Neidio i'r prif gynnwy

Hysbysiad preifatrwydd ar gyfer holiadur Gwersi a Ddysgwyd y Panel Carbon.

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Chwefror 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Mae gwyddonwyr cymdeithasol o fewn yr Uned Tystiolaeth Strategol yn cynnal ymarfer gwersi a ddysgwyd sy'n myfyrio ar waith y Panel Tystiolaeth Atafaelu Carbon, ar ran yr Uned Tystiolaeth Strategol ehangach o fewn Llywodraeth Cymru. 

Y nod o gasglu'r adborth hwn yw myfyrio ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy: y Panel Adolygu Tystiolaeth Atafaelu Carbon diweddar ac i lywio sut mae Llywodraeth Cymru yn cydweithio â rhanddeiliaid yn y dyfodol, yn enwedig mewn meysydd a nodweddir gan wyddoniaeth gymhleth neu ddadleuol, lle mae'n bwysig sicrhau bod gan bob un ohonom ddealltwriaeth gyffredin o'r sylfaen dystiolaeth.    

Llywodraeth Cymru yw’r rheolydd data ar gyfer y data. Ni fydd unrhyw ddata personol yn cael ei ddarparu gan y tîm ymchwil i eraill yn Llywodraeth Cymru oni bai eich bod yn gofyn inni wneud hynny. Eich dewis chi yn llwyr yw p'un a ydych am gymryd rhan yn yr arolwg hwn ai peidio. Mae'n gwbl wirfoddol. 

Bydd y canfyddiadau allweddol yn cael eu rhannu o fewn Llywodraeth Cymru ar ffurf adroddiad byr. Nid ein bwriad yw cyhoeddi'r ddogfen derfynol ond byddwn yn ei rhannu ag ymatebwyr pan fydd yn barod. Ni fydd yr adroddiad hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio'n hawdd i adnabod cyfranogwyr unigol (ond o ystyried y nifer bach o ymatebwyr, mae'n anodd gwarantu anhysbysrwydd llwyr). 

Pa ddata personol sy'n cael ei gadw gennym ac o ble yr ydym yn cael yr wybodaeth hon?

Diffinnir data personol o dan Reoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU (GDPR y DU) fel unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson adnabyddadwy y gellir ei adnabod, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, drwy gyfeirio at ffactor adnabod. 

Mae Llywodraeth Cymru yn cadw eich gwybodaeth bersonol (enw, cyfeiriad e-bost) oherwydd eich cyfranogiad yn y Panel Adolygu Tystiolaeth Atafaelu Carbon. Rydych wedi cael yr arolwg, neu ddolen iddo, oherwydd eich cyfranogiad.

Nid yw'r arolwg hwn yn gofyn ichi ddarparu unrhyw ddata personol. Wrth gwblhau'r arolwg, ni fydd eich cyfeiriad e-bost na'ch cyfeiriad IP yn cael eu casglu ac felly bydd eich ymatebion i'r arolwg yn ddienw. Fodd bynnag, os byddwch yn dewis darparu data personol ychwanegol fel rhan o'r arolwg yn y cwestiynau penagored, bydd yr wybodaeth hon yn cael ei golygu gan y tîm ymchwil yn Llywodraeth Cymru cyn dadansoddi'r data. Byddwn yn ceisio peidio â'i gwneud yn bosibl eich adnabod o'r ymatebion a rowch, neu eich cysylltu â'r ymatebion hynny (er y gallai hyn fod yn anoddach yn yr achos hwn oherwydd maint bach y grŵp). 

Os byddwch yn gofyn cwestiwn neu’n gwneud cwyn ac yn rhoi data personol er mwyn ichi allu cael ymateb, dim ond at y swyddog perthnasol y bydd Llywodraeth Cymru yn anfon eich cais, ac yna yn ei ddileu o ddata’r ymchwil.

Beth yw’r sail gyfreithlon dros ddefnyddio eich data?

Y sail gyfreithiol dros brosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i wneud rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru. 

Mae eich cyfranogiad yn gwbl wirfoddol. Mae casglu eich barn a'ch syniadau fel hyn yn bwysig i Lywodraeth Cymru i'n galluogi i wella'n barhaus y ffordd rydym yn gweithio. 

Pa mor ddiogel yw’ch data personol?

Mae data personol a ddarperir i Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw ar weinyddion diogel. Bydd unrhyw ddata personol y dewiswch eu darparu yn cael eu cadw yn y ffolder hon sydd â mynediad cyfyngedig. Ni fydd ymchwilwyr yn rhoi unrhyw wybodaeth bersonol wrth adrodd am ganfyddiadau.

Wrth gynnal arolygon, mae Llywodraeth Cymru’n defnyddio rhaglen o’r enw Smart Survey. Rydyn ni wedi gwneud yn siŵr bod Smart Survey yn cydymffurfio â GDPR y DU ac yn bodloni’n disgwyliadau o ran diogelu unrhyw ddata a gesglir trwy’r feddalwedd (e.e. caiff yr holl ddata eu prosesu o fewn gwledydd y DU). 

Mae gan Lywodraeth Cymru weithdrefnau i ymdrin ag unrhyw achosion o dor diogelwch data a amheuir. Os amheuir bod achos o dorri rheolau diogelwch data wedi digwydd, bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi gwybod ichi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol pan fo'n ofynnol inni wneud hynny yn ôl y gyfraith. 

Bydd y tîm ymchwil yn defnyddio'r wybodaeth a gesglir er mwyn llunio adroddiad. Ni fydd yr adroddiad hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio'n hawdd i adnabod cyfranogwyr unigol (ond o ystyried y nifer bach o ymatebwyr mae'n anodd gwarantu anhysbysrwydd llwyr).

Am faint rydym yn cadw’ch data personol?

Bydd unrhyw ddata personol a ddarparwyd mewn cwestiynau penagored yn yr arolwg yn cael eu dileu cyn i'r data gael eu dadansoddi.

Hawliau unigolion

O dan GDPR y DU, mae gennych hawliau mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol yr ydych yn ei rhoi fel rhan o'r ymchwil hon. Yn benodol, mae gennych yr hawl i wneud y canlynol:

  • Gweld copi o'ch data eich hun;
  • Gofyn inni gywiro gwallau yn y data hynny;
  • Gwrthwynebu neu gyfyngu ar unrhyw brosesu (o dan amgylchiadau penodol);
  • Gofyn i'ch data gael ei ddileu (o dan amgylchiadau penodol); a
  • Chyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Manylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth: 

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth

Wycliffe House,
Water Lane,
Wilmslow,
Cheshire,
SK9 5AF

Rhif ffôn: 0303 123 1113

Rhagor o wybodaeth

Os oes gennych ragor o gwestiynau am sut y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r data a roddir at ddibenion yr astudiaeth hon, neu os ydych am arfer eich hawliau drwy ddefnyddio GDPR y DU, cysylltwch â'r person isod:

Caryl Williams

Rhif ffôn: 03000 254971

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yn: 

Swyddog Diogelu Data

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.