Aeth y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol Hannah Blythyn i ymweld â Hwlffordd yr wythnos yma i weld sut y cafodd adeilad a fu’n segur am amser hir a hen westy eu hadfywio o ganlyniad i arian gan Lywodraeth Cymru.
Yn sgil cael swm o £300,000 fel Benthyciad Canol Trefi llwyddwyd i drosi hen adeilad Gradd II Gwesty Pembroke House – a gafodd ei gau yn 2010 - yn 21 o fflatiau yng nghanol y dref. Mae Cronfa Benthyciad Canol Trefi Llywodraeth Cymru sydd werth £31 miliwn yn helpu i roi bywyd newydd i safleoedd nad ydynt yn cael eu defnyddio mwyach yng nghanol trefi. Unwaith y bydd y benthyciadau’n cael eu had-dalu bydd yr arian yn cael ei ailgylchu i ariannu benthyciadau newydd.
O ganlyniad i ailgynllunio 29 Y Stryd Fawr, mae tair uned breswyl wedi’u creu ar y lloriau uchaf a safle manwerthu ar y llawr gwaelod, diolch i £71,000 o arian drwy Dargedu Buddsoddiad mewn Adfywio a £180,000 o arian drwy Fenthyciadau Canol Trefi.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol Hannah Blythyn:
Mae’n dda gen i weld sut mae ein cyllid drwy’r rhaglen Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio a’r cynllun Benthyciadau Canol Trefi yn rhoi bywyd newydd i hen adeiladau.
Ein nod yw cefnogi canol ein trefi er mwyn sicrhau eu bod yn llefydd atyniadol, ffyniannus i bobl fyw a gweithio ynddynt ac ymweld â hwy.
Bydd creu mwy o safleoedd masnachol a manwerthu safonol yn helpu yn hyn o beth, fel yn wir y bydd creu tai fforddiadwy yng nghanol ein trefi, fel y gall pobl fyw a gweithio’n ganolog a chyfrannu i’r economi leol.
Bydd y buddsoddiad hwn yn yr eiddo gwag yn helpu i greu cyfleoedd newydd a denu mwy o bobl i ganol ein trefi. Edrychaf ymlaen at weld y datblygiad hwn yn dod yn fyw unwaith gyda phreswylwyr a busnesau.
Dywedodd David Simpson, Arweinydd Cyngor Sir Penfro:
Rwy’n falch iawn bod y Dirprwy Weinidog wedi gwneud ei ffordd i Sir Benfro i weld peth o’r gwaith rydyn ni’n ei wneud fel rhan o’n rhaglen adfywio.
Rwy’n wirioneddol falch o’r ffordd y mae ein Gweinyddiaeth wedi ymrwymo ei hun i raglen o welliannau ledled y sir ac rwyf i a’m Cabinet yn llawn cyffro am yr hyn a ddaw yn sgil hyn i’r rhanbarth.
Rydym yn edrych ymlaen at weld y cynlluniau hyn yn cael eu gwireddu yn ystod y misoedd a’r blynyddoedd i ddod.