt yn arwain at well canlyniadau iechyd a chyfraddau goroesi.
Bydd y cyllid yn caniatáu i Achub Bywydau Cymru ymgymryd â’r Cynllun Ataliad y Galon y Tu Allan i’r Ysbyty. Bydd hefyd yn cynnwys cynlluniau partneriaeth gyda Phrifysgol Caerdydd, Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi a Chymdeithas Bêl-droed Cymru.

Dywedodd yr Athro Len Nokes, Cadeirydd Partneriaeth Achub Bywydau Cymru, meddyg clwb gyda Chlwb Pêl-droed Caerdydd a meddyg gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru:

Rwy’n falch iawn fod Llywodraeth Cymru’n cefnogi Achub Bywydau Cymru i barhau i ddarparu’r Cynllun Ataliad y Galon y Tu Allan i’r Ysbyty.

Fel y gwelsom yn ddiweddar yn Ewro 2020, gall ataliad y galon effeithio ar unrhyw un. Cafodd Christian Eriksen ataliad y galon ar y cae, ac mae’n fyw heddiw diolch i’w gyd-chwaraewyr a’r tîm meddygol a roddodd CPR a defnyddio diffibriliwr i achub ei fywyd.

Ni fydd tîm meddygol wrth law bob amser pan fydd rhywun yn dioddef ataliad y galon, ac felly ein nod yn Achub Bywydau Cymru yw ysbrydoli pawb yng Nghymru i ddysgu CPR a sgiliau diffibrilio i helpu i achub mwy o fywydau.

Bydd y cyllid hwn gan Lywodraeth Cymru yn ein helpu i weithio gyda chymunedau ar draws Cymru. Gallwn achub bywydau, ond rydym angen pobl sy’n fodlon helpu.

Bydd y cyllid hefyd yn ehangu’r ddarpariaeth o swyddogion sydd wedi’u hyfforddi i weithio gyda chymunedau i roi hwb i ddarparu a chynnal a chadw diffibrilwyr ar draws Cymru, yn debyg i’r swyddog cefnogi diffibrilwyr a ariennir gan elusen yn y Gogledd ac sy’n gweithio yng Ngwasanaeth Ambiwlans Cymru.