Sut mae busnesau ar eu hennill ac yn gwella sgiliau drwy ymrwymo i fod yn gynaliadwy.
Mae Apleona UK, sy'n rhan o grŵp byd-eang Apleona, yn darparu rheolaeth integredig ar gyfleusterau. Mae profiad gan y grŵp o ddarparu ystod lawn o wasanaethau caled a meddal ar gyfer sefydliadau yn y sector preifat a'r sector cyhoeddus, gan gynnwys safleoedd fferyllol a gweithgynhyrchu, sefydliadau addysgol, amgylcheddau hollbwysig, swyddfeydd masnachol, campysau ymchwil a datblygu, a mwy.
Mae Apleona yn ymfalchïo mewn gweithio'n agos gyda'i gleientiaid, gan leihau'r defnydd o ynni yn eu heiddo a lleihau eu hôl troed carbon, yn ogystal â sicrhau bod unrhyw wastraff yn cael ei leihau a'i wahanu'n dda. Drwy wasanaethau Apleona, mae'n sicrhau bod ei ddull yn adlewyrchu ei ymrwymiad i gynaliadwyedd, arloesi a digideiddio.
Yng Nghymru yn unig, mae gan Apleona gontractau rheoli cyfleusterau gyda nifer o gleientiaid, gan gynnwys safle gweithgynhyrchu mawr ym Magwyr. Ar y safle hwn, mae Apleona yn gyfrifol am reoli swyddfeydd, arlwyo, glanhau, cynnal a chadw, a rheoli gwastraff.
Mae cynaliadwyedd wrth wraidd gweithrediadau'r safle, gyda rheoli gwastraff yn un o'r prif flaenoriaethau.
Dywed James Walker, Rheolwr Cyfleusterau Technegol:
"Ein prif ffocws ar y safle fu lleihau gwastraff ac arbed adnoddau gwerthfawr trwy ailddefnyddio eitemau lle bo modd. Rydym hefyd yn gwneud llawer o ymdrech i sicrhau bod yr holl wastraff ailgylchadwy yn cael ei wahanu, gan ddargyfeirio cymaint â phosibl oddi wrth safleoedd llosgi a thirlenwi.
"Rydym yn cydnabod ein rôl wrth gynnig cyfleoedd cyflogaeth a datblygiad proffesiynol ac rydym yn falch iawn o gael nifer o brentisiaid ar safle Magwyr, ac rydym yn edrych i gymryd tri arall yn fuan. Cyflwynir y prentisiaethau mewn partneriaeth â Choleg Caerdydd a’r Fro ac maent yn arbenigo mewn Rheoli Adnoddau yn Gynaliadwy."
Un o’r prentisiaid yw Hannah Lloyd, a ddechreuodd weithio yn Apleona yn 2020 ac sydd wedi dechrau prentisiaeth ar y safle ers hynny.
Dywed Hannah:
"Rwy’n teimlo’n angerddol am gynaliadwyedd. Rwy'n gwneud BSc mewn Gwyddor yr Amgylchedd (Rheolaeth a Thechnoleg) gyda'r Brifysgol Agored ar y cyd â'r brentisiaeth hon. Mae'n lle gwych i weithio. Rwy'n cael fy nghefnogi gan Apleona i ennill gwybodaeth a phrofiad gwerthfawr yn y maes cyffrous hwn o gynaliadwyedd. Rwy'n aelod o Bwyllgor Cynaliadwyedd y cwmni, rwy'n cefnogi'r gweithgor Hyrwyddwyr Ynni, lle rwy'n dysgu am reoli ynni, ac rwyf wedi cael hyfforddiant ar ddeddfwriaeth gwastraff. Hoffwn wneud gwahaniaeth trwy fy swydd a helpu Apleona, ein cleient a Chymru ar eu taith i fod yn sero net."
Mae ymrwymiad Apleona i gynaliadwyedd yn cyd-fynd ag ymrwymiad ei gleient, y mae wedi ymrwymo i ddefnyddio deunydd pecynnu y gellir ei ailgylchu yn unig. Ar ôl eu prynu a'u defnyddio, gellir dychwelyd cynhyrchion allweddol y cleient i'r safle a'u hailddefnyddio. Mae’n enghraifft wych o sut y bydd Cymru’n pontio i economi gylchol.
Wrth gwrs, mae’r ffocws ar reoli gwastraff yn cael effaith sylweddol ar swyddi a sgiliau.
Eglura James:
"Yn hanesyddol, nid oedd swyddi ym maes rheoli gwastraff yn cael eu hystyried yn yrfaoedd gwerth uchel. Mae’r hyfforddiant prentisiaeth yn dangos sut mae rheoli gwastraff o fudd i ardaloedd lleol ac yn ei dro o fudd i’r byd. Mae ein prentisiaid yn deall y gwahaniaeth y gallant ei wneud.
"Mae rheoli gwastraff yn sicr yn dod yn rôl fwy medrus. Rhywbeth rydym yn debygol o’i weld yn y dyfodol ym Magwyr yw systemau cyfrifiadurol sy’n ein helpu i ragweld tueddiadau yn ein gwastraff a bydd angen hyfforddiant ac uwchsgilio ar hynny hefyd."
Mae Apleona hefyd yn helpu ei gleient i leihau ei ôl troed carbon ac, yn ddiweddar, argymhellodd dechnoleg deallusrwydd artiffisial i leihau unrhyw golledion ynni, sydd â'r potensial i leihau'r defnydd o ynni hyd at 30 y cant.
James Dywed:
"Mae Magwyr yn lle cyffrous i fod. Yma, rydym yn gweld busnes yng Nghymru ar flaen y gad o ran mynd i’r afael â newid hinsawdd, ac mae ein prentisiaid yn profi hyn yn ymarferol."
Os ydych am gael rhagor o wybodaeth am Apleona, ewch i wefan Apleona.
Os ydych am gael rhagor o wybodaeth am recriwtio prentis, ewch i wefen prentisiaethau dewis doeth neu ffoniwch 03000 603 000.