Neidio i'r prif gynnwy

Mae panel sy'n adolygu dyfodol Cynghorau Cymuned yng Nghymru yn chwilio am ddau aelod.

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Mehefin 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, cyhoeddodd Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, fod Llywodraeth Cymru yn chwilio am ddau aelod i ymuno â phanel sy'n cael ei gadeirio ar y cyd gan y cyn-Aelodau'r Cynulliad Gwenda Thomas a Rhodri Glyn Thomas. 

Bydd cyn-Aelod y Cynulliad arall, sef William Graham, a Kathryn Silk, sy'n gynghorydd cymuned ym Mhowys, yn ymuno â'r ddau Gadeirydd. 

Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn am ddatganiadau o ddiddordeb gan glercod cynghorau cymuned a'r rheini sy'n gweithio'n uniongyrchol gyda chymunedau – yn y sectorau cyhoeddus, gwirfoddol neu breifat. 

Mae'r adolygiad yn rhan o gynlluniau ehangach Llywodraeth Cymru i ddiwygio llywodraeth leol a'r nod yw sicrhau bod y mwyafrif o lefelau llywodraeth yn gweithio'n dda ac yn cyflawni. 

Bydd aelodau'r panel yn cael y dasg o edrych ar rôl bosibl cynghorau cymuned; diffinio'r model/strwythur mwyaf priodol ar gyfer llywodraeth leol i gyflawni'r rôl hon yn effeithiol ac ystyried sut y gellid rhoi'r model hwn ar waith ym mhob cwr o Gymru.

Wrth gyhoeddi manylion yr adolygiad heddiw, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet: 

“Allwn ni ddim â gorbwysleisio faint o wahaniaeth y gall cynghorau cymuned da ei wneud. Cynghorau cymuned sydd fel arfer agosaf at y bobl sy'n cael eu gwasanaethu ganddyn nhw ac, o gadw hynny mewn cof, dyma'r cynghorau sydd hefyd yn y sefyllfa orau i ddarparu gwasanaethau ar gyfer yr ardal leol. 

“Ond er bod yna rai cynghorau cymuned da iawn ledled Cymru, maen nhw'n amrywio o ran eu maint a'u cyfrifoldebau, ac mae rhai ohonyn nhw'n cynnwys y gymuned yn fwy nag eraill.  

“Dyna pam mae'n rhaid inni gael sgwrs agored am sut fath o rôl y gallai Cynghorau Cymuned ei chwarae yn y dyfodol a sut allwn ni roi strwythur cyson ar waith sy'n gwasanaethu pob un o'n cymunedau'n dda.

“Mae cynrychiolwyr o bob un o'r prif bleidiau gwleidyddol mewn llywodraeth leol yng Nghymru yn eistedd ar y panel a bydd y panel hefyd yn gwneud llawer i ennyn diddordeb pobl mewn materion gwleidyddol.

“Mae angen dau aelod arall arnon ni nawr a fydd yn gallu cael dylanwad, yn seiliedig ar eu profiadau nhw eu hunain, ar waith y panel. Rydyn ni'n annog unrhyw un sydd â chefndir cadarn o ymdrin â materion cymunedol i ymgeisio.”

Y bwriad yw dechrau'r adolygiad cynhwysol hwn o Gynghorau Cymuned, a fydd yn seiliedig ar dystiolaeth, ym mis Gorffennaf ac mae'n debygol o bara blwyddyn. Bydd gwahoddiad i'r holl randdeiliaid perthnasol gyfrannu. Bydd hynny yn cynnwys cynghorau cymuned a thref, prif gynghorau a grwpiau cymunedol a'r trydydd sector ac eraill.