Gall cynghorau gael hyd at £120 miliwn i drwsio rhagor o ffyrdd lleol dros y ddwy flynedd nesaf, i ddatrys ffyrdd problemus yn eu hardal.

Bydd y cyllid, a gyhoeddwyd fel rhan o gyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025 i 2026, yn galluogi cynlluniau i osod wyneb newydd ar ffyrdd lleol ledled Cymru.
Bydd ffyrdd sydd angen eu trwsio fwyaf yn cael eu hadnewyddu, a bydd degau o filoedd o dyllau yn cael eu trwsio a'u hatal. Bydd pontydd a phalmentydd hefyd yn cael eu trwsio.
Mae hyn yn cynnwys Heol Orchwy yn Nhreorci, lle mae trigolion yn elwa ar wyneb ffordd gwell.
Ymwelodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford, â'r prosiect. Dywedodd:
Mae'r gwelliannau hyn yn dangos ein hymrwymiad i sicrhau trafnidiaeth well. Drwy fuddsoddi mewn trwsio ffyrdd lleol, byddwn yn cysylltu ein cymunedau ac yn gwella teithiau bob dydd pobl.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru:
Rydyn ni'n falch iawn o gael y cyllid ychwanegol hwn ar gyfer ffyrdd, a bydd yn helpu Cyngor Rhondda Cynon Taf, a chynghorau ledled Cymru i wneud gwelliannau sylweddol ar gyfer trigolion.
Rydyn ni'n gwybod bod trigolion Rhondda Cynon Taf am i'w ffyrdd fod yn y cyflwr gorau posibl, er mwyn gallu cyrraedd lleoliadau gwaith, addysg a hamdden yn ddidrafferth. Bydd y cyllid hwn yn helpu i gefnogi ein huchelgais i barhau i gyflawni ar gyfer ein cymunedau.