Beth sydd angen i chi ei wneud os oes rhaid i chi hunanynysu a’ch bod yn byw mewn cartref a rennir gydag eraill.
Os ydych yn byw mewn tŷ a rennir, rhaid i chi hysbysu’r rhai sy’n byw gyda chi os ydych chi:
- yn teimlo’n anhwylus ac yn meddwl bod gennych y coronafeirws
- wedi cael eich cynghori i hunanynysu
Mathau o lety a rennir
Efallai eich bod yn byw gyda ffrindiau, teulu neu bobl nad ydych yn eu hadnabod. Mae gwahanol fathau o lety a rennir, er enghraifft:
- tai amlfeddiannaeth
- hosteli
- llety prifysgol
- rhannu fflat
- tai cymdeithasol a rennir neu dai â chymorth
Os ydych yn rhannu cyfleusterau fel cegin neu ystafell ymolchi gyda ffrindiau, teulu neu bobl nad ydych yn eu hadnabod, rydych yn byw mewn llety a rennir.
Symptomau’r coronafeirws
Os byddwch yn arddangos symptomau’r coronafeirws, bydd rhaid i chi hunanynysu a gwneud cais am brawf cyn gynted â phosib.
Os ydych yn rhannu cegin neu ystafell ymolchi gydag eraill, gallech fod mewn mwy o risg o ledaenu neu ddal y coronafeirws.
Dywedwch wrth y rhai sy’n rhannu llety gyda chi os ydych yn hunanynysu
Mae pobl sy’n byw mewn llety a rennir yn ystod y pandemig coronafeirws yn cael eu trin fel aelwyd unigol. Mae hyn at ddibenion diogelu iechyd. Mae hyn yn golygu, os bydd unrhyw un sy’n byw yn yr un llety â chi ac yn rhannu cyfleusterau gyda chi yn arddangos symptomau’r coronafeirws neu angen hunanynysu, y bydd angen i chi i gyd hunanynysu, gan ddilyn y canllawiau aros gartref i aelwydydd â coronafeirws posibl.
Bydd angen i chi roi gwybod i’r rhai sy’n byw gyda chi ac/neu sy’n rhannu cyfleusterau gyda chi os ydych yn hunanynysu. Gallwch ddweud wrthynt eich hun, neu drwy eich landlord neu asiant gosod.
Gall y coronafeirws aros ar arwynebedd caled am hyd at 72 awr. Os yw’r coronafeirws arnoch, mae mwy o risg i chi ei basio i’r rhai sy’n byw gyda chi ac/neu sy’n rhannu cyfleusterau gyda chi drwy unrhyw arwynebedd yr ydych wedi dod i gysylltiad â nhw.
Os ydych wedi cael prawf positif am y coronafeirws (COVID-19), bydd swyddog olrhain cysylltiadau o wasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru yn cysylltu â chi. Byddant yn cysylltu â’r bobl sydd wedi dod i gysylltiad agos â chi ar eich rhan. Ni fydd eich enw yn cael ei ddatgelu heb eich caniatâd. Ceir rhagor o wybodaeth yma ynghylch olrhain cysylltiadau a sut mae’n gweithio.
Lleihau’r risg o heintio eraill
Dylech ddilyn ein canllawiau llawn ar hunanynysu a gofalu amdanoch eich hun gartref os oes gennych symptomau’r coronafeirws.
Gallwch leihau’r risg o heintio eraill drwy wneud y canlynol:
- peidio â chaniatáu i eraill ymweld â’ch cartref
- treulio cyn lleied o amser â phosibl mewn mannau a rennir fel ceginau, ystafell ymolchi ac ystafelloedd byw
- glanhau mannau a rennir, fel ceginau, ystafelloedd ymolchi ac ystafelloedd byw yn rheolaidd (pob arwynebedd)
- awyru mannau a rennir
- defnyddio ystafell ymolchi ar wahân i eraill os oes modd
- defnyddio eich brws dannedd eich hun
- glanhau’r toiled a’r ystafell ymolchi bob tro y byddwch yn eu defnyddio
- llunio rota ar gyfer yr ystafell ymolchi (chi ddylai fod yr olaf i ddefnyddio’r ystafell ymolchi)
- osgoi defnyddio’r gegin pan fo eraill yno, a mynd â’ch prydau i’w bwyta yn eich ystafell
- glanhau’r ardal rydych wedi’i defnyddio â hylif glanhau gwrthfacterol
- defnyddio peiriant golchi llestri, os oes un ar gael, i olchi llestri a chyllyll a ffyrc
- defnyddio hylif golchi llestri a dŵr cynnes i olchi llestri a chyllyll a ffyrc, a’u sychu’n drylwyr (peidiwch â rhannu llieiniau llestri)
- defnyddio cwpanau a gwydrau eich hunan (gan gynnwys yn yr ystafell ymolchi a’r ystafell wely), a llestri, diodydd, tywelion, gwlanen a dillad gwely eich hunan
Aelwydydd estynedig
- Darllenwch y canllawiau am aelwydydd estynedig a sut maent yn effeithio ar y rhai sy’n byw mewn llety a rennir.
Gwasanaethau glanhau
Os ydych wedi cytuno ar wasanaeth glanhau, dylech roi gwybod i’ch landlord neu asiant gosod os ydych chi neu unrhyw un arall yn yr eiddo yn hunanynysu; bydd angen cytuno ar broses wahanol. Ni ddylai unrhyw un ddod i’ch cartref i lanhau os oes rhywun yn arddangos symptomau’r coronafeirws ac/neu yn hunanynysu.
Symud i mewn i lety a rennir
Os ydych chi’n bwriadu symud i mewn i lety a rennir, dylech ddilyn ein canllawiau ar symud tŷ yn ystod y pandemig coronafeirws.
Cymorth ariannol
Edrychwch i weld pa gymorth ariannol sydd ar gael i chi, fel Tâl Salwch Statudol (SSP) os nad oes modd i chi weithio yn sgil y coronafeirws, neu wneud cais am gymorth ariannol brys drwy’r Gronfa Cymorth Dewisol (DAF).