Yn y canllaw hwn
1. Crynodeb
Horizon 2020 yw'r rhaglen Ewropeaidd gyfredol ar gyfer ymchwil ac arloesi. Mae ganddi gyllideb o €80 biliwn a bydd yn rhedeg tan 2020.
Nod y rhaglen yw:
- sicrhau bod sefydliadau (gan gynnwys busnesau a phrifysgolion) yn cynhyrchu gwyddoniaeth o'r radd flaenaf
- cael gwared ar rwystrau i arloesi
- rhoi'r cyfle i sefydliadau ar draws Cymru ac Ewrop weithio gyda'i gilydd i ymgeisio am gyllid ar gyfer gweithgarwch ymchwil
Mae sefydliadau Cymru wedi sicrhau €139 miliwn o gyllid Horizon 2020 ers dechrau'r rhaglen. Mae hyn wedi golygu 375 cyfranogiad a dros 4,000 enghraifft o gydweithio rhyngwladol.
Mae'r Comisiwn Ewropeaidd wedi cyhoeddi ei gynigion ar gyfer Horizon Ewrop, sef olynydd y rhaglen Horizon 2020.
Bydd Uned Horizon 2020 yn parhau i weithio gyda'i phartneriaid a Llywodraeth y DU i ddatblygu Horizon Ewrop.