I cychwyn Wythnos Twristiaeth Cymru mae'r Gweinidog, yr Arglwydd Elis-Thomas, yn Sir Benfro i ganmol diwydiant twristiaeth a phobl Cymru am wneud Cymru yn gyrchfan o radd flaenaf i ymwelwyr.
Bydd y Gweinidog yn ymweld â Noble Park sy'n eiddo i Celtic Holiday Parks i agor datblygiad glampio moethus yn swyddogol. Mae'r Parc yn eiddo i'r teulu Pendleton, sydd wedi bod yn croesawu ymwelwyr i Gymru ers 1980. Heddiw, bydd y Gweinidog yn cyfarfod ag aelodau o'r teulu a staff i ddiolch iddynt am eu hymdrechion.
Bob blwyddyn, mae Cymru yn croesawu mwy na 10 miliwn o ymwelwyr sy’n aros dros nos – sy’n fwy na thri ymwelydd am bob aelod o'r boblogaeth. Mae'r sgôr y mae Arolwg Ymwelwyr Cymru yn ei rhoi i'r ymdeimlad o groeso ac o ddiogelwch a geir yma, a hefyd i ansawdd ein hamgylchedd naturiol, ymhlith yr uchaf a roddir i unrhyw agwedd ar ymweliadau â Chymru.
Dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas:
Ar ôl penwythnos eithriadol o brysur a'r Ŵyl Banc ddechrau’r gwanwyn boethaf a gofnodwyd erioed – hoffwn ddiolch o galon i'r diwydiant twristiaeth yng Nghymru ac i bobl Cymru am groesawu ymwelwyr i'n gwlad, ac am wneud yn siŵr eu bod yn cael y profiad gorau posibl. Gallwn fod yn hyderus iawn yng ngallu Cymru i gystadlu mewn marchnad fyd-eang – ein pobl a'r croeso a geir yma yw rhai o'n hasedau gorau – a dwi’n bwriadu mynd ati i ddweud ‘Diolch’ yn ystod Wythnos Twristiaeth Cymru.
Aeth y Gweinidog yn ei flaen:
A chan mai thema Wythnos Twristiaeth Cymru yw cydweithio i gystadlu, hoffwn ddiolch hefyd i fusnesau yn y diwydiant am ymuno â'i gilydd i ddathlu’n blynyddoedd thematig a'n hymgyrchoedd marchnata − canlyniad hynny yw bod Cymru yn gyrchfan sydd â stori glir, gyfareddol a hyderus i'w hadrodd. Gan fod y diwydiant hefyd yn cefnogi'n gwaith ar y cyfryngau cymdeithasol, mae gennym bellach fwy nag 1 filiwn o ddilynwyr − cymuned ar-lein ddylanwadol sy'n cefnogi Cymru. Ar ôl Gŵyl y Banc brysur, gadewch inni gynnal y momentwm a'r hyder hwn wrth inni edrych ymlaen at dymor prysur dros yr haf.
Oherwydd heriau’r Pasg cynnar – a’r tywydd gwael – mae Croeso Cymru yn cynnal ymgyrch ddigidol ychwanegol yn gynnar yn yr haf, a fydd yn golygu mai Cymru fydd y lle cyntaf y bydd pobl yn meddwl amdano wrth edrych ar wyliau a theithiau undydd dros yr haf. Yn 2017 fe gynhyrchodd gwaith marchnata Croeso Cymru werth ychwanegol o £356 miliwn i economi Cymru.
Dywedodd Cyfarwyddwr Celtic Holiday Parks, Huw Pendleton, ei fod yn edrych ymlaen at groesawu'r Gweinidog a'i bod yn anrhydedd i'r Parc gael rhoi'r hwb cychwynnol i wythnos sydd mor bwysig i dwristiaeth yng Nghymru. Dywedodd hefyd:
Rydyn ni wedi cael llawer iawn o archebion ymlaen llaw, ac mae'r canrannau cyffredinol 30% yn uwch na ffigurau 2017. Yn ôl pob golwg, tameidiau o wyliau yw'r term allweddol yn y diwydiant ar hyn o bryd, a does dim dwywaith ein bod yn gweld hynny yn Celtic Holiday Parks. Llawer o wyliau byr gwahanol, gydag ymwelwyr yn mwynhau amrywiaeth o fathau gwahanol o lety bob tro. Dwi'n falch iawn bod y rhaglen o fuddsoddi cyson yn Celtic Holiday Parks yn creu swyddi sy’n cynnig dyfodol i bobl Sir Benfro, gan gynnig gyrfaoedd yn y sector lletygarwch a thwristiaeth.
Roedd Gŵyl Banc ddechrau'r Gwanwyn yn un brysur ar draws y rhanbarth. Dywedodd Pennaeth Marchnata Folly Farm, Zoe Wright:
Roedd y tywydd gwych dros benwythnos Gŵyl y Banc yn hwb aruthrol inni wrth i bobl heidio i Sir Benfro ar eu gwyliau neu i ymweld am y dydd. Mae nifer yr ymwelwyr 50% yn uwch nag yn ystod yr un cyfnod y llynedd ac rydyn ni'n edrych 'mlaen at Ŵyl y Banc ddiwedd mis Mai.