rgb(0,0,0)
rgb(30,37,79)
Helpwch ni i’ch helpu chi
Mae sawl ffordd o gael y gofal cywir, yn y lle cywir, y tro cyntaf.
O fferyllwyr i optometryddion i unedau mân anafiadau ac o linellau cymorth iechyd meddwl i ymgyngoriadau ar-lein, mae sawl ffordd o gael mynediad at wasanaethau gofal iechyd yng Nghymru.
Felly mae'n haws cael gofal, cymorth a chyngor ar gyfer cyflyrau newydd neu gyflyrau sydd gennych yn barod, yn aml heb hyd yn oed adael eich cartref neu'ch gweithle.
Ffyrdd gwahanol o gael mynediad i'r Gwasanaeth Iechyd
Dod o hyd i'r help sydd ei angen arnoch

Dewch o hyd i wasanaethau iechyd sy'n agos atoch chi fel fferyllwyr, optometryddion, meddygon a gwasanaethau ysbyty.

Darganfyddwch sut i gael mynediad at wasanaethau deintyddol y GIG

Gallwch gael cyngor am ddim gan eich fferyllydd ar faterion fel meddyginiaeth, brechu a rhoi'r gorau i ysmygu – yn aml heb apwyntiad.

Gallwch gael ymgynghoriad a thriniaeth am ddim ar gyfer 28 o gyflyrau cyffredin mewn fferyllfa leol.

Ddim yn siŵr pa wasanaeth i'w ddefnyddio? Defnyddiwch y gwirydd symptomau ar-lein i'ch cyfeirio at y lle cywir.

Darganfyddwch sut y gall pecyn cymorth cyntaf sydd â stoc dda gartref eich helpu i drin mân friwiau, cnociau a chrafiadau.
Gofalu am eich iechyd meddwl

Gallwch gael cymorth gan linell wrando gyfrinachol a chymorth emosiynol sydd ar agor 24 awr y dydd, bob dydd.

Gallwch gymryd cwrs Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT) am ddim ar-lein i helpu gyda gorbryder ac iselder.

Ar gael i bawb, 24 awr y dydd, bob dydd ar draws Cymru gyfan.
Gofalu am eich llesiant corfforol

Gallwch gael cyngor am ddim gan y GIG wedi'i deilwra i'ch anghenion ar sut i gyrraedd a chynnal pwysau iach.

Dysgwch am yr ystod eang o fuddion iechyd sy'n gysylltiedig ag ymarfer corff, yn enwedig os ydych chi'n aros am driniaeth.

Cefnogaeth am ddim gan y GIG i bobl sy'n awyddus i roi'r gorau i ysmygu am byth.