Neidio i'r prif gynnwy

Gyda dyddiad cau’r ymgynghoriad ar Gynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol Llywodraeth Cymru yn agosáu ddydd Iau 15 Gorffennaf, mae Jane Hutt, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol, wedi cyhoeddi apêl i sefydliadau ac unigolion ledled Cymru i sicrhau eu bod yn helpu i greu'r Gymru wirioneddol wrth-hiliol yr ydym i gyd am ei gweld.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Gorffennaf 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dywedodd y Gweinidog:

Fel Llywodraeth, credwn o ddifrif nad yw mynd i'r afael â hiliaeth ac anghydraddoldeb yn ymwneud â geiriau'n unig, mae'n ymwneud â'n gweithredoedd hefyd. Dim ond drwy wrando a gweithredu y gallwn sicrhau newid gwirioneddol

Mae'n bwysig i ni i gyd stopio a gofyn i ni'n hunain pa gamau ydyn ni wedi’u cymryd i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb hiliol systemig? Mae hwn yn brawf, i bob un ohonom, ddangos sut y byddwn i gyd yn gweithio tuag at ddileu hiliaeth yn ein cymdeithas, gyda'n gilydd.

Dyna pam yr ymrwymodd Llywodraeth Cymru i gynhyrchu nifer o ddarnau pwysig o waith i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau strwythurol hirdymor ac yn bwysicaf oll, darparu cymdeithas decach a mwy cyfartal.

Mae ein Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol drafft, a ddatblygwyd ar y cyd, yn seiliedig ar werthoedd gwrth-hiliaeth ac mae'n hanfodol bwysig ein bod i gyd yn cyfrannu ato cyn diwedd y cyfnod ymgynghori.

Gwyddom mai dim ond dechrau proses hir yw hyn, a bod arnom angen cymorth ein cymunedau i greu'r Gymru wrth-hiliol yr ydym i gyd am fyw ynddi, a ffynnu ynddi. Os cawn hyn yn iawn, byddwn yn creu cymdeithas lle mae pawb yn cael eu gwerthfawrogi am bwy ydynt a'r cyfraniad a wnânt.

Pan fydd hynny'n digwydd, rydyn ni i gyd yn ennill.

Wrth dynnu sylw at bwysigrwydd cymryd rhan yn yr ymgynghoriad, dywedodd yr Athro Emmanuel Ogbonna, Cyd-Gadeirydd Grŵp Llywio'r Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol:

Mae'r Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol yn nodi gweledigaeth a gwerthoedd ar gyfer Cymru wrth-hiliol, gyda 'nodau', 'camau gweithredu' 'amserlenni', a 'chanlyniadau' diriaethol a fydd yn ein helpu i symud o'r 'rhethreg' ar gydraddoldeb hiliol a sicrhau ein bod yn cyflawni camau ystyrlon. Rydym am i holl gymdeithas Cymru ymgysylltu â'r Cynllun a helpu i gyflawni, ymhlith pethau eraill, marchnad gyflogaeth deg, system addysg a hyfforddiant decach a chyfartalu cyfleoedd a chanlyniadau hiliol mewn gofal iechyd.

Credwn y bydd gweithredu'r cynllun hwn yn llwyddiannus o fudd gwirioneddol i bawb, ledled Cymru. Ond mae angen eich lleisiau, eich profiadau a'ch gwybodaeth chi arnom i'n helpu i greu'r Gymru wirioneddol wrth-hiliol yr ydym i gyd am ei gweld.

Dywedodd Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru:

Mae'n hanfodol bwysig bod pawb ar draws ein cymdeithas yn ymgysylltu â'r Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol. Dyma ein cyfle i lunio'r Gymru yr ydym am ei chael yn y dyfodol: gwlad decach a theg sy'n cyflawni i bawb - ac yn bwysicaf oll i bobl o leiafrifoedd ethnig sydd wedi cael eu gwthio i'r cyrion yn rhy aml.

Gwyddom i gyd fod arnom angen ymrwymiad ac uchelgais gwirioneddol er mwyn mynd i'r afael â phla hiliaeth. Bydd y Cynllun hwn yn ein galluogi i bennu'r nodau a'r camau gweithredu angenrheidiol, a bydd mynd i'r afael ag arferion gormesol a gwahaniaethol yn y gweithle yn rhan allweddol o hyn. Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth Cymru a'i dwyn i gyfrif wrth i ni frwydro dros Gymru wirioneddol wrth-hiliol.

Wrth gloi, dywedodd y Gweinidog:

Mae dileu hiliaeth a hyrwyddo canlyniadau cyfartal wedi bod yn brif flaenoriaeth i  Lywodraeth Cymru erioed ac mae ein gwaith dros y blynyddoedd diwethaf wedi arwain at gyd-greu'r Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol.

Felly ymunwch â ni, cymerwch ran a helpwch ni i greu'r Gymru wirioneddol wrth-hiliol rydyn ni i gyd eisiau ei gweld.