Rhifedd? Llythrennedd? Sgiliau Bywyd? Cyngor ar yr hyn i'w wneud nesaf? Mae Llywodraeth Cymru yn gwahodd rhieni i roi eu barn ar yr hyn y dylai pobl ifanc 14 i 16 oed ei ddysgu.
Mae barn rhieni a gofalwyr yn hanfodol wrth sicrhau bod plant yn gadael yr ysgol gyda'r cymysgedd cywir o wybodaeth, sgiliau a galluoedd i fynd ymlaen i addysg bellach neu i fyd gwaith, meddai'r Gweinidog Addysg heddiw wrth iddo lansio ymgynghoriad ar yr Hawl i Ddysgu 14 i 16.
Mae'r ymgynghoriad hwn yn cynrychioli'r cam arwyddocaol nesaf wrth gyflwyno cwricwlwm newydd yng Nghymru. Mae ysgolion cynradd a blynyddoedd 7 ac 8 mewn ysgolion uwchradd wedi dechrau addysgu'r cwricwlwm newydd, a bydd blwyddyn 9 yn gwneud hynny ym mis Medi eleni. Wrth i'r broses gyflwyno gyrraedd blwyddyn 10 yn 2025, pan fo disgyblion yn dewis arbenigo mewn pynciau penodol ar gyfer cymwysterau, rhaid canolbwyntio hefyd ar y dysgu a'r paratoi ehangach sydd ei angen arnynt wrth iddynt ddod i gymryd eu camau nesaf i addysg neu gyflogaeth.
O dan y Cwricwlwm i Gymru, mae disgyblion yn elwa ar ddysgu sy'n eu cefnogi i ddod yn hyderus a chreadigol, gyda'r sgiliau bywyd a'r wybodaeth sydd eu hangen i'w helpu i gyrraedd eu potensial. Maent yn dysgu cymhwyso sgiliau academaidd i broblemau bywyd go iawn.
Yn ddiweddar, bu'r Gweinidog yn ymweld ag Ysgol Coedcae yn Llanelli, sy'n defnyddio'r cwricwlwm newydd i roi'r sgiliau angenrheidiol i bobl ifanc i ddatblygu llythrennedd ariannol. Mae hyn yn cynnwys cyfrifo canrannau mewn gwersi mathemateg a chymhwyso hyn i daliadau ar fenthyciadau gan gwmnïau benthyciadau llog uchel.
Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg:
Rydyn ni eisiau i bobl ifanc pan fyddan nhw'n 16 oed fod yn barod ar gyfer eu cam cyntaf i fywyd fel oedolyn. Rhaid i'r Hawl i Ddysgu 14 i 16 gynnwys y dysgu a'r cymorth sydd ei angen ar ddisgyblion ar gyfer bywyd y tu allan i'r ystafell ddosbarth, yn ogystal â'r cymwysterau sydd eu hangen arnynt i wneud cynnydd.
Mae'r Cwricwlwm i Gymru yn rhoi hyblygrwydd newydd i ysgolion er mwyn helpu disgyblion i wireddu eu potensial. Rydyn ni eisiau barn rhieni a gofalwyr yn benodol ar y mathau o ddysgu a phrofiadau sydd eu hangen ar y disgyblion er mwyn cael budd ochr yn ochr â'u cymwysterau. Bydd y rhain yn ychwanegu at safbwyntiau busnesau a darparwyr addysg bellach y bydd y dysgwyr hyn yn cymryd y camau nesaf yn eu datblygiad gyda nhw.
Mae edrych o'r newydd ar anghenion pobl ifanc 14 i 16 oed eisoes wedi cael ei groesawu gan y sector addysg bellach. Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio'n agos gyda'r sector hwn i sicrhau bod y Cwricwlwm newydd yn cyd-fynd ag anghenion a gofynion y dyfodol.
Dywedodd Prif Weithredwr Colegau Cymru, David Hagendyk:
Mae digon o dystiolaeth yn dangos pa mor bwysig yw hi i ddysgwyr ym Mlynyddoedd 10 ac 11 gael mynediad i'r wybodaeth a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt i baratoi ar gyfer y cyfnod pontio i addysg ôl-16.
Mae'r ymgynghoriad wrth reswm yn cydnabod bod hwn yn faes lle mae angen inni wneud mwy o gynnydd ac mae'n bwysig bod colegau ac ysgolion yn gweithio gyda'i gilydd mewn partneriaeth i gefnogi pob dysgwr.