Neidio i'r prif gynnwy

Cefndir

Cafodd Cynllun Cymorth Hunanynysu Llywodraeth Cymru ei lansio ar 16 Tachwedd 2020. Roedd y taliadau wedi’u hôl-ddyddio i 23 Hydref. Mae’r cynllun hwn yn rhoi cymorth i bobl ar incwm isel sy’n methu gweithio oherwydd eu bod yn hunanynysu. Drwy’r cynllun hwn roedd unigolion yn gallu gwneud cais am daliad o £500 i’w helpu yn ystod eu cyfnod hunanynysu. Cafodd cyfradd y Taliad Hunanynysu ei chynyddu i £750 o 9 Awst 2021 ymlaen. Nid oedd unrhyw un o’r cyfranogwyr yn yr ymchwil hon wedi cael y taliad uwch o £750.  

Roedd Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi Llywodraeth Cymru ac Is-adran Ymchwil a Gwerthuso Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi comisiynu Beaufort Research i gynnal astudiaeth ansoddol o unigolion a gafodd gymorth ariannol pan oeddent yn hunanynysu. Roedd hyn yn cynnwys y rhai a oedd wedi cael y taliad o £500 drwy’r Cynllun Cymorth Hunanynysu neu daliad dewisol, sy’n cael eu gweinyddu drwy awdurdodau lleol. Mae un broses gwneud cais ar gyfer cymorth hunanynysu ac mae awdurdodau lleol yn penderfynu, ar sail y wybodaeth mae ymgeisydd yn ei chyflwyno, a fyddant yn darparu arian o’r prif gynllun neu’r elfen ddewisol.

Nodau a methodoleg yr ymchwil

Nod cyffredinol yr ymchwil oedd deall profiadau pobl o hunanynysu a’i effeithiau, ac yn benodol sut roedd hunanynysu wedi effeithio ar eu sefyllfa ariannol. Yr amcanion penodol oedd archwilio:

  • ymwybyddiaeth a gwybodaeth am gymorth ariannol i’r rhai y gofynnir iddynt hunanynysu
  • profiadau unigolion o wneud cais am gymorth ariannol
  • rhwystrau i wneud cais am gymorth ariannol
  • i ba raddau yr oedd cymorth ariannol wedi newid ymddygiadau hunanynysu
  • awgrymiadau ac argymhellion ar gyfer mathau eraill o gymorth ymarferol y gellid ei ddarparu i bobl y gofynnir iddynt hunanynysu

Roedd dull ansoddol yn addas ar gyfer hyd a lled yr adborth yr oedd ei angen i fodloni amcanion yr ymchwil. Cafodd cymysgedd o gyfweliadau lled-strwythurol dros y ffôn a grwpiau ffocws ar-lein ei ddefnyddio. Roedd 40 o bobl wedi cymryd rhan; cafodd yr holl gyfranogwyr eu samplu ar y sail eu bod wedi dweud bod ganddynt bryderon ariannol pan oeddent yn hunanynysu wrth gymryd rhan yn yr Arolwg Mewnwelediadau Ymddygiadol Ynghylch Ymlyniad Cysylltiadau wrth Hunanynysu (CABINS) a gynhaliwyd ym mis Tachwedd 2020. Roedd 10 cyfranogwr wedi cael taliad drwy’r cynllun neu daliad dewisol ond nid oeddent yn gwybod o reidrwydd pa fath o gymorth ariannol yr oeddent wedi’i gael (Cynllun Cymorth Hunanynysu neu daliad dewisol).

Roedd yr ymchwil wedi’i rhannu’n ddwy ran. Ar gyfer cam un, cafodd 20 o gyfranogwyr eu dewis ar gyfer cyfweliadau lled-strwythurol dros y ffôn o sampl o 1,011 o gyfranogwyr yn nhon gyntaf CABINS. Ar gyfer cam dau, a oedd yn cynnwys tri grŵp ffocws ar-lein a saith cyfweliad lled-strwythurol dros y ffôn, cafodd 20 yn rhagor o gyfranogwyr eu dewis o sampl o 1,016 o gyfranogwyr yn ail don CABINS. Cynhaliwyd y cyfweliadau a’r grwpiau ffocws rhwng mis Chwefror a mis Mawrth 2021.

Cafodd y cyfweliadau a’r grwpiau ffocws eu hwyluso gan Beaufort Research ar lwyfan Zoom neu dros y ffôn, gan ddefnyddio canllawiau pwnc a ddatblygwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, Llywodraeth Cymru a Beaufort Research.

Y prif ganfyddiadau

Daw’r canfyddiadau o astudiaethau achos o brofiadau unigol ac roedd y sampl o unigolion dan sylw wedi dweud yn flaenorol eu bod yn wynebu trafferthion ariannol. Oherwydd hynny, ni fwriedir i’r canfyddiadau hyn gynrychioli’r holl unigolion a gafodd gymorth drwy’r Cynllun Cymorth Hunanynysu, na’r boblogaeth gyffredinol. Ond mae’r canfyddiadau’n cynnig rhywfaint o ddealltwriaeth ansoddol, fanwl o hygyrchedd ac effeithiolrwydd y cynllun ar gyfer sampl o’r boblogaeth a oedd wedi datgelu eu bod yn wynebu trafferthion ariannol y gellir eu priodoli i’r pandemig.

Mae canfyddiadau’r astudiaeth achos wedi’u rhannu’n dri phrif bwnc: myfyrdodau’r cyfranogwyr ar y profiad o hunanynysu, myfyrdodau’r cyfranogwyr ar y Cynllun Cymorth Hunanynysu, a’u hawgrymiadau o ran cymorth pellach i bobl pan fyddant yn hunanynysu.

Profiadau o hunanynysu

Ar y cyfan, roedd cyfranogwyr yn disgrifio’r profiad o hunanynysu fel un anodd. Ymysg y geiriau a ddefnyddiwyd i grynhoi’r cyfnod hwn oedd ‘diflas’, ‘llawn straen’, ‘brawychus’, ‘ofnus’, ac ‘unig’. Roedd nifer o ffactorau’n cyfrannu at yr emosiynau hyn: cyllid, iechyd, lles, hanfodion y cartref, profiadau amrywiol gyda chyflogwyr, a barn ar fesurau hunanynysu.

Gan fod y cyfranogwyr wedi’u samplu ar y sail eu bod wedi dweud eu bod yn wynebu caledi ariannol i ryw raddau, roedd disgwyl y byddai cyfranogwyr yn nodi pryderon ariannol ymysg y prif effeithiau a oedd yn gysylltiedig â hunanynysu. Tynnwyd sylw at heriau ariannol yn rheolaidd. Roedd cyfranogwyr yn dweud eu bod yn cael llai o incwm ond bod y biliau yr un fath neu’n uwch hyd yn oed. Roedd rhai’n dweud bod eu costau siopa bwyd wedi cynyddu oherwydd eu bod yn gorfod siopa ar-lein. Roedd hunanynysu wedi ychwanegu at effeithiau niweidiol cronnol y pandemig ar sefyllfa ariannol rhai pobl. Dywedodd cyfranogwyr eu bod yn dibynnu ar ffynonellau fel arbedion, benthyca, cardiau credyd, tâl salwch statudol, ffyrlo, incwm partner, budd-daliadau, gohirio taliadau, a gwario llai. Dywedodd nifer isel o gyfranogwyr hunangyflogedig eu bod yn teimlo’n bryderus hefyd, gan nad oeddent yn gymwys ar gyfer y Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig er eu bod yn wynebu heriau ariannol neu’n gweithio ar gontract IR35, ac yn methu gweithio gartref. Roedd cyfnod hunanynysu rhai cyfranogwyr yn cyd-daro â’r Nadolig neu benblwyddi, a oedd wedi arwain at gostau ychwanegol.

Roedd pryderon iechyd a lles emosiynol cyfranogwyr wedi cyfrannu at y profiad o hunanynysu hefyd; mynegodd cyfranogwyr bryderon am gael y coronafeirws, mynd yn sâl yn sydyn a’r effaith bosibl ar eu hamodau iechyd presennol nhw a’u teuluoedd. Mynegodd cyfranogwyr deimladau o orbryder wedi’i achosi gan bryderon am arian ac iechyd, gweld eisiau teulu, a theimlo wedi’u hynysu neu’n gaeth gartref gyda phlant.

Roedd y mater ymarferol o gael gafael ar hanfodion y cartref wedi ychwanegu at yr anawsterau. Roedd hi’n anodd cael slotiau danfon ar gyfer siopa ar-lein ac roedd y newidiadau i arferion siopa wedi golygu biliau uwch i rai, heb fynediad at fanwerthwyr disgownt. Roedd casglu presgripsiynau yn gallu bod yn broblem hefyd. Dywedwyd bod dibynnu ar deulu a ffrindiau’n teimlo’n lletchwith weithiau. Ar y cyfan, nid oedd cyfranogwyr wedi paratoi mewn unrhyw ffordd cyn gwybod y byddai’n rhaid iddynt hunanynysu.

Cafwyd profiadau cymysg gyda chyflogwyr. Roedd rhai wedi cynnig cymorth ychwanegol gyda siopa, llenwi ffurflenni tâl salwch statudol a chadw mewn cysylltiad yn ystod y cyfnod hunanynysu i wneud yn siŵr eu bod yn iawn. Roedd rhai enghreifftiau lle nad oedd cyflogwyr wedi cydymdeimlo na helpu rhyw lawer, er enghraifft peidio â chynnig unrhyw gymorth ariannol na chyfeirio at gymorth posibl, a hynny cyn ac ar ôl lansio’r cynllun. Roedd rhai mewn swyddi ansicr yn y sector gofal yn teimlo nad oedd cyflogwyr wedi gofalu amdanynt a hwythau wedi gweithio shifftiau hir iawn iddynt, ac wedi wynebu risg uwch o ddal y feirws.

Ar y cyfan, roedd cyfranogwyr yn ystyried hunanynysu yn gam angenrheidiol i helpu i reoli’r feirws. Er hynny, roeddent yn adrodd yn rheolaidd eu bod yn gweld pobl eraill yn eu cymunedau yn peidio â chydymffurfio pan ofynnwyd iddynt hunanynysu. Roedd achosion prin lle nad oedd cyfranogwyr yn credu bod hunanynysu yn fuddiol.

Profiadau o’r Cynllun Cymorth Hunanynysu

Myfyriodd cyfranogwyr ar eu hymwybyddiaeth a’u dealltwriaeth o’r cynllun, ar eu profiad o wneud cais, ac ar lefel y taliad a’u rhesymau dros ynysu.

Ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r cynllun

Roedd cyfranogwyr wedi dod i wybod am y cynllun drwy amrywiaeth eang o ffynonellau, gan gynnwys: cyd-weithiwr; cyflogwr; teulu neu ffrindiau; Profi, Olrhain, Diogelu; system ar-lein Credyd Cynhwysol; y newyddion; gwefannau’r llywodraeth; yr ysgol; a Cyngor ar Bopeth. Roedd cyfranogwyr yn cwyno’n aml nad oedd y taliad yn cael ei hyrwyddo’n ddigonol.

Ymysg cyfranogwyr yn y cam cyntaf o’r ymchwil ansoddol (cyfweliadau ym mis Chwefror 2021), roedd rhywfaint o ymwybyddiaeth adeg y cyfweliad o’r Cynllun Cymorth Hunanynysu, ond nid oedd yn cael ei adnabod fel unrhyw deitl penodol. Roedd cyfranogwyr a gafodd eu cyfweld ym mis Mawrth yn dueddol o fod wedi dod i wybod amdano ar ôl cael cyfarwyddyd i hunanynysu, neu ar ôl y cyfnod hwn. Roedd y rhan fwyaf yn anymwybodol o’r opsiwn taliad dewisol cyn gwneud cais am y cynllun ac yn dal yn anymwybodol ohono yn ystod y trafodaethau ymchwil.

Cyn gwneud cais, roedd rhai’n credu bod y meini prawf cymhwysedd yn aneglur. Roedd ansicrwydd ynghylch cymhwysedd wedi parhau weithiau hyd yn oed ar ôl cael y £500 drwy’r cynllun neu’r taliad dewisol.

Ymysg y rhai a oedd yn gwybod am y cynllun ond heb wneud cais amdano, roedd unig gyfnod hunanynysu rhai wedi dod i ben cyn lansio’r cynllun. Rheswm arall, cyffredin dros beidio â gwneud cais er eu bod yn gwybod amdano oedd tybio na fyddent yn gymwys ar gyfer y taliad ac felly penderfynu peidio â mynd ar ei drywydd. Roedd camganfyddiadau ynghylch y meini prawf yn ffactor i rai (ee rhaid i chi fod yn cael budd-daliadau neu fod yn rhiant), yn ogystal â pheidio â gallu hawlio unrhyw beth o’r blaen a thybio bod eu hincwm yn rhy uchel. Roedd rhai wedi dychmygu sut byddai’r taliad wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol i’w hincwm a helpu i leddfu pryderon am eu sefyllfa ariannol.

Profiad o wneud cais

Ar y cyfan, roedd y cyfranogwyr a oedd wedi cael taliad yn fwy cadarnhaol ynghylch y profiad o wneud cais na’r rhai a oedd yn aflwyddiannus. Roedd safbwyntiau negyddol y rhai aflwyddiannus yn dueddol o ganolbwyntio mwy ar annhegwch canfyddedig y system yn hytrach na’r profiad defnyddiwr.

Ar ddechrau’r broses o wneud cais, roedd y meini prawf yn aneglur i gyfranogwyr yn aml, fel yr oedd y gwahaniaeth rhwng y cynllun a’r taliad dewisol i’r ychydig rai a sylwodd arno wrth ddod ar draws y ddau. Roedd eu siawns o gael taliad drwy’r cynllun neu daliad dewisol yn amheus ganddynt ond penderfynon fwrw ymlaen â’r cais.

Dywedodd rhai ei bod wedi bod yn eithaf syml dod o hyd i ddogfennau fel slipiau cyflog a chyfriflenni banc, a’u hatodi i’w cais. Roedd rhai wedi’i gweld hi’n ychydig mwy o faich casglu dogfennau a’u llwytho i fyny, er enghraifft tynnu sgrin-lun o gyfriflen banc – rhywbeth nad oedd yn bosibl yn eu tyb nhw. Weithiau, roedd cyfranogwyr a oedd wedi gwneud cais aflwyddiannus am y cynllun yn meddwl tybed pam roedd angen cymaint o wybodaeth ar yr awdurdod lleol. Ar y cyfan, roedd cyfranogwyr a oedd wedi gwneud cais yn credu bod y cwestiynau a’r iaith yn ddigon syml, ac ni wnaethant gofnodi unrhyw broblemau sylweddol.

Roedd canlyniad ceisiadau i’r cynllun yn teimlo’n annheg i ymgeiswyr aflwyddiannus yn aml. Roeddent yn teimlo eu bod yn cael eu cosbi am weithio’n galed a’i chael hi’n anodd yn ariannol o hyd. Teimlwyd bod y canlyniad yn fwy siomedig byth ar ôl gwneud ymdrech i ddod o hyd i ddogfennau neu pan oedd y cais wedi’i wneud yn anfodlon, a hwythau erioed wedi dibynnu ar grantiau neu fudd-daliadau o’r blaen.

Lefel y taliad a’r rhesymau dros ynysu

Ar y cyfan, a dim ots a oeddent wedi’i gael ai peidio, dywedodd cyfranogwyr yn yr astudiaeth ansoddol hon fod £500 yn swm defnyddiol. Roedd rhai a oedd wedi cael taliad yn dweud bod y taliad o £500 yn debyg i’r incwm byddent wedi’i ennill.

Roedd yr arian wedi helpu cyfranogwyr gyda sefydlogrwydd ariannol cyffredinol ac agweddau fel rhent, bwyd, biliau ynni, petrol, biliau ffôn symudol ac ad-dalu benthyciadau gan deulu. Roedd y taliad yn rhyddhad i gyfranogwyr. Roedd wedi helpu i leddfu’r pwysau i ryw raddau. Heb y taliad, roedd rhai’n disgwyl y byddent wedi cael trafferth talu biliau angenrheidiol a mynd i ddyledion (pellach). Roedd y rhan fwyaf wedi rhoi gwybod i bobl eraill am y cynllun.

Dywedodd cyfranogwyr ar draws yr astudiaeth fod ffactorau eraill wedi eu cymell i hunanynysu ac aros gartref, fel diogelu aelodau o’r teulu a’r gymuned ehangach, cydymffurfedd, ‘gwneud y peth iawn’ ac, weithiau, cael eu dal. Roedd rhai’n credu y gallai’r cynllun annog pobl eraill i aros gartref neu i beidio â pharhau i weithio yn ystod y cyfnod hwnnw o bosibl pe baent ar incwm isel.

Roedd cyfranogwyr yn dueddol o fod yn fodlon ar ba mor hir y cymerodd i gael y taliad, ac roedd rhai wedi disgwyl iddo gymryd hirach i gyrraedd. Fodd bynnag, roedd cwpl o gyfranogwyr wedi gorfod mynd ar drywydd eu cais ac aros hyd at fis am ganlyniad.

Cymorth pellach i bobl yn ystod y cyfnod hunanynysu

Gofynnwyd i gyfranogwyr am unrhyw awgrymiadau ar gyfer cymorth ychwanegol a fyddai wedi eu helpu nhw a phobl ar incwm isel i hunanynysu. Dywedwyd yn rheolaidd bod cymorth ariannol yn hollbwysig ac weithiau roedd cyfranogwyr yn ei chael hi’n anodd meddwl beth arall allai fod yn ddefnyddiol.

Roedd rhai cyfranogwyr yn credu y dylid hyrwyddo’r cymorth ariannol yn well, er enghraifft gofyn i’r holl gynghorwyr Profi, Olrhain, Diogelu sôn amdano wrth y rhai y gofynnir iddynt hunanynysu. Dylai hyn gynnwys gwybodaeth ar ble a sut mae gwneud cais am y cynllun, a gofynion cymhwysedd clir. Roedd rhai a oedd wedi gwneud cais aflwyddiannus neu heb wneud cais yn credu y dylid ehangu’r meini prawf cymhwysedd.

Gan fyfyrio ar y problemau wrth hunanynysu, daeth siopa bwyd a slotiau danfon i’r amlwg fel maes lle byddai rhai cyfranogwyr wedi croesawu cymorth.

Hefyd, awgrymodd rhai y gallai cynghorwyr Profi, Olrhain, Diogelu ddarparu rhagor o wybodaeth a chyfeirio at y gwahanol fathau o gymorth sydd ar gael. Gan adeiladu ar y pwynt hwn, roedd rhai’n credu y dylid cynnig cymorth iechyd meddwl a lles hefyd. Awgrym arall oedd rhagor o gymorth i’r rhai â symptomau tymor hirach o’r coronafeirws.

Roedd cymorth ar gyfer biliau ynni a thaliadau rhent yn syniadau eraill – gallai darparwyr tai cymdeithasol roi seibiannau talu i denantiaid. 

Roedd y syniadau ar gyfer cymorth a gafodd eu cynnig, sef cymorth gyda thalebau bwyd, cyfrifoldebau gofalu a gwasanaethau mynd â’r ci am dro yn swnio’n ddefnyddiol i gyfranogwyr hefyd.

Casgliadau

Roedd hunanynysu’n effeithio ar sefyllfa ariannol nifer o gyfranogwyr yn yr ymchwil hon, a dylid nodi bod unigolion wedi cael eu dewis ar y sail hon. Roedd y pandemig yn gyffredinol – a chyfnodau hunanynysu blaenorol mewn rhai achosion – yn cyfrannu’n aml at heriau ariannol cyfranogwyr. Gan fod arian yn cael ei gydbwyso’n ofalus, gallai cyfnod hunanynysu olygu dyledion (pellach), er enghraifft i’r rhai sy’n methu cael gafael ar gymorth. Gellid effeithio ar les emosiynol hefyd, gan ychwanegu at y pryderon cyffredinol sy’n codi yn ystod y cyfnod hunanynysu.

Mae’r ymchwil yn dangos bod ymwybyddiaeth o’r cynllun a’r taliad dewisol yn eithaf isel ymysg y cyfranogwyr, a bod dryswch ynghylch cymhwysedd hyd yn oed ar ôl cael taliad. Ar ben hynny, anaml iawn yr oedd cyfranogwyr wedi’i weld yn cael ei hyrwyddo’n swyddogol. Roedd y diffyg amlygrwydd ymddangosiadol hwn, ar y cyd â diffyg eglurder o ran cymhwysedd ac amheuon ynglŷn â llwyddiant cais, yn effeithio ar y defnydd ymysg y rhai a allai fod ei angen.

Gan amlaf, nid oedd y profiad ar-lein yn atal ceisiadau ond roedd yr helaethrwydd o wybodaeth a dogfennau ategol a oedd eu hangen yn broblem weithiau. Fodd bynnag, byddai’r dull o wneud penderfyniadau yn elwa ar fod mor eglur â phosibl i ymgeiswyr aflwyddiannus, yn enwedig oherwydd bod y meini prawf cymhwysedd yn gallu bod yn aneglur.

Canfuwyd bod y cynllun a’r taliad dewisol yn gwneud gwahaniaeth i sefyllfa ariannol derbynyddion o ganlyniad i’r cyfnod hunanynysu, ac roedd y cymorth ariannol yn cael ei groesawu.  Fodd bynnag, heblaw am un neu ddau eithriad, nid oedd cyfranogwyr yn rhoi’r argraff bod y cynllun yn newid eu hymddygiadau hunanynysu, yn enwedig gan eu bod yn ansicr a fyddent yn cael y taliad a bod rhai ceisiadau wedi cael eu gwneud ar ôl y cyfnod hunanynysu. Ffactorau seiliedig ar werthoedd (fel bod eisiau gwneud y peth iawn) oedd eu prif gymelliannau dros aros gartref.

Gwybodaeth bellach

Awduron yr Adroddiad: Fiona McAllister, Adam Blunt, Catrin Davies

Mae’r safbwyntiau a fynegwyd yn yr adroddiad hwn yn perthyn i’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd Llywodraeth Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:
Ian Jones
E-bost: ymchwil.gwasanaethaucyhoeddus@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Rhif ymchwil cymdeithasol: 21/2022
ISBN digidol: 978-1-80391-691-0

Image
GSR logo